Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld cynllun adsefydlu ar waith yng ngharchar Caerdydd

Bu’r Arglwydd Bourne, sy'n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymweld â charchar Caerdydd heddiw i weld sut mae un o garchardai mwyaf Cymru yn paratoi troseddwyr ar gyfer bywyd y tu allan i’r carchar.

Bu’r Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymweld â charchar Caerdydd heddiw i weld sut mae un o garchardai mwyaf Cymru yn cynnig hyfforddiant a chymorth ailsefydlu i droseddwyr.

Wrth fynd o amgylch y carchar, cafodd gyfle i gyfarfod â staff y carchar a’r gwasanaeth prawf, yn ogystal â charcharorion, er mwyn trafod sut mae’r carchar yn paratoi troseddwyr ar gyfer eu rhyddhau i’r gymuned.

Bu’r Arglwydd Bourne yn gweld y dderbynfa, yr adain noson gyntaf, yr uned arwahanu, yr adran addysg a’r gweithdai.

Cafodd ginio ym Mwyty Clink hefyd, lle mae carcharorion yn hyfforddi i fod yn gogyddion ac yn dysgu sut mae gweini, gan ddilyn cymwysterau lletygarwch mewn man gwaith go iawn. Yn ddiweddar, roedd y bwyty ar frig rhestr TripAdvisor o lefydd bwyta yng Nghaerdydd.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae ymrwymiad staff carchar Caerdydd wedi creu cryn argraff arnaf. Maen nhw’n gweithio’n ddiflino i helpu troseddwyr i weddnewid eu bywydau.

Bydd bron i bob carcharor yng ngharchar Caerdydd yn cael ei ryddhau ryw bryd felly mae’n hanfodol bod modd iddynt gael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i gael swydd a byw bywyd heb droseddu.

Mae safon y bwyd a’r gwasanaeth ym mwyty Clink yn dangos pam mae’n un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i fwyta yn y ddinas erbyn hyn. Mae gan y bwyty rôl bwysig yn y gwaith o helpu i ailsefydlu carcharorion o bob rhan o Dde Cymru, ac mae’n bleser gen i ei gefnogi.

Cyhoeddwyd ar 24 June 2016