Swyddfa Cymru yn cynnal lansiad stamp Dylan Thomas gan y Post Brenhinol
Dathlu cyfraniad Dylan Thomas yn set ‘Bywydau Rhyfeddol’ newydd y Post Brenhinol
Heddiw (25 Mawrth), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn cynnal lansiad swyddogol stamp Dylan Thomas yn Swyddfa Cymru yn Llundain.
Mae’r bardd ac ysgrifennwr o Gymru, Dylan Thomas, yn un o’r unigolion rhyfeddol y mae eu cyfraniad yn cael ei ddathlu – ym mlwyddyn canmlwyddiant eu geni – ar stamp gan y Post Brenhinol yn y gyfres ‘Bywydau Rhyfeddol’.
Mae’r set, fydd ar gael ar 25 Mawrth, yn coffau unigolion a wnaeth gyfraniad sylweddol i gymdeithas gwledydd Prydain, fel Dylan, sy’n enwog am y ddrama radio Under Milk Wood a cherddi megis ‘And Death Shall Have No Dominion’ a ‘Do Not Go Gentle into That Good Night’.
Bydd Mr Jones yn croesawu gwesteion, gan gynnwys aelodau o deulu’r bardd, i Gwydyr House, a bydd yn cyflwyno stamp mewn ffrâm o ddelwedd ei thaid i wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
Mae Dylan Thomas yn un o ysgrifenwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif, ac rwyf wrth fy modd yn gweld cyflawniadau’r Cymro mawr hwn yn cael eu cydnabod gan y Post Brenhinol, a’i gynnwys yn y casgliad stampiau nodedig hwn.
Mae enw Dylan Thomas fel cawr diwylliannol yn atseinio ym mhedwar ban byd. Wrth i ni nodi canmlwyddiant ei eni yn 2014 gyda chyfres o ddigwyddiadau dathlu, rwyf wrth fy modd â’r cyfle hwn i gynnal y digwyddiad pwysig hwn yn Gwydyr House yng nghwmni aelodau ei deulu.
Dywedodd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis:
Ysgrifennodd fy nhad-cu lythyrau angerddol a barddonol at ei ffrindiau a’i deulu. Maent yn drysorfa o ddisgrifiadau hudolus a hynod a hanesion digri o fywyd yn nhrefi a phentrefi Cymru. Mae’n anrhydedd fawr fod Dylan Thomas yn cael ei gofio yn y gyfres o stampiau, Bywydau Rhyfeddol. Ond rhaid i mi ddweud fy mod yn tybed wrthyf fy hun sut byddai’n teimlo o weld ei hun ar stamp.
Mae’r set o 10 “Bywyd Rhyfeddol” hefyd yn cynnwys:
- Syr Alec Guinness a Kenneth More – actorion llwyfan a sgrîn
- Joe Mercer, chwaraewr a rheolwr pêl-droed
- Barbara Ward, economegydd, darlledwr ac arloeswr materion amgylcheddol byd-eang
- Noorunissa Inayat Khan, Swyddog Gweithrediadau Arbennig Prydain yn Ffrainc adeg meddiannaeth y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd
- Max Perutz, biolegydd molecwlar ac enillydd Gwobr Nobel 1962
- Roy Plomley, darlledwr ac ysgrifennwr
- Joan Littlewood, cyfarwyddwr theatr ac ysgrifennwr
- Abram Games, artist poster yn y Swyddfa Ryfel a dylunydd graffig arloesol
Dywed Andrew Hammond, Cyfarwyddwr Stampiau a Deunydd Casgladwy y Post Brenhinol:
Mae’r gyfres ‘Bywydau Rhyfeddol’ yn creu ymdeimlad gwych o hanes, ac yn cyfleu cyflawniad ac ymdrech y bobl arbennig hyn.