Stori newyddion

Swyddfa Cymru yn croesawu y bydd S4C ar gael ar iPlayer

Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn croesawu'r newyddion bod rhaglenni'r darlledwr iaith Gymraeg nawr ar gael i’w gweld yn fyw ac yn ôl y galw

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ymateb i’r newyddion y bydd S4C yn awr ar gael ar iPlayer, dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:

Mae’n newyddion gwych bod cynnwys S4C bellach ar gael drwy BBC iPlayer, gan ddod â chyfleoedd gwylio i lawer mwy o bobl ar draws y DU ar nifer o lwyfannau gwahanol.

Mae byd y cyfryngau yn cydgyfeirio yn gynyddol a, thrwy hynny, mae’r ffyrdd ry’n ni’n dewis i fwynhau gwylio yn cynyddu hefyd – wrth fynd o le i le, ar ddyfeisiau lluosog a thrwy wasanaethau dal-i-fyny.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn parhau yn gefnogol o S4C sydd, heb os, yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru ac, yn hollbwysig, i hybu’r iaith Gymraeg”.

Mae’r diwydiannau creadigol yn cyflogi dros 50,000 o bobl i gyd ac yn troi drosodd dros £1 biliwn y flwyddyn yng Nghymru.

Bydd S4C yn awr yn sianel lawn ar BBC iPlayer, a bydd ei rhaglenni ar gael am 30 diwrnod i’w ffrydio, gyda lawrlwytho i ddilyn yn fuan.

Cyhoeddwyd ar 8 December 2014