Ffyniant Cymru o ganlyniad i ymdrechion a dyheadau ein 300 o gwmnïau orau”
Alun Cairns yn ysgrifennu erthygl ar gyfer y Western Mail ar y 300 o fusnesau fwyaf yng Nghymru
Er 2010 mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati’n gyson ac yn gadarn i gyflwyno mesurau i helpu i ailadeiladu a meithrin economi’r DU.
Rydym wedi cyhoeddi y bydd y tollau ar Bont Hafren yn dod i ben, wedi cyflwyno Bargeinion Dinesig i Gaerdydd ac Abertawe, wedi cychwyn ar y rhaglen fuddsoddi fwyaf a mwyaf uchelgeisiol mewn seilwaith trenau ers y 19eg ganrif ac wedi gweld sawl contract amddiffyn gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei ddyfarnu i gwmnïau ar hyd a lled Cymru – a dim ond ambell enghraifft yw’r rheini.
Rydym hefyd wedi gorfod gwneud ambell benderfyniad anodd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae llawer o bobl wedi gofyn inni newid cyfeiriad.
Ond mae’r hyn yr ydym yn ei weld yn awr yn profi ein bod wedi gwneud y penderfyniadau cywir. Mae ein cysondeb o ran mynd i’r afael â’r diffyg a sicrhau ar yr un pryd fod y DU yn lle da i gynnal busnes yn golygu bod gennym economi sydd nid yn unig yn tyfu ond sydd hefyd yn parhau i greu rhagor o swyddi ac sy’n parhau i synnu’r rheini sy’n ceisio ei thanseilio. Er 2010, Cymru yw’r rhan o’r DU sy’n tyfu gyflymaf, ac eithrio Llundain, ac mae diweithdra wedi cwympo islaw cyfartaledd y DU ar 4.1%.
Gall busnesau Cymru hawlio eu rhan o’r clod am yr hyn y mae Prydain wedi’i gyflawni yn y blynyddoedd ers yr argyfwng ariannol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld rhagor o fuddsoddi gan fusnesau yma yng Nghymru.
Yng Nghasnewydd, mae disgwyl i’r cwmni cynhyrchu trenau CAF greu 200 o swyddi crefftus yn ei ffatri newydd, yn dilyn buddsoddiad gwerth £30 miliwn.
Ar ymweliad diweddar â’r Gogledd cefais weld sut mae’r cwmni gofal iechyd Ipsen yn mynd ati’n ddiwyd i ehangu gyda buddsoddiad gwerth £22 miliwn yn ei safle yn Wrecsam. Mae’r cwmni wedi buddsoddi tua £100 miliwn dros y tair blynedd diwethaf yn ei droedle yn y Gogledd, gan sicrhau swyddi tra chrefftus ar gyfer y tymor hir.
Wrth inni ddathlu’r newyddion da hwn, dylem fod yn eglur ein meddyliau ynghylch ystyr hyn oll mewn gwirionedd.
Nid mater o rifau ar fantolen yn unig yw hyn, ond buddsoddiad ym mywoliaeth pobl, ac yn sicrwydd economaidd teuluoedd ledled Cymru.
Mae’n arwydd o hyder yng Nghymru – yn ein talentau, ein sgiliau, ein seilwaith a’n syniadau. Ond ein dyletswydd yn awr yw edrych i’r dyfodol.
Os mai adeiladu ein statws economaidd a wnaethom dros y deng mlynedd diwethaf, rhaid i’r deng mlynedd nesaf fod yn ddechrau pennod newydd yn hanes economi Cymru.
Oherwydd er gwaethaf ein holl gynnydd, mae yna ffordd bell i fynd o hyd. Yr unig fodd o sicrhau economi gryfach, fwy cytbwys a gwella safonau byw ledled Cymru yn y tymor hir yw gwella ein cynhyrchiant.
Dyna nod allweddol y Papur Gwyn ar y Strategaeth Ddiwydiannol a lansiwyd yn ddiweddar – strategaeth sy’n buddsoddi yn sgiliau, diwydiannau a seilwaith y dyfodol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a chyflogau ledled ein gwlad.
Mae arnaf eisiau sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i sicrhau’r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil y mentrau a’r heriau mawr y mae’r strategaeth yn eu cyflwyno. Mae ein hagwedd at y Strategaeth Ddiwydiannol yn adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer economi Prydain wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Economi sy’n fwy cynhyrchiol, yn ddynamig, yn arloesol ac yn arwain ar lefel fyd-eang, gan hyrwyddo newid technolegol a bod yn fyd-eang ei ffocws.
Yn wir, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar fod Caerdydd wedi’i dewis i fod yn un o ddeg hwb rhanbarthol newydd ledled y DU ar gyfer cwmnïau technoleg ddatblygol.
Mae’r cyhoeddiad hwnnw yn dystiolaeth glir o’n hymrwymiad i Gymru ac mae’n cadarnhau lle Cymru ar flaen y gad o ran technoleg a datblygiad digidol.
Mae hefyd yn tanlinellu cefnogaeth y Llywodraeth ledled y DU ar gyfer cwmnïau digidol newydd ac ehangu busnesau sy’n bodoli eisoes yn y sector technoleg.
Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cyfres gynhwysfawr ac uchelgeisiol o Fargeinion Dinesig i Gaerdydd ac Abertawe, mae’n bwrw ymlaen â bargen dwf i’r Gogledd ac mae’n cychwyn trafodaethau ar fargen dwf i ranbarth y Canolbarth.
Nid creu cilfachau ynysig, ar wahân yw diben y Bargeinion Dinesig hyn. I’r gwrthwyneb yn llwyr. Y nod yw creu rhwydwaith o bwerdai economaidd rhanbarthol a fydd yn gallu creu cysylltiadau a fydd yn llesol iddynt oll.
Nid oes amau gwerth cysylltedd o’r fath. Ystyriwch, er enghraifft, y llif busnes naturiol o fewn y DU ac ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae arnom eisiau adeiladu ar sail y cysylltiadau economaidd holl bwysig hynny drwy gyfrwng coridorau twf.
Rhwng Glannau Dyfrdwy, Manceinion a Glannau Mersi mae gennym un o’r coridorau gweithgynhyrchu cryfaf yn y DU. A rhwng Bryste, Casnewydd a Chaerdydd mae gennym un o’r coridorau digidol a chreadigol cryfaf yn y DU.
Dyna pam y bydd cael gwared ar y tollau ar Bont Hafren yn rhoi hwb gwerth £100 miliwn i dde Cymru. Rydym yn buddsoddi mewn rheilffyrdd ar draws y ffin megis y buddsoddiad gwerth £16.1 miliwn yn Halton Curve, gan anfon neges uniongyrchol i fusnesau, cymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ein bod wedi ymrwymo i gryfhau’r cysylltiadau rhwng economïau Cymru a Lloegr. Cydweithio sydd â’r nod amlwg o fod er lles y naill ochr a’r llall.
Ac er mwyn manteisio i’r eithaf ar hyn, byddaf yn cynnal Uwchgynhadledd yn y Flwyddyn Newydd i ddwyn ynghyd bartneriaid lleol o bob rhan o dde Cymru a de-orllewin Lloegr i archwilio sut gallwn gryfhau rhagor ar y cysylltiadau rhwng y ddwy economi.
Wrth inni geisio creu Prydain sy’n fwy allblyg ac yn fwy byd-eang ei hagwedd wedi inni adael yr UE, mae arnaf eisiau sicrhau bod cwmnïau Cymru yn barod i fanteisio ar bob cyfle a ddaw yn sgil ein perthynas fasnach newydd â’r byd.
Eleni bûm ar deithiau masnach i Japan a Qatar – dau bwerdy economaidd lle rydym yn ceisio adeiladu ar sail cysylltiadau busnes sy’n bodoli eisoes drwy gyfrwng hediad dyddiol newydd i Doha a sicrhawyd yn ddiweddar gyda chymorth Llywodraeth y DU, yn ogystal ag edrych ar gyfleoedd eraill i gwmnïau a sefydliadau’r DU weithredu yn y rhanbarth.
Mae arnom eisiau sicrhau bod cwmnïau Cymru, megis y rhai sydd yn y rhestr hon o’r 300 Uchaf, yn elwa ar y cymorth sydd ar gael gan yr Adran Masnach Rhyngwladol i’w galluogi nid yn unig i fasnachu mewn marchnadoedd megis Asia a’r Dwyrain Canol, ond i ffynnu yno.
Boed yn gyngor ar allforio, teithiau masnach neu fynediad i 1,200 o staff y DU mewn 108 o wledydd ym mhedwar ban byd – dyma adnodd o ansawdd byd-eang y mae busnesau yng Nghymru yn parhau i’w ddefnyddio.
Ac rwy’n credu’n gryf fod y cymorth lleol a gynigir yng Nghymru yn ategu’r cymorth a gynigir gan Lywodraeth y DU.
Mae ein llwyddiant mewn marchnadoedd byd-eang yn dibynnu ar fanteisio i’r eithaf ar gryfderau lu Cymru – gweithlu tra medrus, ysbryd entrepreneuraidd ac awydd cryf ymhlith ein harweinwyr busnes i lwyddo gartref a thramor.
Ymdrechion busnesau megis y 300 Cwmni Uchaf yng Nghymru sy’n gyfrifol am y twf yr ydym yn ei weld. Er bod Llywodraeth y DU yn gall creu’r amodau ar gyfer twf, chi sy’n ei wireddu.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 December 2017 + show all updates
-
Welsh translation added
-
First published.