Stori newyddion

Cwmni o Gymru yn ennill contract gwerth £82M ar y llwyfan byd-eang

Qoptiq yn ennil contract o'r MOD

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Minister for Defence Procurement Harriett Baldwin has announced a £82 million contract for Welsh company Qioptiq. Crown Copyright

Minister for Defence Procurement Harriett Baldwin has announced a £82 million contract for Welsh company Qioptiq. Crown Copyright

Mae’r Gweinidog Harriett Baldwin, sy’n arwain dirprwyaeth y DU yn sioe fasnach IDEX yn Abu Dhabi, wedi cyhoeddi bod contract arloesol gwerth £82 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gwmni Qioptiq o Gymru, sy’n darparu cymorth hanfodol i Luoedd Arfog y DU yng nghyswllt cyfarpar targedu a gwyliadwraeth.

Mae Harriett Baldwin, y Gweinidog Caffael ym maes Amddiffyn, wedi cyhoeddi bod contract arloesol gwerth £82 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gwmni Qioptiq o Gymru.

Bydd y cytundeb â Qioptiq o Lanelwy, Gogledd Cymru, yn golygu y bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar gyfarpar ennill brwydrau sy’n cael ei drin â llaw – gan gynnwys gogls gweld yn y tywyllwch ac anelau arfau ar gyfer amodau golau a thywyll – dros y chwe blynedd nesaf, er mwyn sicrhau ei bod ar gael i’n personél ledled y byd.

Wrth i’r DU baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’r newyddion da hwn i Gymru yn dilyn cyhoeddiad y bydd Gogledd Cymru yn ganolfan atgyweirio fyd-eang ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw ar gydrannau F-35, fel rhan o ymgyrch gwerth miliynau i’r ardal.

Dywedodd Harriett Baldwin, y Gweinidog Caffael ym maes Amddiffyn, wrth siarad yn sioe fasnach IDEX:

Mae’n bleser cyhoeddi’r contract £82 miliwn yma yn IDEX. Bydd y cytundeb hwn yn darparu’r cyfarpar sydd ei angen ar ein milwyr i fod yn ddiogel, gan sicrhau £47 miliwn o arbedion ar yr un pryd.

Mae’r contract hwn yn bosibl oherwydd ein cynllun cyfarpar gwerth £178 miliwn, sy’n cael ei gefnogi gan gyllideb Amddiffyn a fydd yn cynyddu bob blwyddyn tan ddiwedd y degawd.

Bydd gweithio o dan y contract Cefnogi Rhagchwilio a Thargedau Gwyliadwriaeth (STAS) yn creu wyth o swyddi newydd yn y cwmni, sy’n cyflogi oddeutu 560 o bobl ar ei safleoedd yn Llanelwy a Bodelwyddan. Drwy gyfuno 20 o gontractau cefnogi unigol i ffurfio un cytundeb, bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn arbed tua £47 miliwn i drethdalwyr yn ystod y chwe blynedd nesaf.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r contract enfawr hwn i Qioptiq yn pwysleisio enw da Cymru fel arweinydd byd yn y sector technoleg amddiffyn, ac mae’n dynn wrth sodlau DECA Sealand fel dewis ar gyfer lleoliad canolfan atgyweirio fyd-eang yr awyren F-35.

Mae’r bleidlais o hyder hon yn economi Cymru yn dangos ein bod yn cynnig y cyfleusterau a’r gweithlu medrus iawn sydd eu hangen ar fuddsoddwyr. Mae hefyd yn newyddion gwych o ran cyflogaeth yn yr ardal, yn amlwg.

Mae’r contract yn cynnwys cyfarpar a ddefnyddir ledled y Lluoedd Arfog – o filwyr y rheng flaen a’r Môr-filwyr Brenhinol, i arbenigwyr milwrol fel arbenigwyr difa bomiau – gan gynnwys perisgopau i filwyr, anelwyr laser a chyfarpar lleoli targedau.

Dywedodd Tony Douglas, Prif Swyddog Gweithredol sefydliad Cefnogaeth a Chyfarpar Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn:

Mae’r cytundeb newydd hwn gyda Qioptiq yn golygu traean o ostyngiad yn y costau, sy’n dangos sut rydyn ni bob amser yn ymdrechu i blethu arloesedd a gwerth i mewn i waith cefnogi a chaffael ym maes Amddiffyn. Yn hanfodol, bydd y contract STAS yn darparu gwell cefnogaeth i Luoedd Arfog Ei Mawrhydi.

Cynhadledd bwrpasol ar gyfer systemau di-griw ac arddangosfa amddiffyn ryngwladol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn yn Abu Dhabi, prifddinas yr Emiradau Arabaidd Unedig, yw IDEX. Mae’r Deyrnas Unedig wedi cefnogi IDEX o’r dechrau, ac eleni bydd HMS Penzance, Llong Mesur a Chyfrif Ffrwydron y Llynges Frenhinol, yno.

Bydd Mrs Baldwin a thîm y DU yn gweithio i ddatblygu cysylltiadau agosach gydag ystod o Lywodraethau a phartneriaid diwydiannol yn y Gwlff. Mae cwmnïau Prydeinig yn hybu amrywiaeth o dechnolegau arloesol o safon fyd-eang, ac mae llawer ohonynt yn addas ar gyfer lluoedd arfog yn yr ardal.

Maent yn awyddus i rannu technoleg, i gynnig atebion sy’n rhoi gwerth da am arian ac sydd wedi’u cefnogi gan hyfforddiant a chymorth yng nghyswllt logisteg, i ddatblygu partneriaethau menter ar y cyd ym maes diogelwch ffiniau ar y tir ac ar y môr; canfod ffrwydron arforol a gwrthfesurau; ac amddiffyniad cemegol, biolegol, pelydrol a niwclear.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 February 2017