Llywodraeth Cymru yn lansio polisi i fynd i’r afael â gwastraff ymbelydrol
Yn dilyn cyhoeddiad polisi gan Lywodraeth Cymru, bydd RWM nawr yn cynnwys Cymru yn ei weithgareddau ymgysylltu
![Engineers at work - Peirianwyr yn gweithio](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/image_data/file/83289/s300_RWM_SiteEvaluation.jpg)
Engineers at work - Peirianwyr yn gweithio
Gwaredu daearegol yw un o brosiectau diogelu’r amgylchedd mwyaf y DU erioed a bydd yn ffordd ddiogel o waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y tymor hir.
I ategu datganiad polisi Llywodraeth Cymru, mae RWM wedi cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer cymunedau, gan gynnwys:
- Cyflwyniad ar Waredu Daearegol
- Canllawiau Cymunedol - Sut byddwn yn gweithio gyda chymunedau
- Sgrinio Daearegol Cenedlaethol ar gyfer GDF - Mae hwn yn rhoi crynodeb lefel uchel o’r wybodaeth ddaearegol sy’n berthnasol i ddiogelwch gwaredu GDF
Hefyd, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru.
- Ymgynghoriad ar Werthuso Safleoedd - Manylion ynghylch sut byddwn yn asesu safleoedd
![A community meeting - Cyfarfod cymunedol](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/image_data/file/83315/Community.jpg)
A community meeting - Cyfarfod cymunedol
I gael rhagor o wybodaeth am waredu daearegol a beth y gallai hynny ei olygu i’ch cymuned, ewch i’n gwefan neu cysylltwch ag RWM drwy gdfenqcymru@nda.gov.uk