Y Gymraeg i gael ei defnyddio ar bapurau pleidleisio etholiadau lleol
Bydd y newidiadau Cymraeg sy'n cael eu cyflwyno'n gwella eglurder y papurau pleidleisio sy'n cael eu defnyddio gan bleidleiswyr.
Bydd y papurau pleidleisio a ddefnyddir ledled Cymru’n cynnwys manylion yr etholiad wedi’u hysgrifennu arnynt yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn yr etholiadau fis Mai eleni.
Gwnaed y mesurau heddiw gan Weinidog yn Llywodraeth y DU, Chris Skidmore. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn gallu cyhoeddi cyfarwyddyd i weinyddwyr etholiadol yn awr ar sicrhau bod y pennawd ar y papurau pleidleisio’n cynnwys cyfieithiad Cymraeg.
Roedd y papurau pleidleisio blaenorol yn cynnwys cyfarwyddiadau pleidleisio yn y ddwy iaith ond dim ond yn Saesneg oedd y manylion am yr etholiad ar ben y papur. Bydd y newidiadau’n rhoi diwedd ar yr anghysondeb ac yn eu lle erbyn etholiadau’r Awdurdodau Lleol a’r Cynghorau Cymuned yng Nghymru fis Mai eleni.
Dywedodd, y Gweinidog ar gyfer y Cyfansoddiad, Chris Skidmore:
Mae gwneud y profiad pleidleisio’n gyson a theg yn hanfodol os ydyn ni am gael democratiaeth sy’n gweithio i bawb. Dyma pam roedd y newidiadau hyn yn bwysig i’w gwneud a byddant yn gwella eglurder y papurau pleidleisio a ddefnyddir gan bleidleiswyr ledled Cymru.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Cymru:
Bydd y newidiadau Cymraeg sy’n cael eu cyflwyno’n gwella eglurder y papurau pleidleisio sy’n cael eu defnyddio gan bleidleiswyr. Roedd yn bwysig iawn bod y diweddariad yma’n dod i rym cyn mis Mai, pan fydd yr etholwyr yn pleidleisio i ddewis cannoedd o gynghorwyr cymuned ac awdurdod lleol.
Fel siaradwr Cymraeg, rydw i’n benderfynol bod ein hiaith ni’n cael ei chefnogi a’i hyrwyddo ym mhob agwedd ar ein bywyd. Mae’r ffurflenni pleidleisio newydd yn dystiolaeth i’w chroesawu o’r ymrwymiad hwnnw.