Ysgrifennydd Cymru’n dathlu 40 mlwyddiant busnes ‘gwyrdd’ blaenllaw yng Nghymru
Alun Cairns yn canmol cyflawniadau ROCKWOOL UK mewn derbyniad i ddathlu 40 mlynedd
Gwelwyd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n defnyddio 40 mlwyddiant ROCKWOOL UK i dynnu sylw at hanes, twf a llwyddiant y busnes yn ystod ei brif araith. Cafodd ROCKWOOL UK ddechrau digon cyffredin mewn ffatri ger Pen-y-bont ar Ogwr yn 1979, cyn mynd ymlaen i gynhyrchu ac allforio cynhyrchion inswleiddio o greigiau folcanig cynaliadwy i wledydd ledled y DU a’r byd.
Gan annerch cynulleidfa yn achlysur pen-blwydd y cwmni, soniodd Mr Cairns am ymrwymiad y cwmni i dwf glân. Mae’r busnes ffyniannus o dde Cymru, sy’n defnyddio dim ond creigiau folcanig naturiol a chynaliadwy yn ei gynhyrchion, yn mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yn ôl Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU. Gan drafod newid hinsawdd, croesawodd yr Ysgrifennydd Gwladol ymrwymiad ROCKWOOL UK i ddatblygu adeiladau mwy effeithlon, lleihau biliau ynni cartrefi a hybu twf economaidd.
Ers ei sefydlu, mae ROCKWOOL UK wedi tyfu’n sylweddol ac mae bellach yn cyflogi bron 500 aelod o staff ledled y DU, gyda’r mwyafrif wedi’u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â chreu cadwyn gyflenwi gadarn ledled de Cymru a de-ddwyrain Lloegr, mae’r twf a’r llwyddiant hwn wedi arwain at ddatblygu canolfan logisteg newydd ar y safle ym Mhencoed, gan sicrhau 115 o swyddi ychwanegol o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn y derbyniad, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Wrth i ni wynebu un o’r heriau byd-eang mwyaf o ran newid hinsawdd, mae ROCKWOOL UK yn achub ar y cyfle i fod ar flaen y gad i geisio canfod atebion i’r cwestiynau hyn.
Mae modd ailgylchu 97% o gynhyrchion y cwmni, sy’n defnyddio dim ond creigiau folcanig naturiol a chynaliadwy, gan arwain at arbedion ynni o fewn pum mis i’w gosod. Mae’r cwmni’n enghraifft ragorol i fusnesau ledled Cymru a’r Undeb.
Aeth Alun Cairns ati i annerch rhanddeiliaid allweddol, aelodau o’r gadwyn gyflenwi a chyflogeion ROCKWOOL UK gan atgoffa’r gynulleidfa fod Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i greu’r amodau cywir ar gyfer twf economaidd drwy’r Strategaeth Ddiwydiannol fodern sy’n blaenoriaethu buddsoddiad mewn sgiliau, diwydiannau a seilwaith. Tynnodd sylw at y £9 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi’i fuddsoddi’n ddiweddar ar gyfer bysiau trydanol newydd yn ne Cymru, sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi mentrau twf glân.
Dywedodd Darryl Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr ROCKWOOL UK:
Rydyn ni’n falch o ddathlu 40 mlynedd o weithredu yn y DU. Mae cartrefi a busnesau, nawr yn fwy nag erioed, yn awyddus i ymdrin ag effeithlonrwydd ynni, diogelwch tân a sŵn yn yr amgylchedd adeiledig drwy ddefnyddio ein deunyddiau inswleiddio o greigiau folcanig y gellir eu hailgylchu. Rydyn ni’n tyfu o ganlyniad i hyn, gyda 115 o staff newydd dros y flwyddyn ddiweddaf yn unig.
Rydyn ni wrth ein bodd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymuno â ni i ddathlu’r achlysur hwn yn ein hanes a’r cyfraniad cymdeithasol ac economaidd gwych y mae busnesau’n ei wneud ledled de Cymru.