Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cyhoeddi canlyniad cadarnhaol i gyfarfod trydaneiddio Gogledd Cymru

Mae’r broses i ddatblygu achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r brif reilffordd yng Ngogledd Cymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen, meddai David…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r broses i ddatblygu achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r brif reilffordd yng Ngogledd Cymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen, meddai David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw ar ol cyfarfod gyda rhanddeiliaid yn Llandudno heddiw [23 Tachwedd].

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Mr Jones ac roedd arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol a’r gymuned fusnes yn bresennol. Yn y cyfarfod cytunwyd mai Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fyddai craidd y grŵp a fydd yn llunio achos busnes dros drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe. Byddant yn gweithio’n agos gyda’r Mersey Dee Alliance, Cynghorau Swydd Gaer a Taith - y cydbwyllgor o chwe awdurdod lleol gogledd Cymru er mwyn datblygu a gweithredu camau gweithredu a strategaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru.

Wrth siarad ar ol y cyfarfod, dywedodd Mr Jones:

“Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniad cyfarfod heddiw. Rydym nawr wedi dechrau’r broses a gobeithiaf y bydd yn arwain at achos busnes cryf dros drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe.

“Ni fydd hon yn broses fer. Serch hynny mae hwn yn gam pwysig cyntaf ac mae’n arwydd clir o ymrwymiad y sector busnes a phob lefel mewn llywodraeth yng Nghymru i drydaneiddio’r brif reilffordd yng Ngogledd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr achos busnes yn datblygu.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 November 2012