Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru'n llongyfarch y rheini sy’n cael eu Hanrhydeddu ar Ben-blwydd y Frenhines

Mae unigolion eithriadol o bob rhan o Gymru wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.

Queen's Birthday Honours medal

Queen's Birthday Honours medal

Gan nodi cyflawniadau’r rheini o Gymru sy’n cael anrhydedd, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n bleser gennyf longyfarch a chydnabod cyflawniadau’r rheini sy’n cael Anrhydedd ar Ben-blwydd y Frenhines eleni, a hynny’n llawn haeddiannol.

Mae’r anrhydeddau hyn yn tynnu sylw at gyflawniadau eithriadol a gwaith caled y bobl anhygoel ledled Cymru sy’n mynd yr ail filltir i wella bywyd pobl eraill.

Rwy’n ddiolchgar am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i gymunedau ym mhob cwr o Gymru a hoffwn eu llongyfarch nhw oll ar eu cyflawniadau ardderchog - rydych chi’n ysbrydoliaeth i ni gyd.

Gan longyfarch Elan Closs Stephens, a gafodd DBE am wasanaethau i Lywodraeth Cymru a Darlledu, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae Elan wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r gwaith o hyrwyddo’r diwydiannau creadigol a chyfryngau yng Nghymru. Gan ddangos ei hymroddiad anhygoel, mae ymrwymiad oes Elan i wasanaethau cyhoeddus ac arweinyddiaeth hynod effeithiol wedi golygu mai ati hi mae llywodraethau’n troi pan ddaw materion cymhleth i’r wyneb.

Mae hi’n fodel rôl bythol ac yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Hoffwn ei llongyfarch o waelod fy nghalon ar yr anrhydedd llawn haeddiannol hwn.

Gan longyfarch Rachel Clacher, sylfaenydd Moneypenny, ar ei CBE am wasanaethau i fusnes a phobl ifanc dan anfantais, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Gan arwain y ffordd gyda dull moesegol o wneud busnes, nid yn unig y mae Rachel wedi sefydlu un o’r busnesau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, mae hi hefyd wedi datblygu elusen wedi’i hanelu at ferched ifanc dan anfantais, ‘We Mind the Gap’.

Mae ei hymrwymiad i roi cyfleoedd gyrfa i ferched o gefndir heriol, a thyfu busnes gwerth miliynau ar yr un pryd, yn dangos ei hymroddiad i helpu pobl eraill ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr sy’n ferched. Rwy’n falch iawn o’i chyflawniadau ac yn ei llongyfarch o waelod fy nghalon ar yr anrhydedd llawn haeddiannol hwn.

Gan longyfarch William Gareth Davies ar ei MBE am wasanaethau i’r gymuned ym Merthyr Tudful, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Fel un o’r aelodau a sefydlodd Cymdeithas Bysgota Merthyr Tudful, mae William wedi chwarae rhan hollbwysig yn troi’r Afon Taf, a oedd wedi’i llygru, yn hafan bysgota o safon ryngwladol. Gan roi 50 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i’r gymdeithas, mae angerdd William dros welliant parhaus y dyfrffyrdd o gwmpas Cymoedd Merthyr wir yn ysbrydoliaeth.

Mae’n anrhydedd mawr cael llongyfarch William ar ei waith a’i ymrwymiad anhygoel i roi blaenoriaeth i fywyd pobl eraill dros ei fywyd ei hun.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 7 June 2019