Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n trafod Uwchgynhadledd Nato gydag arweinwyr busnes yn GE Aviation

Menywod mewn busnes a Datganiad yr Hydref 2014 hefyd ar frig agenda cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Secretary of State for Wales David Jones

Mae arweinwyr busnes wedi trafod Uwchgynhadledd Nato, menywod yn y gweithlu a Datganiad yr Hydref gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Clywodd David Jones AS syniadau gan fusnesau – gan gynnwys uwch swyddogion gweithredol o’r Celtic Manor lle cynhelir Uwchgynhadledd Nato – ynghylch sut orau i hyrwyddo Cymru fel dewis gyrchfan i fuddsoddwyr mewn cyfarfod o Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru yn GE Aviation yn Nantgarw.

Caiff eu barn hwy ei fwydo i gynnig busnes ehangach a chynlluniau i gynnal Uwchgynhadledd Fuddsoddi Swyddfa Cymru ym mis Tachwedd i hyrwyddo Cymru fel y man lle cynhaliwyd ymweliad y ddirprwyaeth ryngwladol fwyaf mewn hanes â’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Fel un o gyflogwyr awyrofod ac amddiffyn mwyaf Cymru a buddsoddwr allweddol yn yr economi ac yn y gweithlu Cymreig, mae’n addas ein bod wedi cynnal y cyfarfod hwn yn GE Aviation.

Bydd uwchgynhadledd NATO yn darparu i Gymru gyfle na welwyd ei debyg i fusnesau Cymreig arddangos popeth gorau sydd ganddynt i’w gynnig i gynulleidfa fyd-eang o biliynau. Rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn y tu hwnt i’r uwchgynhadledd i sicrhau bod Cymru’n cael budd economaidd parhaus o gynnal cynhadledd fasnach ryngwladol yng Nghymru.

Yr oeddwn yn awyddus i gasglu barn arweinwyr busnes yng Nghymru ynghylch sut orau i gyflwyno ein cryfderau fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi mewnol a gwneud y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer ein hallforwyr o safon fyd-eang.

Mae’n hanfodol ein bod yn cyflwyno cynnig cydlynol gan fusnesau ac yn dangos darlun modern o economi Cymru sy’n barod ac yn alluog i gwrdd ag anghenion y gymuned fusnes ryngwladol.

Ymunwyd â Mr Jones yn y cyfarfod gan Weinidog y Swyddfa Gymreig y Farwnes Randerson a arweiniodd drafodaeth ar agenda’r llywodraeth i hyrwyddo menywod mewn busnes.

Erbyn hyn menywod yw 48% o’r gweithlu yng Nghymru ac ym mis Mai eleni cyhoeddwyd bod gan bob cwmni FTSE 100 fenyw ar ei fwrdd.

Yn ystod y cyfarfod, tynnodd y Farwnes Randerson sylw at y rolau pwysig sydd gan y llywodraeth a busnesau o ran annog menywod a merched ifanc i fod â’r hyder i anelu’n uchel a chyrraedd eu potensial llawn yn y gweithle.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae nod y llywodraeth hon o greu cymdeithas decach a mwy cydradd yn cynorthwyo i yrru ymlaen y newid diwylliannol sydd ei angen i sicrhau y gall menywod wneud y gorau o’u cyfleoedd yn y man gwaith ar gyfer twf economaidd i’r dyfodol.

Er ei bod yn glir bod cyfleoedd fel hyn yn cynyddu yng Nghymru, yr her a wynebwn yw sicrhau bod mwy o fenywod yn cymryd mantais arnynt.

Rwy’n benderfynol o wneud fy rhan yn yr ymdrech hon ac rwy’n gobeithio gweld mwy o fusnesau yng Nghymru yn creu polisïau sy’n deg i fenywod ac yn gwneud y gorau o’r sgiliau a’r doniau sylweddol sydd gan fenywod i’w cynnig.

Yn ystod y cyfarfod, cymerodd yr Ysgrifennydd Gwladol y cyfle hefyd i gasglu barn aelodau am y cynigion polisi yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn Natganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddarach eleni er mwyn ysgogi twf economaidd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn awr yn rhannu’n cynigion gyda’r Canghellor am ystyriaeth.

Gwybodaeth bellach:

  • Sefydlwyd Grŵp Cynghori Busnes Swyddfa Cymru yn 2010 i edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru ac i wrando ar farn arweinwyr busnes Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 July 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.