Ysgrifennydd Cymru - “Nawr yw’r amser i greu ‘Pwerdy’r Gorllewin’ ein hunain”
Uwch Gynhadledd Twf Hafren i sbarduno sgwrs fasnachol fwyaf ein cenhedlaeth ynghylch Gorllewin y DU
Heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn dweud yn uwchgynhadledd gyntaf Twf Hafren yng Nghasnewydd (22 Ionawr), y gall cyfuno sgiliau ac arbenigedd o’r ddwy ochr i aber yr Afon Hafren greu rhanbarth economaidd newydd a fydd yn gallu cystadlu gyda ‘Phwerdy’r Gogledd’ ac ‘Injan Canolbarth Lloegr’.
Ar ddiwedd 2018, bydd un o’r rhwystrau economaidd mwyaf i lwyddiant Cymru yn diflannu am byth, pan fydd Llywodraeth y DU yn diddymu’r tollau i groesi Pontydd yr Hafren.
Bydd hefyd yn nodi dechrau’r broses o drawsnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan hwyluso trafodaethau busnes, er mwyn cynyddu mewnfuddsoddi a thwristiaeth a chreu swyddi.
Bydd Alun Cairns yn annerch cynulleidfa lawn dop o dros 350 o westeion o’r sectorau busnes, addysg, diwylliant a digidol o’r ddwy ochr i’r pontydd Hafren yn yr uwchgynhadledd sefydlu yng Ngwesty’r Celtic Manor.
Yn ei araith gyweirnod, bydd yn canu’r utgorn i annog pob sector “i fynd amdani a gwneud y gorau o’r cyfleoedd y bydd diddymu’r tollau yn eu creu a chydweithio i uchafu potensial y rhanbarth gwych hwn.”
Mae cwmnïoedd ar ddwy ochr y ffin eisoes yn elwa ers i’r TAW gael ei ddiddymu yn gynharach y mis hwn. Gan fod y tollau am gael eu diddymu yn ddiweddarach eleni, trefnwyd yr Uwchgynhadledd i symbylu cryfderau niferus y rhanbarth economaidd ac i ddatblygu syniadau, arloesi ac entrepreneuriaeth i wella pob rhan o’r economi.
Disgwylir y bydd yn dweud:
Heddiw, bydd Uwchgynhadledd Twf Hafren yn sbarduno sgwrs fasnachol fwyaf ein cenhedlaeth ynghylch Gorllewin y DU, ond ni fydd yn llwyddiant heb gefnogaeth gyfunol gan fusnesau, cymunedau a llywodraethau ar y ddwy ochr i’r aber.
Un o’r ffactorau allweddol y tu ôl i Bwerdy’r Gogledd oedd nifer y bobl oedd yn teithio i’r gwaith rhwng Lerpwl a Manceinion. Fodd bynnag, mae yna ragor o bobl yn teithio i’r gwaith rhwng Bryste ac un ai Caerdydd neu Gasnewydd. Mae hyn yn dangos bod gan y rhanbarth hwn botensial mawr i gystadlu gyda Phwerdy’r Gogledd ac Injan Canolbarth Lloegr.
Dywedodd James Durie, Prif Weithredwr Business West yn y Siambrau Masnach a Mentrau:
Yn y gorffennol, mae Rhanbarth Dinas Bryste wedi edrych tuag at y Dwyrain, i Lundain a De Ddwyrain Lloegr, yn lle magu cysylltiadau agosach gyda’i gymdogion agosaf, sydd llai nac awr i ffwrdd wrth deithio mewn car.
Bydd gan Bryste a’r ardal ddinesig o’i chwmpas a De Cymru fwy yn gyffredin nac erioed o’r blaen, ac mae hyn yn gyfle gwych i’r gymuned fusnes wneud y gorau o’r diddordebau cyffredin hynny.
Rwy’n credu bod yn rhaid inni fanteisio’n llawn ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth, er mwyn cystadlu, nid yn unig ar lefel genedlaethol, ond ar lefel ryngwladol hefyd.
Bydd y digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn cynnwys sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol gan uwch gynrychiolwyr o sectorau amrywiol, gan gynnwys trafnidiaeth, logisteg, eiddo, technoleg a chyllid. Bydd hefyd yn gyfle gwych i arweinwyr busnes gwrdd â’r rhai yn y byd gwleidyddol sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cytuno ar lwybr llwyddiannus ar gyfer cydweithio agosach bob ochr i’r ffin.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Rwyf eisiau i’r digwyddiad hwn fod yn gatalydd sy’n magu partneriaethau newydd gydag arloeswyr, dyfeiswyr, rhai sy’n creu swyddi ac arweinwyr, gweithwyr a defnyddwyr lleol.
Mae llais cyfunol yn lais effeithiol ac rwy’n credu y bydd cydweithio bob ochr i’r ffin yn trawsnewid economïau De Cymru a De Ddwyrain Lloegr.
Ewch i’n tudalen blog newydd, Twf Ar Ddwy Ochr y Ffin i gael rhagor o wybodaeth a chlywed mwy gan randdeiliaid allweddol am beth mae diddymu’r tollau yn ei olygu iddyn nhw.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 January 2018 + show all updates
-
Translation added
-
First published.