Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd i sefydliadau rhyngwladol fuddsoddi mewn eiddo yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn lansio portffolio o fuddsoddiadau mewn eiddo yng Nghymru sydd yn werth dros £1 biliwn mewn digwyddiad yn yr Old Bailey
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi hyrwyddo cyfleoedd i sefydliadau rhyngwladol fuddsoddi mewn eiddo gwerth £1.19 biliwn ar draws Cymru yn nigwyddiad lansio MIPIM y DU yn yr Old Bailey ar ddydd Iau, 11 Gorffennaf.
Ym mis Mawrth eleni, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi chwe chyfle i fuddsoddi yng Nghymru ym mhrif arddangosfa eiddo rhyngwladol MIPIM yn Cannes.
Daeth buddsoddwyr rhyngwladol ac arweinwyr o’r chwe phrosiect yng Nghymru ynghyd i drafod y cyfleoedd sy’n amrywio mewn sectorau o dwristiaeth i adfywio dinasoedd ac mae’r busnesau ar wasgar o Fôn i Aberdaugleddau ac Ynys y Barri.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns:
Mae pob prosiect yn y portffolio yma’n dangos rhai o’n cryfderau ac yn amlygu’r hyn sy’n gwneud ein gwlad hardd a llawn adnoddau yn lleoliad mor ddeniadol ar gyfer buddsoddi a busnes.
Bydd buddsoddwyr yng Nghymru yn elwa o gymorth ar bob lefel o’r llywodraeth ac mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru’r un fath. Rydym yn ymgyrraedd at Gymru sy’n meithrin busnesau, diwydiant a mentrau cynhenid ar yr un pryd â chefnogi’r rheini sy’n dewis dod i Gymru i greu swyddi a chefnogi ein heconomi.
Dywedodd Gweinidog Polisi Masnach, George Hollingbery:
Mae’r DU yn parhau i fod y prif gyrchfan ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn Ewrop ac rydym wedi ymrwymo i ddenu buddsoddiad i bob cwr o’r DU, gan gynnwys Cymru.
Mae portffolio Cymru newydd Llywodraeth y DU yn cynnig dewis eang o gyfleoedd cyffrous i fuddsoddwyr rhyngwladol, gan greu cannoedd o swyddi yng Nghymru a bydd yn helpu i arddangos y DU fel lle arloesol ac agored i wneud busnes.
Dyma’r prosiectau ym mhortffolio Cymru:
- Caerdydd: datblygiad o swyddfeydd cymysg a maes parcio aml-lawr yng Nghei Canolog Caerdydd
- Glannau Aberdaugleddau: datblygiad a fydd yn canolbwyntio ar hamdden yn Aberdaugleddau
- Ynys y Barri: Nells Point; datblygiad twristiaeth wrth y traeth ar Ynys y Barri
- Abertawe: Cam 2 datblygiad cymysg yng Nghanol Abertawe. Bydd y pedwar prosiect newydd yn cael eu cyfuno â dau brosiect cyfredol ar Ynys Môn Gogledd Cymru.
- Ynys Môn: Mae Menter Môn yn cynnig cyfle i fuddsoddi mewn datblygiad gwerth £35 miliwn sef cyfleuster seilwaith ynni.
- Ynys Môn: Datblygiad pentref gwyliau 80 hectar ar hyd morlin gogledd ddwyreiniol Ynys Cybi, Ynys Môn.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Gallwch weld portffolio Cymru ar wefan ‘Invest in GREAT’ Llywodraeth y Du (cliciwch ar Wales):