Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn darparu platfform i drafod Parcffordd Gorllewin Cymru

Bydd Alun Cairns yn ymweld ag Abertawe i hyrwyddo gorsaf reilffordd newydd yn Felindre

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad, cynghorwyr lleol ac aelodau o Fforwm Busnes Abertawe heddiw i agor trafodaethau ffurfiol ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer gorsaf rheilffordd ‘Parcffordd Gorllewin Cymru’ ar hen safle gwaith dur Felindre yng ngogledd Abertawe.

Roedd y syniad o Orsaf Parcffordd newydd sy’n gwasanaethu gorllewin Cymru wedi’i chynnwys mewn rhestr 20 o geisiadau a wneir gan ddefnyddwyr rheilffyrdd yn ystod ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol y fasnachfraint Great Western.

Bellach mae astudiaeth annibynnol gan un o brif arbenigwyr trafnidiaeth y DU wedi dod i’r casgliad y byddai gorsaf newydd yn sicrhau bydd teithwyr yn arbed amser sylweddol o hyd at chwarter awr bob ffordd wrth iddynt deithio o’r gorllewin i Gaerdydd, drwy dorri’r angen i deithio drwy ganol Abertawe.

Mae’r adroddiad gan yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn nodi y byddai’r orsaf yn lleihau’r tagfeydd ar yr M4 a’r prif ffyrdd drwy annog mwy o gymudwyr i deithio ar y rheilffyrdd. Byddai’r orsaf hefyd yn darparu gwell cysylltedd i mewn ac allan o Abertawe a rhwng cymunedau ar draws De orllewin Cymru gan gynnwys Llanelli, Rhydaman a Gorseinon wrth ddiogelu’r gwasanaethau presennol i Abertawe a Chastell-nedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Bydd gorsaf newydd ar gyfer y rhanbarth hwn yn docyn Gorllewin Cymru i fwy o gyfleoedd, drwy amseroedd teithio cyflymach a gwell cysylltedd â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn darparu cynnig deniadol i fuddsoddwyr ac arbed amser i gymudwyr.

Mae Rhanbarth Dinas Bae Abertawe yn bwysig i economi Cymru a’r DU a thrwy weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol gallwn manteisio i’r eithaf ar ei botensial. Edrychaf ymlaen at glywed barn arweinwyr yr awdurdodau a busnesau lleol i glywed sut y gallwn ddarparu ar eu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 February 2019