Ysgrifennydd Cymru: Araith y Frenhines yn dangos ein penderfyniad i helpu’r rhai sydd eisiau gweithio’n galed.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi ymateb i raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines heddiw [8 Mai 2013].
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Dengys araith heddiw bod y Llywodraeth hon yn benderfynol o wobrwyo gwaith caled a’i gwneud yn haws i fusnesau ffynnu. Ers mis Mai 2010, mae’r Llywodraeth hon wedi dangos ei hymrwymiad i wneud economi’r DU yn fwy cystadleuol a helpu i ddatgloi talentau ein pobl ar y cyd.
Bydd llawer o’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud llawer i helpu busnesau yng Nghymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru. Yn benodol, bydd y Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn helpu llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy dorri cost recriwtio gweithwyr newydd, tra bydd y Bil Dadreoleiddio yn torri biwrocratiaeth i helpu busnesau Cymreig i dyfu.
Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cynnwys:
-
tynhau deddfau mewnfudo i gryfhau ein pwerau gorfodi ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus rhag cael eu camddefnyddio;
-
Rhoi mwy o rym i’r Heddlu fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cŵn peryglus a throseddau gyda drylliau;
-
helpu rhieni sy’n gweithio gyda chostau gofal plant; a
-
diwygio’r system bensiynau hynod gymhleth drwy gyflwyno un gyfradd safonol o Ebrill 2016.
Ychwanegodd Mr Jones:
Yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyrdd y llynedd, bydd Bil Cymru drafft yn symud Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dymor penodol o bedair blynedd i dymor penodol o bum mlynedd, gan ei gwneud yn llai tebygol y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cyd-daro ag etholiadau seneddol yn y dyfodol. Bydd y bil hefyd yn rhoi mwy o ddewis i ymgeiswyr drwy ddychwelyd eu hawl i sefyll ar restrau etholaethol a rhanbarthol yn ystod etholiadau’r Cynulliad. Yn ogystal, bydd y bil yn sicrhau na all Aelodau’r Cynulliad fod yn Aelodau Seneddol ar yr un pryd.
Yn gyffredinol, mae rhaglen heddiw yn arwydd clir o gefnogaeth i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen, yn dyheu am fwy, ac nad ydynt ofn gwaith caled er mwyn ei gael.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 May 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.