Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Mae’r ffigurau swyddogol a gafodd eu rhyddhau heddiw (16 Ebrill) yn dangos bod diweithdra wedi disgyn 6,000 yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Chwefror 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Labour Market Pic

Mae’r ffigurau swyddogol a gafodd eu rhyddhau heddiw (16 Ebrill) yn dangos bod diweithdra wedi disgyn 6,000 yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Chwefror 2014.

Mae Ystadegau chwarterol y Farchnad Lafur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra ymysg pobl ifanc wedi disgyn 800 ym mis Mawrth a 5,400 (22.2 y cant) yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rydym yn croesawu’r ystadegau diweddaraf sy’n dangos marchnad lafur gryf yng Nghymru. O dan y Llywodraeth hon, mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn fwy na 1.38 miliwn am y tro cyntaf yn ein hanes. Wythnos diwethaf roeddwn yn cynnal ein trydedd Uwchgynhadledd Swyddi Swyddfa Cymru a oedd unwaith eto yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth i bobl ifanc mewn busnesau bach a chanolig.

“Yn gynharach y mis yma bûm hefyd yn ymweld â chanolfannau rhagoriaeth peirianneg yng ngogledd Cymru a gwelais sut roedd cwmnïau’n buddsoddi yn eu gweithluoedd i adeiladu sylfaen o sgiliau sy’n gallu cystadlu’n fyd-eang. Mae’r ystadegau diweddaraf yn adlewyrchu’r hyder rwyf wedi’i weld mewn busnesau ar fy ymweliadau diweddar ond mae hefyd yn dangos sut mae Llywodraeth y DU yn creu’r amodau iawn ar gyfer twf a chyflogaeth.”

Roedd 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r gyfradd yn cynyddu 2.2 pwynt canran. Mae’r gyfradd cyflogaeth wedi codi’n uwch na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU - ac mae’n bron i ddwbl y cynnydd ar draws y DU.

Mae’r ystadegau chwarterol hefyd yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yn 6.8% yng Nghymru, sy’n is na’r gyfradd ar draws y DU. Er bod gostyngiad mewn cyflogaeth o’i gymharu â’r chwarter blaenorol, nid oedd y gyfradd cyflogaeth wedi newid.

Dywedodd David Jones AS:

“Er bod gostyngiad o 5,000 yn y chwarter yma ar gyfer nifer y bobl mewn gwaith, mae’r ystadegau hyn yn cymharu â’r chwarter blaenorol a oedd yn dangos cyfradd uwch nag erioed mewn cyflogaeth. Mae’n bwysig canolbwyntio ar y patrymau tymor hir. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae cyflogaeth wedi codi 41,000 ac mae’r gyfradd cyflogaeth wedi codi mwy nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU. Mae hwn yn batrwm tymor hir sy’n dangos bod ein cynllun economaidd tymor hir yn gweithio yng Nghymru.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 April 2014