Ysgrifennydd Cymru yn mynychu gwasanaeth i goffáu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
Alun Cairns: Ddiwrnod y Cadoediad yn nodi un o’r adegau mwyaf arwyddocaol yn hanes ein cenedl.
Mae ein dyled o ddiolchgarwch i genedlaethau o bersonél y Lluoedd Arfog yn anfesuradwy, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw wrth iddo baratoi i ymuno â’r miliynau o bobl ledled y DU sy’n mynychu digwyddiadau a gwasanaethau cofio ar Ddiwrnod y Cadoediad.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynrychioli Llywodraeth y DU mewn gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Bydd yn ymuno â gwesteion gan gynnwys Eu Huchelderau Brenhinol ac Iarll ac Iarlles Wessex, a hynny i goffáu canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn 1918 ar yr unfed awr ar ddeg o’r unfed diwrnod ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg, llofnodwyd Cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf mewn cerbyd trên yng Nghoedwig Compiègne yng ngogledd Ffrainc, gan bersonél milwrol a oedd yn cynrychioli Ffrainc, yr Almaen a Phrydain Fawr.
100 mlynedd yn ddiweddarach, bydd miloedd o aelodau’r cyhoedd yn gorymdeithio heibio’r Senotaff yn Whitehall i nodi’r canmlwyddiant, a hynny fel rhan o Orymdaith y Bobl. Ar yr un pryd, bydd pobl yn cael eu hannog i ganu clychau ledled y byd, wrth i Lywodraeth y DU geisio efelychu’r don o ryddhad a roddwyd yn 1918.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ddydd Sul, bydd pobl o bob cefndir yn ymgynnull mewn gwasanaethau cofio ledled y DU i nodi un o’r adegau mwyaf arwyddocaol yn hanes ein cenedl.
Wrth i’r digwyddiadau canmlwyddiant ddirwyn i ben, rhaid i ni roi blaenoriaeth ar sicrhau ein bod ni’n parhau i gadw hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw. Uchelgais Llywodraeth y DU oedd cynnal digwyddiad coffáu gwirioneddol genedlaethol, gan ddarparu sylfaen i greu gwaddol diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â sicrhau y bydd yr aberth a’r gwasanaeth a roddwyd gan mlynedd yn ôl yn dal i gael ei gofio ymhen can mlynedd.
Rwy’n falch o gynrychioli Llywodraeth y DU a chael bod yn rhan o’r profiad arbennig hwn o fyfyrio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf heddiw. Dewch i ni gyd gymryd saib i gofio am y bobl a gollodd eu bywyd a’r bobl y bydd eu haberth a’u dewrder yn cael eu hanrhydeddu am amser maith ar ein holau ni.
Mae blwyddyn y canmlwyddiant yn disgyn ar yr un flwyddyn ag y cafodd Diwrnod Lluoedd Arfog y DU ei gynnal yn Llandudno a’r flwyddyn yr aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Affganistan i weld 260 milwr y Gwarchodlu Cymreig sydd wedi’u lleoli yn y brifddinas, Kabul.
Roedd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, hefyd yn bresennol yn agoriad y Maes Coffa yng Nghaerdydd yn gynharach yn yr wythnos. Talodd deyrnged i gofio am y bobl a fu farw yn ystod y rhyfel drwy osod croes bren gyda’i deyrnged bersonol ei hun arni i’r bobl a gollodd eu bywyd.
Bydd gwasanaethau ddydd Sul yn nodi diwedd rhaglen canmlwyddiant Llywodraeth y DU, sef rhaglen pedair blynedd lle cynhaliwyd digwyddiadau coffa cyson i geisio adrodd stori’r holl wledydd a oedd yn gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Y fyddin fwyaf o wirfoddolwyr oedd Byddin Brydeinig India, a wnaeth ddarparu tua 1.3miliwn o filwyr o gredoau amrywiol. Bydd cynrychiolwyr o Ganolfan India yn bresennol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sul i nodi’r cyfraniad arwyddocaol hwn i ymdrech y rhyfel.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Mae Llywodraeth y DU bob amser wedi ceisio sicrhau bod gweithgareddau cofio yn tynnu sylw at gyfraniadau o bob cwr o’r Gymanwlad, yn ogystal â sicrhau eu bod yn berthnasol i bobl o bob ethnigrwydd a chred yr oedd eu cyndeidiau’n gysylltiedig â’r rhyfel. Rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl nawr yn ymwybodol o’r cyfraniad a wnaeth eu perthnasau i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn gwybod yn union faint o bobl – o bob ethnigrwydd, hil a chred – wnaeth frwydro dros y rhyddid rydyn ni i gyd yn ei fwynhau heddiw.