Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â chwmni sy’n datblygu technoleg i drechu Covid-19
Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi gweld gwaith cwmni yng Nghas-gwent sy’n datblygu technoleg a allai fod yn werthfawr yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Ar ei ymweliad swyddogol cyntaf yng Nghymru ers llacio cyfyngiadau symud y coronafeirws, ymwelodd Mr Hart â Creo Medical, lle clywodd sut y bydd y cwmni’n defnyddio buddsoddiad o £2m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu ei dechnoleg Plasma Oer. Dywed y cwmni bod y dechnoleg wedi bod yn effeithiol yn llonyddu a dihalogi feirws Covid-19.
Mewn ymateb i’r pandemig, bydd Creo Medical yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu technoleg arloesol sy’n ateb yr anghenion brys a grëwyd gan Covid-19, yn cynnwys diheintio cyfarpar diogelu personol a chyfarpar meddygol.
Mae’r benthyciad o £2m, sydd i’w ad-dalu dros bum mlynedd, wedi’i ddarparu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil a datblygu arloesol yng Nghymru ac mae wedi ymrwymo £500 miliwn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ei helpu i gefnogi cwmnïau arloesol fel Creo Medical.
Dangoswyd amrediad Creo o gynnyrch endosgopi llawfeddygol ynni uwch i Ysgrifennydd Cymru hefyd. Cynhyrchion sydd eisoes yn cael eu defnyddio i chwyldroi triniaeth canser y coluddyn ac y gellid eu defnyddio’n fuan i drin mathau eraill o ganser, megis canser yr ysgyfaint a chanser pancreatig.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n wych gweld cwmnïau o Gymru yn ymateb i’r heriau sydd wedi’u creu gan y pandemig hwn ac yn datblygu technoleg a all wneud gwahaniaeth go iawn yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Bydd buddsoddiad £2 filiwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hybu’r ymchwil arloesol sydd eisoes yn digwydd yn Creo Medical ac yn helpu i wella safle de Cymru fel arweinydd yn natblygiad technoleg feddygol.
Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo:
Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’n cyfleusterau yma yng Nghas-gwent. Rydym yn falch o fod wedi defnyddio ein harbenigedd yn datblygu dyfeisiau meddygol arloesol a’u cymhwyso i’n technoleg plasma i ddatblygu cynnyrch a allai helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws.
Mae gan Gymru enw da iawn am gynhyrchu cwmnïau gwyddorau bywyd arloesol sy’n gryf o ran technoleg ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi sefydlu llwyfan i ddatblygu offer meddygol tyngedfennol yma yn y DU a fydd o fudd i gleifion canser ledled y byd, ac amddiffyn ein cenedl rhag i COVID-19 gael gafael yma eto.
Dywedodd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Is-gadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
Mae’n bleser gan Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gefnogi Creo Medical i ddatblygu ei dechnoleg Plasma Oer. Ni fyddai’r arloesi aruthrol hwn mewn sterileiddio wedi gallu dod ymlaen ar adeg well a bydd y dechnoleg newydd hon yn gweddnewid pethau o ran lladd bacteria a firysau. Mae eisoes wedi profi y gall fod yn effeithiol yn erbyn COVID-19.
Mae’r diwydiant MedTech yn faes datblygu allweddol ac yn gyfle i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’n wych fod Creo yma yn ein mysg - mae ar flaen y gad ym myd y gwyddorau meddygol. Mae darparu’r benthyciad hwn yn sicrhau bod modd datblygu’r dechnoleg hanfodol hon yn gyflym.
Mae ein rhanbarth yn lle cyffrous i fod ynddo ac mae ein Bargeinion Dinesig yn barod i ddatgloi rhagor o gyfleoedd. Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio gyda chwmnïau blaengar fel Creo Medical ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.
Sefydlwyd arbenigedd Creo Medical fel dylunydd dyfeisiau meddygol arloesol drwy ei amrediad o ddyfeisiau llawfeddygol ynni uwch y gellir eu defnyddio’n endosgopig i drin ystod eang o gymhlethdodau gastroberfeddol yn ddiogel, gan gynnwys arwyddion cynnar canser y coluddyn. Wedi’i arloesi yn y DU gan endosgopwyr mwyaf blaengar y GIG, dangoswyd bod defnyddio cynnyrch cyntaf Creo, Speedboat, yn arbed bron i £5,000 y driniaeth i ysbytai’r GIG o’i gymharu â thechnegau llawfeddygol traddodiadol. Mae technoleg Creo yn caniatáu i lawdriniaethau a arferai gael eu cynnal dan anesthetig cyffredinol gael eu gwneud yn gyflym ac yn ddiogel fel triniaethau cleifion allanol – gan roi manteision i’r GIG o ran economeg a lleihau rhestrau aros, ond hefyd gan roi canlyniadau gwell i gleifion.