Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cynlluniau’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i leihau biwrocratiaeth

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi nodi ei chynlluniau i ddadreoleiddio rhai mathau o drefniadau trwyddedu adloniant…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi nodi ei chynlluniau i ddadreoleiddio rhai mathau o drefniadau trwyddedu adloniant yng Nghymru, sy’n cael eu trwyddedu ar hyn o bryd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.  

Dywedodd David Jones: “Mae’r cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw i leihau’r rheoleiddio o ran trwyddedu digwyddiadau yn y gymuned yn cael eu croesawu ledled Cymru.  Mae digwyddiadau cymunedol mewn canolfannau cymunedol, ysgolion a neuaddau pentref yn hynod bwysig o safbwynt diwylliannol a chymdeithasol, felly rwy’n falch na fydd yn rhaid i ddigwyddiadau o’r fath gael trwydded gan awdurdod lleol mwyach.” 

Nodyn i Olygyddion: 

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi nodi ei chynlluniau i ddadreoleiddio rhai mathau o drefniadau trwyddedu adloniant sy’n cael eu trwyddedu ar hyn o bryd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.  Daw’r cynigion hyn mewn ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd ddiwedd 2011, a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (drwy Banel y Sector Diwydiannau Creadigol), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. 

Dolen at ddatganiad i’r wasg yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

http://www.culture.gov.uk/news/media_releases/9652.aspx

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 January 2013