Ysgrifennydd Cymru: Economi Cymru ar y trywydd iawn
Mae ystadegau economaidd a gyhoeddwyd heddiw (12 Rhagfyr) yn dangos bod economi Cymru yn parhau i ddangos arwyddion cadarnhaol o adferiad, dywedodd…
Mae ystadegau economaidd a gyhoeddwyd heddiw (12 Rhagfyr) yn dangos bod economi Cymru yn parhau i ddangos arwyddion cadarnhaol o adferiad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd o 4,000 yn y lefel gyflogaeth yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf. Roedd twf y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf a’r flwyddyn ddiwethaf yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU yn gyffredinol.
Gwelwyd gostyngiad o 15,000 mewn diweithdra yn ystod yr un cyfnod, gyda diweithdra ymhlith ieuenctid wedi gostwng am yr ail fis yn olynol. Roedd y gostyngiad yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf a’r flwyddyn ddiwethaf yr ail ostyngiad mwyaf o blith yr holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, ac yn llawer uwch na’r gostyngiad ledled y DU yn gyffredinol.
Mae’r ystadegau blynyddol ar gyfer y Gwerth Ystadegol Crynswth (GYC), a gyhoeddwyd heddiw hefyd, wedi dangos bod y bwlch yn y GYC y pen yng Nghymru o gymharu a chyfartaledd y DU wedi lleihau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yng Nghymru y gwelwyd y trydydd cynnydd mwyaf mewn GYC y pen rhwng 2010 a 2011 o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
Er hynny, yng Nghymru mae’r GYC y pen isaf o hyd mewn unrhyw wlad ddatganoledig neu ranbarth yn Lloegr, yn 25% yn is na chyfartaledd y DU.
Dywedodd Mr Jones:
“Mae’r ffigurau diweddaraf wedi tanlinellu pa mor bwysig yw hi i weinidogion Llywodraeth Cymru weithio gyda’u cyd-weinidogion yn Llywodraeth y DU er mwyn gwneud y gorau o’r potensial am dwf economaidd yng Nghymru.
“Mae ein marchnad lafur ni’n parhau i wneud yn well na rhannau eraill o’r DU, gyda 4,000 yn rhagor o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru dros y chwarter diwethaf, a 38,000 yn rhagor yn dod o hyd i gyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’r gostyngiad am yr ail fis yn olynol mewn diweithdra ymhlith ieuenctid yng Nghymru, ynghyd a gostyngiad o 0.1 pwynt canran yn nifer yr hawlwyr, yn newyddion i’w groesawu hefyd. Mae’n dangos bod y llywodraeth hon yn cymryd y camau priodol i roi hwb i’n heconomi ni.
“Mae’r ffigurau GYC a ryddhawyd heddiw wedi dangos ein bod ni, yng Nghymru, yn dechrau cau’r bwlch o gymharu a chyfartaledd y DU a bod ein hymdrechion ni i sicrhau cydbwysedd yn economi’r DU unwaith eto yn dwyn ffrwyth.
“Mae’n galonogol gweld mai yng Nghymru y bu’r trydydd cynnydd mwyaf mewn GYC y pen rhwng 2010 a 2011 o blith unrhyw wlad ddatganoledig neu ranbarth yn Lloegr.
“Er hynny, er bod y ffigurau hyn yn symud i’r cyfeiriad iawn, mae llawer o waith i’w wneud eto. Yng Nghymru mae’r GYC y pen isaf o hyd o blith unrhyw wlad ddatganoledig neu ranbarth yn Lloegr, ac mae’n rhaid gwneud mwy i annog twf economaidd yng Nghymru er mwyn cau’r bwlch hwn.
“Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yr wythnos ddiwethaf yn helpu Cymru a gweddill y DU i aros ar y llwybr at adferiad.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid cyfalaf ychwanegol o £227 miliwn, a fuddsoddir ganddi gobeithio mewn prosiectau a fydd yn hybu swyddi a thwf yng Nghymru.
“Nawr yw’r amser am gyflawni a sicrhau canlyniadau, a bydd pobl Cymru eisiau gweld llai o siarad a mwy o weithredu, er mwyn sicrhau bod Cymru ar y blaen gyda thwf a swyddi. Hefyd, yn gwbl briodol, byddant yn disgwyl i’w dwy Lywodraeth gydweithio i’r diben hwnnw.
“Mae’r neges yn glir - mae’n rhaid i ni ddal ati i roi’r amodau yn eu lle i gefnogi twf economaidd hirdymor ledled Cymru a gweddill y DU.”
Nodyn i Olygyddion:
•Gwelwyd cynnydd o 4,000 mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf (Awst i Hydref 2012 gyda Mai i Orffennaf 2012). Roedd y cynnydd yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf (+0.5 pwynt canran) y pumed mwyaf o blith yr holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, ac yn llawer uwch na’r cynnydd a welwyd ledled y DU yn gyffredinol (+0.1 pwynt canran).
•Gwelwyd gostyngiad o 15,000 yn niweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf, gyda gostyngiad o 0.9 pwynt canran yng nghyfradd ddiweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Y gostyngiad hwn oedd yr ail fwyaf o blith yr holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ac roedd yn fwy na’r gostyngiad a welwyd ledled y DU yn gyffredinol (-0.2 pwynt canran).
•Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth yn cyfateb yn rhanbarthol i’r Cynnyrch Domestig Crynswth yn genedlaethol.