Neges Dydd Gŵyl Dewi Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn diolch i bobl Cymru am eu haberthiadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei neges Dydd Gŵyl Dewi.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi talu teyrnged i bobl Cymru yn ei neges Dydd Gŵyl Dewi.
Gan dynnu sylw at yr aberth a wnaed yn ystod pandemig Covid-19, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn diolch i weithwyr ar y rheng flaen. Mae Mr Hart hefyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, gan dynnu sylw at gynnydd cyflwyniad y brechlyn a chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer twf ac adferiad yng Nghymru.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod heb gynsail. Dydd Gŵyl Dewi diwethaf, ni allem fod wedi rhagweld y flwyddyn i ddod na hyd yn oed y byddem yn mynd i’r cyfyngiadau cyntaf ledled y DU ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, a’r tarfu ar fywyd arferol sydd wedi dilyn.
Mae’r flwyddyn ers hynny wedi bod yn un o drasiedi ac rwy’n cydymdeimlo o’r galon â theuluoedd ac anwyliaid o dros 5,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi marw neu sy’n dioddef o ganlyniad i’r feirws ofnadwy hwn.
Dyma fu’r cyfnod mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd - yng Nghymru, ar draws y DU ac ar draws y byd. Bu ymdrech enfawr gan y pobl sy’n gweithio ar reng flaen y pandemig ledled Cymru. Cafodd rhai eu cydnabod yn haeddiannol yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, ond ni chydnabuwyd miloedd fwy a hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt a diolch iddynt am eu gwaith anhunanol. A diolch hefyd i bob un person yng Nghymru am yr aberthau y maent wedi’u gwneud yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gweithio i ddarparu cymorth i bobl a busnesau drwy’r amhariad y mae’r pandemig wedi’i achosi. Rydym wedi darparu mwy na £2.7 biliwn o gymorth uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru drwy’r Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws a Benthyciadau Ailgydio yn ogystal â chynlluniau fel ffyrlo a chymorth i’r hunangyflogedig sydd wedi cefnogi hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn unig – un o bob tri o’r gweithlu.
Mae Trysorlys y DU hefyd wedi darparu £6.6bn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer ei ymateb i’r pandemig.
Rydym hefyd wedi sefydlu mwy na 50 o ganolfannau profi ledled Cymru, wedi cyflenwi miliynau o eitemau PPE ac wedi sicrhau bod bron i 300 o bersonél o Luoedd Arfog y DU yng Nghymru i gefnogi GIG Cymru.
Ond gallwn nawr weld y ffordd allan o’r pandemig o ganlyniad i’r rhaglen frechu barhaus. Mae cyflymder ei ddatblygiad a’i gyflwyniad ledled y DU wedi bod yn syfrdanol. Mae’n arwain y byd ac mae Cymru’n chwarae rhan fawr drwy gyfleuster Wockhardt yn Wrecsam lle mae brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn cael ei gynhyrchu.
Gyda’r brechlyn yn cael ei gyflwyno’n barhaus gallwn ddechrau edrych i’r flwyddyn sydd i ddod. Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd y Canghellor yn cyflwyno ei Gyllideb, gan osod y cwrs cyllidol ar gyfer adferiad, ffyniant, swyddi, twf a chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gennym waith enfawr i’w wneud ac rydym yn canolbwyntio fel llywodraeth ar gael y DU yn ôl ar y trywydd iawn a lefelu’r DU cyfan. Yng Nghymru mae hyn yn golygu adeiladu ar gynnydd rhagorol ein Cynlluniau Dinas a Thwf, buddsoddi mewn diwydiannau adnewyddadwy a seilwaith a darparu cyllid i’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Cyn yr hyn a fydd, yn fy marn i, yn flwyddyn o adferiad a thwf i’n holl gymunedau, rwy’n dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb yng Nghymru a’r holl Gymry ledled y byd.