Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi Enillwyr Gwobr y Frenhines 2019 am Wasanaeth Gwirfoddol yng Nghymru

Mae tri sefydliad yng Nghymru wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae nifer y sefydliadau sy’n derbyn y wobr ledled y wlad wedi cynyddu unwaith eto eleni. Caiff ei rhoi i grwpiau gwirfoddol eithriadol ledled y DU sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.

Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw’r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol ledled y DU i gydnabod gwasanaeth rhagorol yn eu cymunedau.

Dyma’r enillwyr o Gymru eleni: * Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl: Gwneud Pont-y-pŵl yn lle bywiog, diogel a deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, gan ddod â’r gymuned yn ôl at ei gilydd. * Amgueddfa’r Môr Porthmadog Maritime Museum: Gweithio i gadw ac arddangos treftadaeth adeiladu llongau a mordwyo’r ardal. * Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair: Gweithredu rheilffordd stêm wyth milltir o hyd sy’n dangos sut roedd yn gwasanaethu ei chymuned wledig yng Nghanolbarth Cymru yn oes Edward.

Dywedodd Syr Martyn Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Annibynnol Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol:

Mae’r nifer uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Frenhines eleni am Wasanaeth Gwirfoddol yn profi bod gwirfoddoli ar lawr gwlad yn parhau i ffynnu. Eleni, mae wedi bod yn bleser mawr cael llongyfarch 281 o enillwyr - pob un ag enw da am lwyddo i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion a phroblemau yn eu cymunedau. > Maen nhw’n enghreifftiau pwerus o ddemocratiaeth go iawn. Rydyn ni’n gwybod bod miloedd mwy o sefydliadau lleol yn gwneud gwaith gwych, a byddwn yn annog y rheini ohonoch chi sydd wedi eu gweld ar waith neu wedi elwa o’u gweithgareddau i ystyried eu henwebu ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2020. Dyma’r wobr uchaf y gall ein gwlad ei rhoi i grwpiau o wirfoddolwyr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r gwobrau hyn yn amlygu’r gwaith diflino y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ledled y DU i wasanaethu eu cymunedau, ac mae enillwyr Cymru eleni yn allweddol i addysgu pobl ac i ddangos balchder mewn diogelu treftadaeth eu hardaloedd.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr haeddiannol hyn am y rôl gadarnhaol maen nhw’n ei chwarae mewn tair cymuned ledled Cymru.

Dywedodd Mims Davies, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil a Chwaraeon:

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau cynifer o bobl a’u cymunedau. Mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cydnabod y gwaith gwych mae llawer o sefydliadau gwirfoddol yn ei wneud ledled y wlad. Llongyfarchiadau mawr iawn i’r holl enillwyr haeddiannol am eu gwaith caled a’u hymroddiad parhaus.

Caiff enillwyr Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eu cyhoeddi bob blwyddyn ar 2 Mehefin - pen-blwydd Coroni’r Frenhines.

Gall unrhyw grŵp sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr, sy’n cynnwys dau berson neu fwy ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill mewn modd eithriadol, gael ei enwebu am wobr. Rhaid i grŵp fodloni’r gofynion cymhwyso cyn y gellir prosesu’r enwebiad drwy gamau asesu’r wobr. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2020 yw 13 Medi 2019.

Gellir gweld rhestr lawn o’r enillwyr ar wefan Llywodraeth y DU

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 June 2019