Datganiad i'r wasg

Cymro’n gwneud prif fwrdd NATO

Mae’r saer o Gymru, Paul Rathkey, wedi ennill contract pwysig i wneud y bwrdd cyfarfod ar gyfer arweinwyr byd yn Uwchgynhadledd NATO 2014

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office minister Alun Cairns with Welsh cabinet maker Paul Rathkey.

Wales Office minister Alun Cairns with Welsh cabinet maker Paul Rathkey.

Bydd tîm Paul yng nghwmni Rathkeys, Llandŵ, yn defnyddio pedair tunnell o goed i wneud dau fwrdd ar gyfer y digwyddiad. Bydd bwrdd 25 metr o hyd yn cael ei ddefnyddio yn y brif ystafell gyfarfod, a bydd ail fwrdd, 17 metr o ran diamedr, mewn ail ystafell gyfarfod, lle bydd yr arweinwyr yn cwrdd mewn grwpiau llai. Bydd coed o bob cwr o Gymru’n cael eu defnyddio i wneud y byrddau.

Nid Rathkeys yw’r unig fusnes i elwa o’r contract; mae coesau’r byrddau’n cael eu gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr; daw’r Derw Cymreig gan gwmni coed yn Abertawe; daw’r coed laminedig o Gaerdydd; cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi darparu’r deunydd ar gyfer y ceblau; a bydd cwmni cludo o Ben-y-bont ar Ogwr wrth law i symud y bwrdd anferth i’r Celtic Manor.

Gyda phythefnos i fynd nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau, dywedodd Paul:

Mae’n fraint cael gwahoddiad i wneud y bwrdd hwn ar gyfer yr Uwchgynhadledd. Dyma un o’r prosiectau mwyaf rydyn ni wedi’i dderbyn, ond rydyn ni’n hoffi sialens.

Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod holl elfennau’r bwrdd yn Gymreig, o’r coed i’r cerbydau cludo. Bydd y chwe aelod o’r tîm yn gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod popeth yn barod ar amser.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae gweld bwrdd NATO’n cael ei greu yma yng Nghymru gan Paul, gan ddefnyddio derw Cymreig – mae hyd yn oed y coesau’n cael eu gwneud yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr – yn tanlinellu’r ffaith fod yr Uwchgynhadledd yn wych i’r wlad, nid yn unig o ran y proffil, ond yn ymarferol hefyd.

Mae busnesau yng Nghymru – masnachwyr lleol, gwestai, cyflenwyr bwyd a darparwyr ynni - yn elwa o effaith NATO, ac mae Cymru’n cael ei gweld ar draws y byd fel gwlad sy’n gallu cynnal digwyddiadau gyda’r gorau yn y byd.

Cynhelir Uwchgynhadledd NATO yng ngwesty’r Celtic Manor ar 4 - 5 Medi a bydd dros 60 o arweinwyr y byd yn bresennol.

Mae Rathkeys yn cynhyrchu gwaith coed sy’n amrywio o ddodrefn unigol ac addurniadau ac ategolion cain, i adnewyddu ystafelloedd a hyd yn oed tai neu fusnesau.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 19 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 August 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.