Stori newyddion

Tynnu ein hen rifau ffôn cefnogaeth i gwsmeriaid yn ôl

O 28 Chwefror, byddwn yn tynnu rhifau ffôn cefnogaeth i gwsmeriaid '08' y Gofrestrfa Tir yn ôl.

Ym mis Awst cyflwynwyd rhifau 0300 newydd ar gyfer rhai o’n llinellau gwasanaeth. Isod mae rhestr gyflawn o’r rhifau newydd:

  • cefnogaeth i gwsmeriaid (gwasanaeth Cymraeg): 0300 006 0422
  • cefnogaeth i gwsmeriaid (gwasanaeth Saesneg): 0300 006 0411
  • ymholiadau ynghylch methdaliad: 0300 006 6107
  • Tîm Gwasanaethau Masnachol: 0300 006 0478

Cadwyd yr hen rifau’n agored am chwe mis a nawr rydym wedi’u tynnu’n ôl. Bydd neges ar yr hen rifau am 3 mis yn hysbysu cwsmeriaid am y rhif newydd i’w ffonio.

Gallwch gysylltu â’n cefnogaeth i gwsmeriaid trwy ein ffurflen ar-lein a’n fforwm cymortho hyd. Yn ogystal, mae cyfarwyddyd ar GOV.UK ar gyfer cwsmeriaid ac aelodau’r cyhoedd.

Rydym yn falch o allu gwneud y newid hwn i gydymffurfio’n harferion â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a gweithredu ar adborth a gawsom gan gwsmeriaid.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 February 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 March 2015 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.