Ymchwil yn Tŷ'r Cwmnïau
Ymunwch â'n panel defnyddwyr i'n helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, a chwblhau ein harolwg boddhad cwsmeriaid i ddweud wrthym beth yw eich barn am ein gwasanaethau.
Dod yn aelod o’n panel defnyddwyr
Mae ein panel defnyddwyr yn ein helpu i ddeall sut mae ein cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau digidol yn well. Mae gennym gynrychiolaeth gan ystod eang o ddefnyddwyr sy’n rhoi adborth ar eu profiadau.
Os hoffech ein helpu i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau, cofrestrwch i fod yn aelod o’n panel defnyddwyr.
Pam rydym yn gwneud gwaith ymchwil defnyddwyr
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn rhoi i ni, i:
- asesu pa mor dda rydym yn darparu ein gwasanaethau
- gael mewnwelediad ar ba newidiadau yr hoffech i ni eu gwneud i’n gwasanaethau presennol
- datblygu gwasanaethau newydd yr hoffech i ni eu darparu
Pan fyddwch yn cwblhau arolwg, caiff y wybodaeth a roddwch i ni ei thrin â chyfrinachedd yn unol a’n datganiad preifatrwydd.
Sut mae’r sesiynau ymchwil defnyddwyr yn gweithio
Byddwn yn gofyn i chi pa fathau o ymchwil yr hoffech fod yn rhan ohonynt. Byddwn ond yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr ydych wedi’u nodi.
Mae cyfranogiad yn wirfoddol. Gallwch ddweud na wrth unrhyw wahoddiad a gewch.
Gallwch adael y panel defnyddwyr ar unrhyw adeg.
Darllenwch fwy am ein panel ymchwil defnyddwyr ar ein blog.
Ymchwil ac arolygon cyfredol
Gallwch ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau neu’n amlygu meysydd lle gallwn wella.
Cwblhewch ein harolwg boddhad cwsmeriaid.
Cyhoeddiadau ymchwil a chanlyniadau arolygon
Gallwch ddod o hyd i’n hymchwil a chanlyniadau’r arolwg - ychwanegwch eiriau allweddol a hidlyddion eraill i fireinio canlyniadau’r chwiliad.
Mae ymchwil a chanlyniadau arolygon hŷn ar gael o’r Archifau Cenedlaethol.