Gweithdrefn gwyno
Sut i wneud cwyn am y ffordd mae PecynUK yn gweithredu a'r gwasanaethau rydym yn darparu.
Gweithdrefn gwyno
Gobeithio y bydd y mwyafrif o bobl yn fodlon â’r gwasanaeth i gwsmeriaid rydyn ni’n ei roi, ond rydyn ni’n cydnabod y gall rhai fod yn anfodlon.
Mae gan PecynUK broses gwyno ffurfiol a thryloyw ar waith i ymdrin â chwynion am y ffordd rydyn ni’n gweithredu neu am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Yr enw ar y cwynion yma yw cwynion safonau gwasanaeth.
Pethau i’w hystyried cyn gwneud cwyn
Dyw’r broses o gwyno am safonau gwasanaeth ddim yn ymwneud â phrosesau cwyno mewnol i’r staff, na gwrthwynebiadau i bolisïau’r sefydliad.
Cyn gwneud cwyn am safon gwasanaeth, dylech ystyried yn y lle cyntaf a ydy’r gŵyn yn ymwneud â PecynUK ynteu a ddylai gael ei chyfeirio at Defra, y rheoleiddiwr priodol ar gyfer eich rhanbarth chi neu un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Sut i gwyno
Os oes gennych chi gŵyn am safonau gwasanaeth sy’n ymwneud â’r ffordd rydyn ni’n gweithredu neu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.
Beth yw eich enw? - Cysylltwch â PackUK – GOV.UK
Mae gennyn ni broses dau gam sydd wedi’i bwriadu i ddelio â chwynion yn gyflym, yn effeithiol ac yn deg.
Cam 1 (y cam cychwynnol)
Dylech gyfeirio’ch cwyn at dîm cwynion PecynUK. Tîm cwynion PecynUK sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion am safonau gwasanaeth.
Gall y tîm gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dderbyn cwyn. Os yw eich cwyn wedi cael ei derbyn, fe gewch chi ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cam 2 (ailystyried)
Os ydych chi’n anfodlon ar yr ymateb a gewch chi yn ystod y cam yma, gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei throsglwyddo i uwch-reolwr – sy’n cael ei alw yn ailystyried.
Mae gennych chi 28 diwrnod calendr ar ôl cael ein hymateb cychwynnol i ofyn i’ch cwyn gael ei huwchgyfeirio. I wneud hyn, ymatebwch i dîm cwynion PecynUK mewn ysgrifen gan egluro pam nad ydych chi’n fodlon â’r canlyniad; yna bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at uwch-reolwr ar gyfer y maes perthnasol. Bydd yr uwch-reolwr yn anelu at ymateb ichi mewn ysgrifen o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cael eich cais am uwchgyfeirio.
Dyfarniad annibynnol
Os byddwch chi’n dal yn anfodlon ar benderfyniad yr uwch-reolwr, cewch ofyn i unrhyw Aelod Seneddol gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmony Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd:
PHSO
Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4QP
Er ein bod bob amser yn anelu at ateb eich cwyn hyd eithaf ein gallu, allwn ni ddim ymateb i geisiadau am yr un wybodaeth dro ar ôl tro.