Amdanom ni
Mae Swyddfa Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Cymru ac Is-Ysgrifenyddion Gwladol Seneddol i hyrwyddo buddiannau gorau Cymru o fewn Teyrnas Unedig gryfach. Mae'n sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli wrth galon Llywodraeth y DU, a bod cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn cael eu cynrychioli yng Nghymru.
Amcanion
Swyddfa Cymru yw Swyddfa Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru. Ei rôl yw gwneud y canlynol:
-
Hyrwyddo economi a buddiannau economaidd Cymru.
Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, gyda busnes a chyda rhanddeiliaid eraill i ysgogi twf economaidd a chreu economi mwy cytbwys yng Nghymru.
-
Sicrhau bod y setliad datganoli yn parhau i ddarparu setliad clir, teg a chryf i Gymru
Byddwn yn sicrhau bod Cymru’n parhau i elwa o setliad datganoli cydlynol sy’n galluogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni dros bobl Cymru a bod deddfwriaeth yn Senedd y DU a Senedd Cymru yn adlewyrchu’r ffiniau datganoli yn gywir. Byddwn yn ceisio hyrwyddo perthynas gynhyrchiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
-
Cynrychioli buddiannau Cymru yn Llywodraeth y DU, a hybu dealltwriaeth ehangach o bolisïau Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Byddwn yn gweithio’n agos gydag adrannau Llywodraeth y DU i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu cynrychioli’n llawn wrth lunio a gweithredu polisïau Llywodraeth y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o bolisïau Llywodraeth y DU mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli.
Darganfod mwy am ymrwymiadau Llywodraeth y DU i bobl Cymru.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni’n ei chyhoeddi’n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni’n ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.