Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cofrestru Tir

Abi Howarth

Bywgraffiad

Ymunodd Abi Howarth â Chofrestrfa Tir EF fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cofrestru Tir ar 7 Hydref 2024.

Ar ôl sawl rôl yn y 1990au mewn adfywio economaidd mewn llywodraeth leol ac yn y sector addysg, treuliodd Abi 5 mlynedd ym Mrwsel yn manteisio i’r eithaf ar arian yr UE i’r DU ac yn arwain Swyddfa Ranbarthol Gogledd Orllewin Lloegr yr UE. Dychwelodd i’r DU yn 2005, a daeth yn Gyfarwyddwr Uned Polisi Glannau Mersi lle cefnogodd ddatblygiad un o’r cytundebau aml-ardal cyntaf a ariannwyd gan y llywodraeth (rhagflaenydd i’r Awdurdodau Cyfunol).

Ymunodd Abi â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn 2014, lle bu’n arwain gwelliannau sylweddol o ran cyflawni gwaith achos datgelu, gan sicrhau bod pobl sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed ledled y wlad yn gallu cael tystysgrif datgelu gywir yn gyflym. Yn 2018, ymunodd Abi â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac Ansawdd, lle roedd yn gyfrifol am sicrhau bod cwynion am y gwasanaeth iechyd a’r llywodraeth yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn effeithlon, gan leihau ciw sylweddol o waith a oedd wedi cronni yn ôl i lefelau ffrithiannol, a sicrhau gwasanaeth mwy amserol o ansawdd i gwsmeriaid.

Yn 2022, daeth Abi yn Brif Swyddog Gweithredu yn y Swyddfa Twyll Difrifol, gan arwain timau gwaith achos amlddisgyblaethol i ymchwilio ac erlyn troseddau economaidd difrifol yn fwy effeithiol.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cofrestru Tir

Mae’r rôl yn gyfrifol am hybu rhagoriaeth gwasanaeth a pherfformiad gweithredol wrth ddarparu ein gwasanaethau cofrestru tir dros y tymor canolig i hir er budd ein cwsmeriaid.

Cofrestrfa Tir EF