Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu Dros Dro

Dudley Ashford

Bywgraffiad

Ymunodd Dudley â DVLA yn 2003 a phenodwyd fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu Dros Dro ym mis Tachwedd 2024.

Gyrfa

Dechreuodd Dudley ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ym 1993, cyn ymuno â DVLA yn 2003. Yn ystod ei gyfnod yn DVLA mae wedi gweithio ar draws gwahanol gyfarwyddiaethau ac wedi dal swyddi allweddol gan gynnwys Rheolwr Gwasanaethau Gyrwyr, Rheolwr Rhaglen Trawsnewid a Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol.

Mae Dudley wedi cyflawni amrywiaeth o fentrau digidol a strategol DVLA gan gynnwys y Cyfrif gyrwyr a cherbydau, gwasanaethau ffitrwydd i yrru meddygol, cyfres newydd o wasanaethau digidol tacograff a’r gwasanaeth ‘gweld a rhannu trwydded yrru’ sy’n galluogi diddymu’r gwrthddalen bapur.

Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu Dros Dro

Y cyfrifoldeb am ddarparu arweinyddiaeth strategaeth, polisi a chyfathrebu ar lefel strategol a gweithredol.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau