Kate Starkey
Bywgraffiad
Ymunodd Kate â Llywodraeth y DU yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2019 gyda’i phartner rhannu swydd, Louise Parry. Daeth Kate i’r adran o’r Grŵp Cyfansoddiadol yn Swyddfa’r Cabinet ble bu’n gweithio ar bolisi seneddol, etholiadol a lobio a deddfwriaethol. Cyn ymuno â’r Grŵp Cyfansoddiadol, bu Kate mewn swyddi eraill yn Whitehall gan gynnwys yn yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig (EDS) yn Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Addysg, yr Adran Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol a Thrysorlys Ei Mawrhydi.
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi
Mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi yn gyfrifol am y canlynol:
- cynghori gweinidogion ynghylch materion polisi sy’n berthnasol i Gymru
- cyfleu a hybu dealltwriaeth ehangach o bolisïau Llywodraeth y DU yng Nghymru
- rhedeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon
Rôl Bwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw:
- darparu arweiniad effeithiol ac ar y cyd i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phennu ei chyfeiriad corfforaethol a’i safonau galluogrwydd, yn seiliedig ar nodau, amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- goruchwylio’r modd y caiff amcanion a blaenoriaethau’r gweinidogion eu cyflawni, fel y maent wedi’u pennu yn y cynllun busnes, a rheoli’r risgiau allweddol cysylltiedig
- sicrhau bod asedau ac adnoddau ariannol Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu rheoli’n ddoeth ac yn effeithiol
- cytuno a chynnal system dryloyw a chadarn o ran rheolau mewnol
- arwain a goruchwylio’r broses o newid ac arbedion effeithlonrwydd
- arwain y broses o reoli a datblygu gweision sifil Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd