Tom Pursglove
Bywgraffiad
Penodwyd Tom Pursglove yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 27 Hydref 2022.
Cyn hynny bu’n Weinidog Gwladol (Gweinidog Mewnfudo) yn y Swyddfa Gartref rhwng 7 Medi 2022 a 25 Hydref 2022.
Cyn hynny bu’n Weinidog Gwladol ar y cyd yn y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng 7 Gorffennaf 2022 a 7 Medi 2022.
Cyn hynny, roedd yn Weinidog dros Gyfiawnder a Mynd i’r Afael ag Ymfudo Anghyfreithlon rhwng 17 Medi 2021 a Gorffennaf 2022 ac yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Awst 2019 tan 17 Medi 2021.
Roedd yn Is-Gadeirydd y Blaid Geidwadol dros Ieuenctid o 27 Gorffennaf 2018 tan 15 Ionawr 2019, a chyn hynny gwasanaethodd mewn rolau amrywiol gan gynnwys: Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Gweinidog Mewnfudo Robert Goodwill AS, Ysgrifennydd Masnach, Dr Liam Fox AS ac yna’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid AS.
Etholwyd Tom yn AS Corby am y tro cyntaf ym mis Mai 2015.
Addysg
Mynychodd Tom Ysgol Syr Christopher Hatton yn Wellingborough a mynychodd Queen Mary, Prifysgol Llundain lle graddiodd gyda gradd mewn gwleidyddiaeth.
Gyrfa Wleidyddol
Cyn dod yn AS, roedd Tom yn Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Wellingborough, yn cynrychioli ward Croyland. Bu hefyd yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Seneddol i Chris Heaton-Harris AS.