Hysbysebu eich swyddi gwag
Cymorth i gyflogwyr i helpu hysbysebu swyddi gwag.
Dogfennau
Manylion
Dod o hyd i swydd
Dod o hyd i swydd yw un o’r safleoedd chwilio am swyddi am ddim mwyaf yn y DU. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd syml a llai cymhleth i geiswyr gwaith a chyflogwyr fewngofnodi, hysbysebu swyddi gwag a chwilio am swyddi.
Mae gan Dod o hyd i swydd gannoedd ar filoedd o geiswyr gwaith cofrestredig gydag ystod o sgiliau, profiad a diddordebau. Mae’r rhyngwyneb defnyddiwr yn golygu y gall ceiswyr gwaith ei deilwra i weddu i’w hanghenion, gan sicrhau eu bod ond yn ceisio am swyddi sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u profiad.
Gall cyflogwyr greu cyfrif am ddim i hysbysebu swyddi gwag ar-lein.
Canllaw i Dod o hyd i swydd ar gyfer cyflogwyr
Canllaw i sut i gopio hysbysiad swydd
Ffyrdd eraill o hysbysebu eich swyddi gwag
Mae yna ystod o ffyrdd eraill i hysbysebu eich swyddi gwag, yn cynnwys:
- defnyddio safleoedd swyddi ar-lein
- gwasanaeth Twitter eich Canolfan Byd Gwaith lleol
- rhannu swyddi ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hunan, fel LinkedIn
- hysbysebu yn y papur lleol
- defnyddio’ch rhwydweithiau a’ch cyrff sector masnach presennol i rannu gwybodaeth am swyddi gwag
- defnyddio asiantaethau recriwtio
Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith dros 60 o gyfrifon Twitter daearyddol y gallwch eu defnyddio i hysbysebu eich swyddi gwag.
Gellir gwneud ceisiadau am gymorth trwy anfon neges breifat trwy Twitter i’ch cyfrif lleol, gan ddefnyddio’r swyddogaeth neges uniongyrchol o fewn Twitter.
Rhennir llawer o swyddi gwag ar lafar, felly gallai eich gweithwyr presennol hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr newydd.
Os ydych angen help ychwanegol gyda llenwi swyddi gwag yna efallai y bydd eich partner Cyflogaeth dan Gontract DWP yn gallu cynnig cymorth yng Nghymru a Lloegr.
Am gymorth gyda recriwtio yn yr Alban, yn ogystal â gwybodaeth am hyfforddi staff, cyllid a Phrentisiaethau, efallai bydd Our Skills Force yn gallu cynnig cymorth.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2020 + show all updates
-
Updated the English PDF version of 'Find a job: guide for employers'.
-
First published.