Apelio yn erbyn penderfyniad am hawlio iawndal mewn perthynas â brechlynnau: Ffurf SSCS7
Defnyddiwch y ffurflen hon i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (BSA y GIG) ar hawliad o dan y cynllun talu iawndal mewn perthynas â brechlynnau.
Dogfennau
Manylion
I apelio yn erbyn penderfyniad BSA y GIG, rhaid i chi wneud cais i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) am ddyfarniad annibynnol ynghylch a yw’r penderfyniad yn gywir ai peidio. Gall tribiwnlys ystyried eich apêl.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau yn y ddogfen ‘Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (SSCS7A)’.
I wneud eich apêl, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen SSCS7 a’i hanfon i’r ganolfan apeliadau SSCS briodol. Mae’r cyfeiriadau ar gyfer y canolfannau apêl i’w gweld ar y ffurflen.
Ar ôl i’r ganolfan apeliadau gael eich ffurflen, byddant yn dweud wrth BSA y GIG eich bod wedi apelio yn erbyn eu penderfyniad. Bydd BSA y GIG yn anfon gwybodaeth atoch chi a’r tribiwnlys am y rhesymau dros eu penderfyniad mewn ymateb i’ch apêl.
Yna, bydd y tribiwnlys yn trefnu’r gwrandawiad ar gyfer eich apêl (os ydych wedi dewis mynychu’r gwrandawiad). Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar eich hawl i gael budd-daliadau.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
-
Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
-
Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
-
Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
-
Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 September 2024 + show all updates
-
Converted the SSCS7A to HTML
-
First published.