Prynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd: canllaw i ddefnyddwyr
Mae’r CMA wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i’ch helpu i brynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd ac i ddeall eich hawliau a’ch amddiffyniadau allweddol o dan gyfraith defnyddwyr.
Dogfennau
Manylion
Gall prynu cynhyrchion gwresogi gwyrdd (megis paneli solar, pympiau gwres a boeleri biomas) neu inswleiddio ar gyfer eich cartref fod yn gymhleth. Rydym wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i’ch helpu gyda phob cam o’r broses, ac i ddeall eich hawliau a’ch amddiffyniadau allweddol o dan gyfraith defnyddwyr.
Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’r camau allweddol canlynol o daith y defnyddiwr:
-
cyn i chi brynu
-
pan fyddwch wedi penderfynu prynu
-
gosod eich cynnyrch (cynhyrchion)
-
yn dilyn gosod
-
beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le
Drwy gydol y canllaw rydym wedi cyfeirio at ddolenni perthnasol a ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar bob cam. Mae’r canllaw hefyd yn nodi crynodeb o’ch hawliau defnyddwyr allweddol, fel y’u hadlewyrchir yn y gyfraith diogelu defnyddwyr. Rydym hefyd wedi amlinellu rhai ystyriaethau penodol sy’n berthnasol i gynhyrchion penodol tuag at ddiwedd y canllaw.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynhyrchu fel rhan o waith y CMA wrth edrych ar ddiogelu defnyddwyr yn y sector gwresogi ac inswleiddio gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael ar ein Tudalen achos amddiffyn defnyddwyr yn y sector gwresogi ac inswleiddio gwyrdd