Gwirio a herio eich prisiad ardrethi busnes Rhestr Ardrethu Ganolog – cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth
Defnyddir y ffurflen i gofrestru ar gyfer gwasanaeth gwirio a herio Rhestr Ardrethu Ganolog 2023 yng Nghymru a Lloegr.
Dogfennau
Manylion
Defnyddir y ffurflen i gofrestru ar gyfer gwasanaeth gwirio a herio Rhestr Ardrethu Ganolog 2023 yng Nghymru a Lloegr. Dim ond os yw’ch eiddo ar y Rhestr Ardrethu Ganolog y dylech ddefnyddio’r ffurflen hon. Y mathau o eiddo sydd yn y rhestrau ardrethu canolog yw:
- rhwydweithiau cyflenwad trydan, nwy a dŵr
- piblinellau traws gwlad
- rhwydweithiau trafnidiaeth mawr
- rhwydweithiau telathrebu
Os oes angen i chi wirio neu herio prisiad ardrethi busnes Rhestr Ardrethu Ganolog 2023, rhaid i chi gwblhau ac anfon y ffurflen T048 atom i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn gyntaf. Darllenwch y canllaw hwn cyn llenwi’r ffurflen.
Pwy na ddylai ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r ffurflen T048 hon ar gyfer eiddo rhestr ganolog yn unig. Mae pob eiddo annomestig (busnes) arall, megis siopau, swyddfeydd, eiddo diwydiannol ac ati, wedi eu cynnwys yn y rhestrau ardrethu lleol 2023.
Os yw eich eiddo ar restr ardrethu lleol, yna bydd angen i chi greu cyfrif prisio ardrethi busnes. Darganfyddwch fwy am y gwasanaeth gwirio a herio ar gyfer eiddo mewn rhestrau ardrethu lleol.
Mae’r gwasanaeth hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Ymdrinnir ag apeliadau ardrethi busnes yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen
Ar ôl cwblhau’r ffurflen dylech ei dychwelyd drwy e-bost i nvuinbox@voa.gov.uk.
Os na allwch anfon y ffurflen hon ar-lein, gallwch hefyd bostio copi caled i:
Valuation Office Agency
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Ar ôl i chi anfon y ffurflen
Unwaith y byddwn wedi adolygu eich cais, byddwch yn derbyn eich prisiad manwl trwy e-bost neu’r post yn dibynnu ar eich dewis.
Gallwch ddarllen ein cyfarwyddyd ar herio’r prisiad os ydych yn credu fod gwall yn y prisiad manwl rydych yn ei dderbyn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Ionawr 2025 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
Clearer guidance added.
-
The PDF attachments have been updated.
-
Updated to include Wales in the 2023 rating list
-
Clarity on which properties are in the Central Rating List and a link to information on checking and challenging properties in local rating lists.
-
First published.