Cadarnhau manylion eich eiddo
Gallwch gadarnhau manylion eich eiddo neu adrodd am unrhyw newidiadau iddynt drwy gyflwyno gwiriad i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Yn berthnasol i England and Gymru
Beth yw achos Gwirio?
Mae 2 ran i brisiad eiddo:
-
Y manylion ffeithiol, megis arwynebedd y llawr a nifer yr ystafelloedd
-
Eu gwerth
Os ydych am herio’r gwerth, mae angen i chi gytuno ar y manylion ffeithiol cywir gyda’r VOA yn gyntaf. Gelwir hyn yn ‘achos Gwirio’.
Os yw’r holl wybodaeth sydd gan y VOA yn gywir
Mae’n rhaid i chi anfon achos Gwirio, hyd yn oed os yw manylion yr eiddo yn gywir, os ydych am wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i’r VOA am rywbeth sy’n effeithio ar y tir neu’r eiddo nad oes modd i chi ei reoli (megis gwaith aflonyddol hirdymor ar y ffyrdd)
- herio gwerth ardrethol yr eiddo
- newid y cyfeiriad
- newid y prif ddefnydd (disgrifiad)
- newid y dyddiad y digwyddodd y newid
Newidiadau eraill y gallwch roi gwybod amdanynt
Gallwch hefyd anfon achos Gwirio i roi gwybod i’r VOA am y canlynol:
- mae’r eiddo wedi’i rannu’n fwy nag un
- mae’r eiddo wedi’i uno ag eiddo eraill er mwyn creu un eiddo newydd neu fwy
- mae’r eiddo wedi’i ddymchwel neu ei adnewyddu
- bu newid yn yr ardal leol sy’n effeithio ar yr eiddo
- mae penderfyniad llys wedi effeithio ar yr eiddo
Beth i’w gynnwys yn eich achos Gwirio
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn am ddogfennau i ategu’ch newidiadau. Gallai’ch tystiolaeth gynnwys:
- ffotograffau
- cynlluniau
- cytundebau rhentu
- datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau nad ydych wedi eu cynnwys yn unman arall
Os nad ydych yn darparu unrhyw ddogfennau a bod yn rhaid i’r VOA ofyn i chi am unrhyw beth, gallai hyn achosi peth oedi wrth brosesu eich achos.
Mae’n bosibl y codir cosb arnoch os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth anghywir yn eich achos Gwirio. Gallai hefyd arwain at gynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich ardrethi busnes.
Cyflwyno gwiriad am newid yn ardal leol eich eiddo
Mae’r dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno gwiriad sy’n ymwneud â rhywbeth allanol sy’n effeithio ar eich eiddo (sydd hefyd yn cael ei alw’n Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau) yn gallu effeithio ar y canlyniad. Os yw’r mater yn un dros dro, dylid cyflwyno’ch gwiriad tra bo’r mater ar y gweill.
Os bydd angen i chi gyflwyno gwiriad ar frys oherwydd hyn, ac rydych yn aros i’ch hawliad am yr eiddo gael ei gymeradwyo neu’n aros i gael copi o’ch prisiad manwl a’ch ffurflen wiriad, dylech anfon e-bost at ccaservice@voa.gov.uk a gofyn am i’ch cais gael ei flaenoriaethu.
Dylech nodi ‘Ar frys: Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau allanol’/‘Urgent: external Material Change of Circumstances’ yn llinell bwnc yr e-bost, a chynnwys cyfeiriad yr eiddo ynghyd ag ID neu gyfeirnod eich cyflwyniad yn yr e-bost.
Ar ôl i chi gyflwyno gwiriad
Bydd y VOA yn adolygu’r manylion y byddwch yn eu hanfon atynt. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd ganddi ddigon o wybodaeth i brosesu eich gwiriad. Fodd bynnag, bydd yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.
Os bydd angen, bydd y VOA yn diweddaru manylion yr eiddo ac yn anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch.
Os bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau newydd ar ôl i chi gyflwyno gwiriad, bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad arall. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu’r wybodaeth yn y ddau wiriad ac yn cysylltu â chi os bydd unrhyw ymholiadau ganddi.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
-
A Welsh translation has been added.
-
Updated information for Wales
-
Updated for the 2023 rating list
-
First published.