Canllawiau

Canllawiau Grant Cysylltu â Gwaith ar gyfer Cymru a Lloegr: Atodiad B: Templed Cynllun Cyflenwi

Diweddarwyd 30 Ionawr 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

I gael mynediad at gyllid Grant Cysylltu â Gwaith, gofynnir i Gyrff Atebol gwblhau Cynllun Cyflenwi, gan nodi sut y maent yn bwriadu defnyddio’r cyllid a darparu’r rhaglen. Dylid cwblhau’r cynllun cyflenwi trwy ddefnyddio gwybodaeth a gynhwysir yn y Canllawiau Grant a nodiadau technegol, fel y nodir isod. Gan mai hwn yw’r cam cyntaf yn Strategaeth Cael Prydain i Weithio y Llywodraeth, rydym yn awyddus bod eich Cynllun Cyflenwi nid yn unig yn casglu gwybodaeth am eich cynlluniau penodol ar gyfer cyflenwi’r rhaglen, ond hefyd dechrau proses o ystyried eich strategaeth ehangach ar waith, iechyd a sgiliau, a sut y bydd y gefnogaeth hon yn cyd-fynd â hi.

Gofynnir i Gyrff Atebol ddatblygu eu Cynllun Cyflenwi mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol ac yn enwedig Aelodau Ychwanegol Ardal Gyflenwi (lle bo hynny’n briodol). Bydd angen i’r Corff Atebol a’r DWP gytuno ar gynlluniau cyn ymrwymo i Gytundeb Ariannu Grant.

Diffinnir termau gyda phrif lythrennau ac acronymau y cyfeirir atynt yn y Dempled Cynllun Cyflenwi hwn gan yr ystyr a roddir iddynt yn y Canllaw Grant neu Gytundeb Ariannu Grant.

Noder, wrth ateb yr adrannau canlynol, eich bod yn gwneud hynny ar ran eich Ardal Gyflenwi.

Dylid cwblhau’r Cynllun Cyflenwi hwn gan gyfeirio at y dogfennau canlynol:

1. Canllawiau Cynllun Cyflenwi Cysylltu â Gwaith

2. Canllawiau Grant Cysylltu â Gwaith

3. Pob Nodiadau Technegol perthnasol (gweler Nodyn Technegol: Cyffredinol, am amserlen o Nodiadau Technegol y dyfodol)

4. Cofrestr Costau Cysylltu â Gwaith

Adran 1 – Gwybodaeth gyswllt

Mae’r wybodaeth ganlynol i helpu i gefnogi cyfathrebu yn ystod y broses Cynllun Cyflenwi.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
1.0. Enw a chyfeiriad y Corff Atebol ar gyfer eich Ardal Gyflenwi: [Rhowch ymateb yma]
1.1. Rhowch y manylion canlynol ar gyfer y Corff Atebol: [Rhowch ymateb yma]
Enw Pwynt Cyswllt Unigol: [Rhowch ymateb yma]
E-bost Pwynt Cyswllt Unigol: [Rhowch ymateb yma]
Ffôn Pwynt Cyswllt Unigol: [Rhowch ymateb yma]
Rôl Pwynt Cyswllt Unigol: [Rhowch ymateb yma]

Adran 2 – Cyflenwi Cysylltu â Gwaith

Yn yr adran hon, rhowch eich ymateb i sut y byddwch yn darparu’ch gwasanaeth, gyda phwy y byddwch yn gweithio i’w ddarparu a’i integreiddio, a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych weithlu â chymwysterau addas (naill ai yn fewnol neu drwy gomisiynu) mewn lle, i gyflenwi’r model Cyflogaeth â Chymorth.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
2.0. Wrth ddarparu Cysylltu â Gwaith, nodwch pa ddull cyflenwi rydych yn bwriadu ei ddefnyddio ar draws eich Ardal Gyflenwi (dewiswch un opsiwn yn unig) 1. Yn fewnol – – 2. Wedi’i Gomisiynu – – 3. Cymysg (yn fewnol ac wedi’i gomisiynu)
2.1. Pan nodir dull cyflenwi cymysg, rhowch fanylion am gyfran a natur sut y bydd y model yn cael ei rannu. A yw hyn yn ôl ddarpariaeth (IPS a SEQF)? A yw’n dibynnu ar leoliad daearyddol? A yw yn ôl grŵp cyfranogwyr? ac ati [Rhowch ymateb yma]
2.2. Rhowch fanylion am eich cynllun lefel uchel ar gyfer cyflenwi sy’n manylu y cerrig milltir allweddol a’r amseroedd dangosol ar gyfer gweithgareddau gweithredu. Gallai’r rhain gynnwys: – – Y dyddiad y bydd eich tîm yn ei le i ddechrau cyflwyno’r rhaglen – – Y dyddiad y byddwch yn barod i ddechrau derbyn ‘Datganiadau o ddiddordeb’ – – Eich amserlen disgwyliedig ar gyfer cynyddu a’r niferoedd o ddechreuwyr cysylltiedig – – Y dyddiad y bwriadwch fod yn gwbl weithredol – –Atodwch gopi o’ch cynllun prosiect drafft, sy’n dangos eich cerrig milltir a’ch llinell amser allweddol. [Rhowch ymateb yma]

Capasiti a gallu

O fewn yr adran hon, rhowch fanylion am y capasiti a’r gallu i ddarparu Cysylltu â Gwaith ar draws eich Ardal Gyflenwi.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
2.3. Disgrifiwch y capasiti a’r gallu i ddarparu Cysylltu â Gwaith ar draws eich Ardal Gyflenwi. – Dylech gynnwys yr heriau capasiti a gallu allweddol sydd gennych a pha gymorth pellach y gallech fod ei angen i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Tynnwch sylw at unrhyw heriau ar draws eich Ardal Gyflenwi gyfan. [Rhowch ymateb yma]
2.4. Rhowch fanylion am sut y bydd eich prosiect yn cael ei weinyddu. Lle bo’n bosibl, disgrifiwch y swyddi unigol o fewn y tîm(au) a fydd yn cyflenwi’r prosiect: Sut mae’r tîm wedi’i sefydlu i reoli’r prosiect? – – Pa adnoddau, arbenigedd, sgiliau, cyfrifoldebau a phrofiad sydd ganddynt? – – A fydd staff presennol yn cael eu cyflogi, neu a fydd staff newydd yn cael eu recriwtio (os cânt eu recriwtio, sut a phryd)? – – Os ydych wedi nodi y bydd rhywfaint, neu y cyfan o’ch cyflenwi yn cael ei wneud yn fewnol, rhowch y manylion canlynol hefyd: – – Rolau a chyfrifoldebau staff, gan gynnwys niferoedd. – – Cynlluniau recriwtio a llinellau amser, gan gynnwys unrhyw sgiliau a gwybodaeth benodol sydd eu hangen ar gyfer y rolau hynny. – – Cyfeiriwch at deitlau swyddi yn hytrach nag enwau gwirioneddol unigolion. [Rhowch ymateb yma]

Cyflenwi wedi’i gomisiynu

Lle rydych wedi nodi y bydd rhywfaint neu’r cyfan o’ch darpariaeth Cysylltu â Gwaith yn cael ei gomisiynu, rhowch y canlynol:

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
2.5. Crynodeb o’r broses gaffael (gan gynnwys llinell amser) a ddilynir i nodi a phenodi Partneriaid Cyflenwi, gan gynnwys sut y bydd y broses yn sicrhau bod y canlynol yn cael eu bodloni: Gofynion y Canllaw Grant – – Amodau’r Cytundeb Ariannu Grant – – Cefnogaeth i’r holl Gyfranogwyr cymwys ac addas – – Sylw llawn ar draws eich Ardal Gyflenwi [Rhowch ymateb yma]
2.6. Os ydych yn bwriadu penodi asiant rheoli i oruchwylio gweithrediad a darpariaeth Cysylltu â Gwaith, rhowch fanylion isod, gan gynnwys eich rhesymeg dros y penderfyniad hwn. [Rhowch ymateb yma]
2.7. Rhowch fanylion yr asesiad o’r farchnad ar strategaeth ymgysylltu ar gyfer eich gweithgaredd comisiynu. [Rhowch ymateb yma]
2.8. A oes unrhyw Bartneriaid Cyflenwi sydd eisoes wedi’u nodi neu eu comisiynu? Rhowch fanylion am sut y cawsant eu nodi a’u comisiynu a sut rydych yn bwriadu defnyddio contractau presennol, os yw’n berthnasol. [Rhowch ddata

Adran 3 – Dylunio Cysylltu â Gwaith

Egwyddorion dylunio

Byddwch yn gweld o’r Canllawiau Grant y pwysigrwydd o gadw at egwyddorion a 5 cam y model Cyflogaeth â Chymorth ar gyfer IPS a SEQF. Mae’r adran hon i ddeall sut y byddwch yn dylunio eich rhaglen gyffredinol yn unol â’r egwyddorion hyn.

Egwyddorion Ymateb
3.0. Rhowch ddisgrifiad clir o’ch cynnig Cysylltu â Gwaith arfaethedig a sut mae hyn yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Canllawiau Grant. [Rhowch ymateb yma]
3.1. Rhowch fanylion am sut rydych yn bwriadu sicrhau bod y cymorth a ddarperir i Gyfranogwyr Cysylltu â Gwaith, yn cadw at egwyddorion sylfaenol Cyflogaeth â Chymorth, Lleoliad a Chymorth Unigol (IPS) a’r Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth (SEQF). Dylai hyn gynnwys: – –cefnogi pobl i gyflogaeth gystadleuol yn y farchnad lafur agored. – – sicrhau bod Cyfranogwyr yn derbyn tâl cymesur am waith a wneir. – – darparu cefnogaeth briodol drwy bob cam o’r broses bum cam. – – (Gweler Nodyn Technegol – Model Cyflenwi Cyflogaeth â Chymorth am fwy o wybodaeth) [Rhowch ymateb yma]
3.2. Rhowch fanylion ar sut y byddwch yn ymgysylltu â chyflogwyr lleol, i’w cefnogi i ddatblygu arferion cyflogaeth mwy cynhwysol, gan sicrhau bod eu swyddi’n hygyrch i Gyfranogwyr Cysylltu â Gwaith a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gynnal y rolau hynny. [Rhowch ymateb yma]

Nodi Cyfranogwyr

Mae nodi nifer briodol o gyfranogwyr cymwys ac addas yn elfen bwysig o Cysylltu â Gwaith, gyda’r rhaglen yn cael ei thargedu at y bobl iawn, ar yr adeg gywir ac yn seiliedig ar amgylchiadau unigol. Bydd y Tîm Cysylltu â Gwaith yn cael ei hyrwyddo a’i farchnata i ddinasyddion er mwyn helpu i nodi cyfranogwyr posibl cymwys/addas yn eich Ardal Gyflenwi.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
3.3. Rhowch fanylion am sut y byddwch yn creu diddordeb, gan gynnwys marchnata Cysylltu â Gwaith i gwrdd â’ch niferoedd proffil disgwyliedig? [Rhowch ymateb yma]
3.4. O ba sianeli cyflwyno fyddech chi’n disgwyl i ‘Datganiadau o Ddiddordeb’ ddod a sut ydych chi’n disgwyl monitro a rheoli’r llwybrau hyn yn weithredol i sicrhau eu bod yn parhau’n effeithiol drwy gydol cyfnod y grant? [Rhowch ymateb yma]
3.5. Os ydych yn bwriadu blaenoriaethu grwpiau penodol o bobl, disgrifiwch eich rhesymeg a disgrifiwch sut y byddwch yn gwneud hynny o fewn y Meini Prawf Cymhwysedd ac Addasrwydd y cytunwyd arnynt. [Rhowch ymateb yma]

Taith gyfranogwr

Mae’r adran hon i amlinellu sut y byddwch yn cefnogi ac yn rheoli cyfranogwyr drwy’r broses Cysylltu â Gwaith.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
3.6. Rhowch fanylion ar sut y byddwch yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer pob cyfranogwr, fel y disgrifir yn y Canllawiau Grant? [Rhowch ymateb yma]
3.7. Sut y byddwch yn diogelu Cyfranogwyr, gan gynnwys y rhai sy’n destun i drefniadau Asiantaeth Diogelu’r Cyhoedd Amlasiantaethol (MAPPA) ac yn ymgorffori dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i mewn i ddyluniad a gweithrediad eich gwasanaeth e.e. drwy ddadansoddi effaith cydraddoldeb parhaus priodol? [Rhowch ymateb yma]

Amcangyfrif o gostau a niferoedd

Cwblhewch bob rhan o’r Gofrestr Cost Grant (GCR), sydd wedi’i darparu ar wahân. Mae’r GCR yn declyn cyfrifo gwasanaeth rydym yn gofyn i Gyrff Atebol ei ddefnyddio wrth gynllunio a chostio eu darpariaeth Cyflogaeth â Chymorth. Mae canllawiau ar gwblhau’r GCR wedi’u cynnwys yn y model. Mae DWP Commercial Finance hefyd ar gael i ddarparu cymorth cyffredinol wrth ei gwblhau lle y gofynnir amdano. – – Mae’r DWP yn cydnabod y gall costau newid yn ystod gweithrediad rhaglen a gellir trafod unrhyw newidiadau fel rhan o’r adolygiad blynyddol.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
3.8. Mewnosodwch y Gofrestr Cost Grant wedi’i chwblhau [Rhowch ymateb yma]

Risg

Mae dealltwriaeth o’ch risgiau sy’n gysylltiedig â darparu Cysylltu â Gwaith a’r angen am gael systemau effeithiol ar waith i’w rheoli, yn bwysig er mwyn galluogi darparu Cysylltu â Gwaith, o’i weithredu i redeg yn fyw.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
3.9. Disgrifiwch y risgiau a’r mesurau lliniaru allweddol, gan gynnwys gweithredol, masnachol ac ariannol, a allai effeithio ar ddarparu Cysylltu â Gwaith. [Rhowch ymateb yma]
3.10. Rhowch fanylion am eich dull o ymdrin â risgiau twyll a allai effeithio ar eich darpariaeth a sut y gallech liniaru’r rhain. [Rhowch ymateb yma]

Adran 4 - Llywodraethu

Amlinelliad o ddull llywodraethu a phrofiad

O fewn yr adran hon, rhowch fanylion y trefniadau llywodraethu ar gyfer Cysylltu â Gwaith ar draws eich Ardal Gyflenwi.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
4.0. Crynhowch y strwythur llywodraethu a fydd gennych ar waith ar draws eich Ardal Gyflenwi, gan gynnwys sut mae unrhyw baneli ymgynghorol neu grwpiau partneriaeth cysylltiedig yn cael eu ffurfio. Nodwch a yw’r rhain yn strwythurau sy’n bodoli eisoes, strwythurau newydd, neu a yw trefniadau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith dros dro. Esboniwch sut y bydd y trefniadau hyn yn cael eu cynnal drwy gydol oes y rhaglen. Dylech hefyd gynnwys manylion unrhyw heriau rydych chi’n eu rhagweld mewn perthynas â llywodraethu Cysylltu â Gwaith ac unrhyw gymorth y gallech fod ei angen i ddatblygu eich strwythurau llywodraethu. [Rhowch ymateb yma]
4.1. Os nad yw’r strwythurau llywodraethu arfaethedig ar waith eto, nodwch pryd mae’r rhain yn debygol o ddechrau. [Rhowch ymateb yma]
4.2. Pa reolaethau a mecanweithiau sicrwydd y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod yr holl wariant a wynebir wrth ddarparu Cysylltu â Gwaith yn gywir, yn ddilys, ac yn rhesymol? [Rhowch ymateb yma]
4.3. Pa reolaethau a mecanweithiau sicrwydd y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod ansawdd cyflenwi Cysylltu â Gwaith, o’r safon ofynnol a pha mor aml y caiff hyn ei adolygu? [Rhowch ymateb yma]
4.4. Sut y byddwch yn dangos gwelliant parhaus i ansawdd eich gwasanaethau, yn diogelu safonau gofal uchel ac yn creu amgylchedd lle bydd rhagoriaeth yn ffynnu? [Rhowch ymateb yma]

Adran 5 - Gofynion adrodd Gwybodaeth Rheoli a Pherfformiad (MI)

Bydd cyfres gytunedig o MI yn hanfodol er mwyn rhedeg Cysylltu â Gwaith yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys MI a rennir a fydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro a rheoli’r Grant, gan gynnwys y mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt.

Bydd MI/data a gesglir hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ffynhonnell o dystiolaeth ar gyfer monitro a gwerthuso’r rhaglen, a hefyd i alluogi gweithgareddau gwerthuso ehangach megis samplu ar gyfer ymchwil a dadansoddi effaith.

Sylwer ein bod yn yr adran hon yn cyfeirio at gasglu data/Gwybodaeth Rheoli a sicrhau ansawdd ar draws eich Ardal Gyflenwi.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
5.0. Sut fyddwch chi’n rheoli perfformiad o fewn y Corff Atebol, er mwyn cyflenwi’r lefelau a nodir yn eich Cynllun Cyflenwi, gan gynnwys y mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt? [Rhowch ymateb yma]
5.1. Sut fyddwch chi’n rheoli’r casgliad cywir ac amserol o Wybodaeth Rheoli, gan gynnwys yr amserlenni y cytunwyd arnynt yn y Canllawiau Grant (a’r Nodyn Technegol: Cyffredinol). [Rhowch ymateb yma]

Adran 6 – Datblygu cynnig cymorth integredig sy’n gweddu’n strategol i flaenoriaethau lleol

Fel y nodir yn y Canllawiau Grant, elfen allweddol o’r modelau Cyflogaeth â Chymorth yw bod gwasanaethau wedi’u gwreiddio’n dda gyda chefnogaeth leol arall i’r grwpiau targed a systemau’r farchnad lafur leol. Y cyllid fydd y cyfraniad cyntaf i’ch galluogi i roi (dros amser) gynnig ehangach i fynd i’r afael ag anweithgarwch, drwy gysylltu gwaith, cymorth iechyd a sgiliau ehangach ac, yn ei dro, cefnogi strategaeth Cael Prydain i Weithio y Llywodraeth, dod â diwygiadau sylfaenol a thrawsnewid ein perthynas ag ardaloedd lleol. Nodwch eich dull arfaethedig o adeiladu partneriaethau ac integreiddio ar draws yr holl wasanaethau a rhanddeiliaid lleol priodol.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
6.0. Nodwch fanylion eich dealltwriaeth bresennol o sut mae integreiddio â gwasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, yn cael ei ddarparu i sicrhau cefnogaeth gyfannol i unigolion. Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol, gan gynnwys camau i ysgogi mwy o gydlyniad lleol rhwng cyflogaeth, iechyd, a gwasanaethau ehangach yn y gymuned ar gyfer y grwpiau targed, ac yn ei dro sut ydych chi’n rhagweld y bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd eich darpariaeth gyflogaeth â chymorth? [Rhowch ymateb yma]
6.1. Rhowch fanylion am eich perthynas bresennol â phartneriaid allweddol a sut y byddwch yn meithrin a datblygu perthnasoedd â’r partneriaid hyn wrth ddarparu Cyflogaeth â Chymorth a ariennir gan y Grant hwn, gan ystyried partneriaid ar gyfer cynigion cymorth integredig yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys partneriaid iechyd, y Ganolfan Byd Gwaith, y sector gwirfoddol, a gwasanaethau lleol perthnasol eraill. [Rhowch ymateb yma]
6.2. Rhowch fanylion am sut y byddwch yn cynnal perthynas â phartneriaid allweddol, ar draws daearyddiaeth a sbectrwm llawn y gwasanaethau, er mwyn sicrhau cyswllt rheolaidd ac aml drwy gydol y broses o gyflenwi’r rhaglen. [Rhowch ymateb yma]
6.3. Rhowch fanylion am sut y bydd y ddarpariaeth Cyflogaeth â Chymorth yma yn cyd-fynd yn strategol o fewn eich blaenoriaethau lleol a’ch cynlluniau cyffredinol i fynd i’r afael ag anweithgarwch – gan adeiladu tuag at eich cynllunio gwaith, iechyd a sgiliau. Rhowch wybodaeth am sut y bydd y Gyflogaeth â Chymorth a ariennir gan y Grant hwn yn ymuno â darpariaeth leol yn eich ardal ac yn darparu ychwanegiad atodol iddi, gan gynnwys Cyflogaeth â Chymorth sy’n bodoli eisoes neu gymorth arall a ariennir gan UKSPF, WorkWell, a’r Gyllideb Addysg i Oedolion. [Rhowch ymateb yma]
6.4. Dywedwch wrthym am unrhyw heriau y gallech eu hwynebu wrth ddatblygu partneriaethau a dull integredig o ysgogi’r Gyflogaeth â Chymorth hon a’ch dull o reoli’r heriau hynny. Disgrifiwch beth, os o gwbl, yw’r gefnogaeth y gallech fod ei hangen gan y DWP yn y broses hon. [Rhowch ymateb yma]

Adran 7 - Diogelu data Cyfranogwr

Mae’n bwysig bod data personol yn cael ei gasglu, ei storio, a’i ddefnyddio’n briodol ac yn ddiogel bob amser yn unol â gofynion cyfreithiol a statudol. Mae’n ofynnol i’r Corff Atebol a’u Partneriaid Cyflenwi fodloni safonau sefydledig ar gyfer diogelwch data, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a deddfwriaeth diogelu data berthnasol arall.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
7.0. Disgrifiwch yn fyr sut rydych chi’n ymgorffori diogelu data trwy ddylunio i gynllunio a chyflwyno Cysylltu â Gwaith. [Rhowch ymateb yma]
7.1. Esboniwch y mecanweithiau rhannu a llywodraethu data o fewn eich Ardal Gyflenwi, i gefnogi’r gwaith o ddarparu a gwerthuso Cysylltu â Gwaith. Gall y gwaith hwn fod ar waith ar hyn o bryd, ond ymhelaethwch cyn belled ag y gallwch ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn. [Rhowch ymateb yma]
7.2. Fel y Corff Atebol ar gyfer eich Ardal Gyflenwi, eich rôl chi fydd sicrhau bod y Cytundebau Rhannu Data (Cytundebau) gofynnol ar waith gyda (a lle bo angen, rhwng) Phartneriaid Cyflenwi, fel y gellir rhannu data at ddibenion cyflenwi a gwerthuso, gan gynnwys rhannu data gyda’r DWP. Dylech gynghori lle mae Cytundebau eisoes ar waith neu, lle nad ydynt wedi cael eu cytuno arnynt eto, amlinellwch pa gynlluniau sydd ar waith i roi’r rhain mewn lle. [Rhowch ymateb yma]
7.3. Rhowch fanylion y gweithdrefnau a’r systemau rydych chi’n bwriadu eu defnyddio, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth Cyfranogwr yn cael ei storio’n ddiogel bob amser. [Rhowch ymateb yma]

Adran 8 - Rheoli cymhorthdaliadau

Mae’r cwestiynau canlynol yn ymwneud â rheoli cymhorthdaliadau. Ni fwriedir i Gysylltu â Gwaith fod yn gymhorthdal (fel y’i diffinnir yn Neddf Rheoli Cymhorthdaliadau 2022) ac felly mae’r DWP angen sicrwydd gan y Corff Atebol a’i Aelodau Ychwanegol Ardal Gyflenwi na fydd y Grant yn gyfystyr â “chymorth ariannol sy’n rhoi mantais economaidd i un neu fwy o fentrau”.

Rhowch fanylion a rhowch ymatebion i’r DWP i’r cwestiynau a nodir isod ynghyd â digon o dystiolaeth (os yw’n briodol) i gadarnhau’r ymatebion a roddwyd, er mwyn rhoi sicrwydd i’r DWP nad yw’r Corff Atebol a phob Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau economaidd lleiaf neu dim ond ychydig iawn o weithgareddau economaidd gan y Corff Atebol a phob Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol); neu b) bydd unrhyw ariannu y gellir eu rhoi o dan Cysylltu â Gwaith yn cael ei neilltuo’n ddigonol gan unrhyw weithgareddau economaidd y mae’r Corff Atebol a phob Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol yn eu cyflenwi.

Mae “gweithgaredd economaidd” at y dibenion hyn yn golygu cynnig nwyddau neu wasanaethau ar farchnad.

Darllenwch fwy o fanylion ar reoli cymhorthdaliadau, gweithgareddau economaidd a chlustnodi.

Rhowch ymatebion mewn perthynas â’r Corff Atebol, a phob Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol.

Mae DWP yn cadw’r hawl i godi cwestiynau pellach os bydd angen i sefydlu a allai unrhyw gyllid fod yn gymhorthdal ai peidio, ac yn y pen draw yn penderfynu peidio â dyfarnu’r Grant Cysylltu â Gwaith i’r Corff Atebol.

Gwybodaeth sydd ei hangen Ymateb
8.0. A yw’r Corff Atebol neu unrhyw Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau economaidd? – – DS. er mwyn osgoi amheuaeth, rydym yn ystyried darpariaeth ‘fewnol’ (h.y. ar gyfer eu hunain ac nid yn fasnachol o ran pwrpas) gan Gyrff Atebol neu Aelodau Ychwanegol Ardal Gyflenwi yn ‘weithgareddau economaidd’ gan nad yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig ar farchnad (yn unol â’r diffiniad uchod) ac nid ydynt yn gweithredu at ddiben masnachol. Ydy/Na
8.1. Os yw’r Corff Atebol neu unrhyw Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd economaidd, pa gyfran o allu’r Corff Atebol neu’r Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol sy’n gwneud y gweithgareddau economaidd? [Rhowch ymateb yma]
8.2. Rhowch ddisgrifiad o weithgareddau economaidd y Corff Atebol neu’r Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol a sut maent yn berthnasol i weithgareddau y bwriedir eu hariannu o dan y Grant Cysylltu â Gwaith (gan gynnwys unrhyw feysydd o orgyffwrdd). [Rhowch ymateb yma]
8.3. Pa fesurau, os o gwbl, y bydd y Corff Atebol neu’r Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol yn eu gweithredu er mwyn clustnodi cyllid y Grant Cysylltu â Gwaith gan weithgareddau economaidd y Corff Atebol neu’r Aelod Ardal Gyflenwi Ychwanegol? [Rhowch ymateb yma]

Adran 9 - Datganiad Corff Atebol

Trwy gyflwyno’r Cynllun Cyflenwi hwn wedi’i lofnodi gan gynrychiolydd awdurdodedig, mae’r Corff Atebol yn cadarnhau:

  • bod y wybodaeth a nodir yn y Cynllun Cyflenwi yn gywir ac yn wir.
  • y Corff Atebol yw’r prif awdurdod lleol sy’n gwneud cais am y Grant Cysylltu â Gwaith ar ran yr Ardal Gyflenwi. O’r herwydd, mae’r Corff Atebol yn cadarnhau ei fod wedi’i rymuso’n briodol gan Aelodau Ardal Cyflenwi Ychwanegol sydd wedi’u hawdurdodi’n gyfreithiol i ddarparu’r gwasanaeth Cysylltu â Gwaith a gynigir yn y Cynllun Cyflenwi. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth briodol o’r mecanweithiau sydd ar gael iddynt i ddarparu’r gwasanaeth Cysylltu â Gwaith.
  • bydd yn rhoi ei drefniadau ei hun ar waith ar draws yr Ardal Gyflenwi.
  • mae wedi ymrwymo i gwblhau a chasglu MI fel rhan o ddarparu gwasanaeth Cysylltu â Gwaith (gweler adran 8.0 o’r Canllawiau Grant am ragor o fanylion).
  • mae wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn rhwydwaith rhanbarthol/cenedlaethol i rannu arfer da rhwng cyrff atebol eraill sy’n darparu Cysylltu â Gwaith.
  • mae wedi ymrwymo i ddarparu Cysylltu â Gwaith yn unol â’r Cytundeb Ariannu Grant terfynol rhwng y DWP a’r Corff Atebol.

Llofnod:

Enw a chyfeiriad cynrychiolydd awdurdodedig:

Dyddiad:

Ar gyfer ac ar ran y Corff Atebol.