Cysylltu â Gwaith
Mae hon yn rhaglen waith yng Nghymru a Lloegr i helpu pobl anabl, y rhai â chyflyrau iechyd a phobl sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth, i ddod o hyd i waith cynaliadwy.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Am Cysylltu â Gwaith
Cysylltu â Gwaith yw’r rhaglen gyntaf o dan Strategaeth newydd y Llywodraeth ar gyfer Cael Prydain i weithio.
Bydd Cysylltu â Gwaith yn rhaglen wirfoddol, uchelgeisiol a fydd yn cysylltu cymorth gwaith, iechyd a sgiliau ar draws Cymru a Lloegr. Bydd yn cael ei gyflenwi trwy grantiau ar draws 43 clwstwr o Awdurdodau Lleol yn Lloegr a phedwar clwstwr yng Nghymru. Yn ogystal, bydd cyllid Cysylltu â Gwaith ar gyfer lleoedd cyflogaeth â chymorth yn Awdurdodau Cyfunol Manceinion Fwyaf a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn cael ei gynnwys yn y Setliad Integredig newydd rhwng 2025 a 2026.
Bydd Awdurdodau Lleol Arweiniol (Cyrff Atebol ar gyfer y rhaglen) yn arwain dyluniad eu cynnig lleol, wedi’i lunio o amgylch gwasanaethau a blaenoriaethau lleol, i helpu pobl i ddarganfod a chyflawni eu potensial i weithio.
Bydd Cysylltu â Gwaith yn cefnogi’r rheini, yn bennaf, sydd y tu allan i’r gweithlu ar hyn o bryd ac yn wynebu mwy o anfanteision yn y farchnad lafur, i fynd i mewn i waith ac i aros mewn gwaith.
Yn 2026 i 2027, ledled Cymru a Lloegr, bydd cyllid Cysylltu â Gwaith yn cefnogi tua 100,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’r rhai sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth i’w helpu i fynd i mewn i a datblygu mewn gwaith.
Canllawiau Grant
Mae’r Canllawiau Grant hwn yn darparu gwybodaeth bolisi a chyflenwi manwl i gefnogi Cyrff Atebol Cysylltu â Gwaith (gan weithio gyda phartneriaid lleol a’r Adran Gwaith a Phensiynau) i ddatblygu eu cynigion Cysylltu â Gwaith lleol eu hunain, mewn cytundeb â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae canllawiau grant ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r wybodaeth hefyd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i bartneriaid lleol allweddol megis awdurdodau lleol Haen Uchaf ac Unedol eraill yn yr Ardal Gyflenwi, cyrff iechyd strategol, darparwyr Cyflogaeth â Chymorth, cyflogwyr a chyrff sy’n cynrychioli busnesau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Ionawr 2025 + show all updates
-
Added Welsh versions of 'Connect to Work' guidance.
-
First published.