Cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau
Diweddarwyd 28 Mai 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru hawddfreintiau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol i’r gyfraith ar hawddfreintiau.
Mae gofynion ychwanegol gennym os yw hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn. Amlinellir y rhain yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.
Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
2. Hawddfreintiau a chofrestru: pwyntiau cyffredinol
2.1 Hawddfreintiau fel gwarediadau cofrestradwy
Rhaid cwblhau rhoi neu neilltuo penodol hawddfraint am fudd cyfatebol i ystad mewn ffi syml absoliwt mewn meddiant neu dymor o flynyddoedd absoliwt dros dir cofrestredig trwy gofrestriad (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn geiriau eraill, gwarediad cofrestradwy yw. Nid yw’n llai o warediad cofrestradwy os digwydd iddo gael ei chynnwys mewn prydles, hyd yn oed os na ellir cofrestru neu nodi’r brydles. Oherwydd ei fod yn warediad cofrestradwy, nid fydd rhoi neu neilltuo’r hawddfraint yn weithredol yn y gyfraith nes y bodlonir y gofynion cofrestru (adran 27(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Amlinellir y gofynion cofrestru ym mharagraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhaid cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac, os yw’r tir trech yn gofrestredig hefyd, rhaid cofnodi’r budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.
Rhaid ichi gyflwyno cais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 lle y mae’r tir buddiol a’r tir caeth yn gofrestredig. Lle bo’r tir buddiol yn ddigofrestredig gallwch wneud cais i gofrestru’r hawddfraint gan ddefnyddio naill ai ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 i fodloni’r gofynion (rheol 90 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Lle bo’r tir buddiol a’r tir caeth yn gofrestredig, os ydych yn defnyddio ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 i wneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, ac os ydym yn cwblhau’r cais, ni fydd hyn yn bodloni’r gofynion cofrestru. Os ydych wedyn yn gwneud cais i gofrestru’r hawddfraint ar ffurflen AP1, byddwn yn cofnodi rhybudd ychwanegol gyda blaenoriaeth y cais diweddarach. Gan fod y rhybudd unochrog neu’r rhybudd a gytunwyd yn gwarchod i ryw raddau a gall cwestiynau ynghylch blaenoriaeth godi, ni ddilëir y cofnod sy’n bodoli heb gais penodol i wneud hyn ar ffurflen UN2, ffurflen UN4 neu ffurflen CN1 fel y bo’n briodol.
Lle bodlonwyd y gofynion cofrestru a lle bo’r hawddfraint am gydnabyddiaeth â gwerth, effaith adran 29(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yw bod gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros unrhyw fuddion a grëwyd cyn ei rhoi nad ydynt yn cael eu gwarchod ar adeg cofrestru’r hawddfraint. Ni warchodir budd oni bai ei fod yn arwystl cofrestredig, yn destun rhybudd neu fudd gor-redol neu, yn achos gwarediad ystad brydlesol, os yw baich y budd yn nodwedd yr ystad.
Er enghraifft, mae perchennog cofrestredig yn rhoi arwystl cyfreithiol ac, ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, mae’n rhoi hawddfraint am gydnabyddiaeth â gwerth. Os nad oedd yr arwystl yn cael ei warchod ar adeg cofrestru’r hawddfraint (ac nid oedd ganddo fudd cyfnod o flaenoriaeth o dan chwiliad), yna byddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl. I’r gwrthwyneb, pe na fodlonwyd gofynion cofrestru’r hawddfraint (er enghraifft rhybudd a gytunwyd yn unig a gofnodwyd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth), ni fyddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl (byddai adran 28 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol, hynny yw byddai blaenoriaeth gan yr un cynharaf).
2.2 Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad
Os oes angen cadarnhau a yw hawddfraint wedi cael ei gwblhau trwy gofrestriad, rydym yn awgrymu eich bod yn bwrw ymlaen fel a ganlyn.
Yn gyntaf, edrychwch ar y rhybudd a gofnodwyd o ran baich yr hawddfraint. Os mai’r unig gofnod sydd wedi ei wneud yw rhybudd unochrog, nid yw’r rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.
Os nad yw’n rhybudd unochrog, edrychwch ar y gofrestr ar gyfer y tir trech os yw’n gofrestredig. Bydd hyn yn nodi a yw’r hawddfraint yn cael ei gynnwys yn y teitl cofrestredig. Os nad yw, nid yw’r rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.
Os nad yw’r rhybudd yn rhybudd unochrog ond mae’r tir trech yn ddigofrestredig (a fydd yn wir lle y mae gan brydles fudd hawddfraint ond ei bod yn brydles na ellir ei chofrestru), ar 6 Ebrill 2018 ac ar ôl hynny bydd yr hawddfraint wedi bodloni’r gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 os cofnodwyd rhybudd mewn perthynas â hi yng nghofrestr y teitl caeth. Cyn 6 Ebrill 2018, byddai’r hawddfraint wedi bodloni’r gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar yr amod bod y cais wedi ei wneud ar Ffurflen AP1. Gallwch wneud cais am gopi o’r ffurflen gais a arweiniodd at y cofnod. Gellir gwneud cais ar ffurflen OC2. Pe bai’r cais a arweiniodd at y cofnod ar ffurflen AN1, mae’r rhybudd yn rhybudd a gytunwyd ac nid yw’r rhoi neu’r neilltuad wedi ei gwblhau trwy gofrestru.
2.3 Ein harfer flaenorol
Ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Ebrill 2005 ac 1 Medi, 2015, ein harfer ar gofnodi rhybudd a gytunwyd mewn perthynas â hawddfraint lle’r oedd y rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy oedd ychwanegu nodyn ar y ffurf ganlynol at y cofnod:
“NODYN: Ni chwblhawyd rhoi neu neilltuo hawliau… trwy gofrestriad yn unol ag adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac felly nid yw’n weithredol yn y gyfraith.”
Nid yw’r nodyn hwn yn cael ei ychwanegu mwyach. Mae’n ddiangen gan fod modd cadarnhau a yw’r hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad heb nodyn o’r fath – gweler Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad. Gallai fod yn gamarweiniol hefyd oherwydd gellid ystyried (a hynny’n anghywir) bod absenoldeb nodyn yn warant o ran yr hawddfraint. Mae adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ei gwneud yn glir na all rhybudd fyth weithredu yn y modd hwn gan “nad yw o reidrwydd yn golygu bod y budd yn ddilys”.
2.4 Hawddfreintiau fel buddion gor-redol
Bydd hawddfraint gyfreithiol yn gweithredu fel budd gor-redol:
- ar gofrestriad cyntaf: paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- ar gofrestriad gwarediad cofrestredig os naill ai (i) y byddai wedi bod yn amlwg ar archwiliad rhesymol ofalus o’r tir neu pe bai’n hysbys i’r person y gwnaed y gwarediad iddo, neu (ii) ei fod wedi ei arfer o fewn y flwyddyn cyn y gwarediad: paragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. (Fodd bynnag, bydd hawddfraint a oedd yn fudd gor-redol mewn perthynas ag ystad gofrestredig ar 12 Hydref 2003 yn parhau i weithredu fel budd gor-redol; nid oes yn rhaid iddo fodloni un o’r gofynion hyn: paragraff 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.)
Mae’r gofyniad i’r hawddfraint fod yn hawddfraint gyfreithiol yn golygu na all hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd yn benodol ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 dros dir cofrestredig fod yn fuddion gor-redol. Hyd nes i’r rhoi neu neilltuo gael ei gwblhau trwy gofrestriad, ecwitïol yn unig yw’r hawddfraint; unwaith y bydd y rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad, mae’r hawddfraint yn gyfreithiol ond yna nid yw’n gymwys i fod yn fudd gor-redol am nad yw bellach yn fudd digofrestredig.
Cyflwynodd Deddf Cofrestru Tir 2002 ddyletswydd i ddadlennu buddion gor-redol penodol y mae’r ceisydd yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys hawddfreintiau. Mae rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol a’u dadlennu ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu.
2.5 Ffurf y cofnod a wneir ar gofrestriad perchennog hawddfraint gyfreithiol
Mae Adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn datgan bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer, ymhlith pethau eraill, cofrestriad cyntaf teitl i hawddfreintiau cyfreithiol, a rhoi neu neilltuo o dir cofrestredig hawddfreintiau sy’n gallu bodoli yn ôl y gyfraith. Mae manylion hawddfreintiau o’r fath yn cael eu cofnodi yng nghofrestr eiddo’r ystad gofrestredig sydd â budd: rheol 5 (b) (ii) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Fel arfer, mae’r cofnod yn cyfeirio at y teitl yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddir gan weithred benodol. Gynt, efallai y byddai’r cofnod wedi cyfeirio at “yr hawliau” yn hytrach nag at “unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol”. Fodd bynnag, nid yw’r newid hwn yn ffurf arferol y cofnod wedi ei fwriadu i newid yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y cofrestriad, ac nid yw’n gwneud hynny. Hyd yn oed lle y mae’r cofnod yn cyfeirio at “yr hawliau”, ni fydd y cofrestriad yn cynnwys unrhyw rai sy’n gallu bod yn hawddfreintiau ecwitïol yn unig (efallai oherwydd eu hyd neu ddull eu creu) neu nad ydynt fel arall yn hawliau perchnogol sy’n gallu bodoli yn ôl y gyfraith (megis trwydded neu hawl i olygfa). Rydym yn cyfeirio at “unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol” yn hytrach na “yr hawddfreintiau cyfreithiol” oherwydd efallai gallai’r olaf awgrymu bod yr holl hawliau a roddir gan y trosglwyddiad ac sy’n effeithio ar y tir a gedwir neu ar dir arall yn hawddfreintiau cyfreithiol; gallai hyn fod yn wir, ond nid o reidrwydd felly. Gweler hefyd Budd hawddfreintiau ecwitïol.
2.6 Gofynion ar gyfer cyflwyno cynlluniau
Fel arfer, bydd angen i weithredoedd gynnwys cynllun sy’n dangos y tir trech a’r tir caeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 2: paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Rhaid i’r grantwr lofnodi pob cynllun yn unol â rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
3. Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar ddwy fath o sefyllfa. Yn gyntaf, lle bo perchennog tir (a allai fod yn gofrestredig neu’n ddigofrestredig) yn trosglwyddo rhan o’r tir a’r trosglwyddiad yn cynnwys hawddfraint sy’n effeithio ar y tir a gedwir neu sy’n fuddiol iddo. Yn ail, lle bo gweithred grant annibynnol.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
3.1 Mae’r tir trech a’r tir caeth yn gofrestredig
Mae rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestru’r hawddfraint ar ffurflen AP1. Rhaid nodi rhifau teitl yr holl deitlau cofrestredig o dan sylw (caeth a threch) ym mhanel 2. Dylai’r cais gynnwys:
- copi ardystiedig o’r weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw’n briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
- unrhyw gydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau ar y teitl caeth cofrestredig – gweler Profi pŵer y grantwr i wneud y grant
Byddwn yn cofnodi’r budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodloni’r gofynion cofrestru.
Lle bo’r hawddfraint wedi ei chynnwys mewn trosglwyddiad o ran teitl cofrestredig, dim ond cais i gofrestru’r trosglwyddiad sy’n ofynnol; nid oes angen cais penodol o ran yr hawddfreintiau. Byddwn yn gwneud y cofnodion angenrheidiol yn awtomatig, rheol 72(4) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, rhaid cofnodi’r rhifau teitl ym mhanel 2 ffurflen AP1 o hyd.
3.2 Mae’r tir trech yn ddigofrestredig a’r tir caeth yn gofrestredig
Mae’r rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestru’r rhoi neu neilltuo gan ddefnyddio ffurflen AP1 neu ffurflen AN1. Rhaid nodi rhifau teitl y teitlau cofrestredig caeth ym mhanel 2 yn y naill ffurflen neu’r llall. Dylai’r cais gynnwys:
- copi ardystiedig o’r weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw’n briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
- unrhyw gydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau yn y teitl caeth cofrestredig – gweler Profi pŵer y grantwr i wneud y grant.
Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodloni’r gofynion cofrestru.
3.3 Mae’r tir trech yn gofrestredig a’r tir caeth yn ddigofrestredig
Nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy, felly mae’n effeithiol yn y gyfraith ar adeg ei wneud.
Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr dilynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Gellir gwneud cais i gofrestru’r hawddfraint fel ei bod yn perthyn i’r ystad gofrestredig yn y tir trech o dan reol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen AP1. Nodwch rifau teitl y teitlau trech cofrestredig ym mhanel 2.
Dylai’r cais gynnwys:
- copi ardystiedig o’r weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw’n briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
- copïau ardystiedig o ddogfennau teitl i’r tir caeth yn dangos pŵer y grantwr i wneud y grant – gweler Profi pŵer y grantwr i wneud y grant
4. Hawddfreintiau mewn prydlesi
Mae’r adran hon yn trafod yn bennaf sefyllfaoedd sy’n debyg i’r un gyntaf a grybwyllwyd yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant, sy’n golygu pan fydd y teitlau i’r tir caeth a’r tir trech yn gofrestredig neu’n cael eu cofrestru, y gwahaniaeth yw yn lle trosglwyddo rhan o’u tir, mae’r perchennog yn rhoi prydles o ran ohono ac mae’r brydles yn cynnwys hawddfraint sy’n effeithio ar neu’n fuddiol i dir arall sy’n perthyn iddynt.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
4.1 Hawddfreintiau mewn prydlesi cofrestredig
Ystyr ‘prydlesi cofrestredig’ yw:
-
prydlesi tir cofrestredig lle bo rhoi’r brydles yn warediad cofrestradwy ac sydd wedi cael ei chwblhau trwy gofrestriad (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir digofrestredig lle bo rhoi neu aseinio’r brydles wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol a lle cofrestrwyd y teitl (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir cofrestredig lle nad oedd rhoi’r brydles yn warediad cofrestradwy ond lle bo ei haseinio wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol a’r teitl wedi ei gofrestru (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir digofrestredig sydd wedi bod yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol (adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Rhaid gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy (1 uchod) ar ffurflen AP1 a rhaid iddo gynnwys:
- copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol, y mae’n rhaid iddi, os cafodd ei rhoi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, fod yn brydles cymalau penodedig oni bai ei bod yn un o’r eithriadau yn rheol 58(A)(c) neu (d) o Reolau Cofrestru Tir 2003
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw’n briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
- cydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau yn nheitl cofrestredig y grantwr
Rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i brydles (2, 3 a 4 uchod) ar ffurflen FR1 a rhaid iddo gynnwys:
- copi ardystiedig o’r brydles
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw’n briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
- teitl i’r tir caeth sy’n dangos pŵer y grantwr i wneud y grant
4.1.1 Hawddfreintiau a roddir
Ar adeg cofrestru prydles cymalau penodedig, byddwn dim ond yn ystyried unrhyw hawddfreintiau a roddwyd y cyfeirir atynt yng nghymal LR11.1 a gwneud cofnod priodol.
Os na fydd LR11.1 wedi ei llenwi’n gywir, ni wneir cofnod yn y gofrestr brydlesol o ran budd unrhyw hawddfreintiau a roddir gan y brydles. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir y brydles neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles i’w chofrestru.
Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am fanylion pellach ar sut i lenwi’r cymalau penodedig.
Os nad yw’r brydles yn brydles cymalau penodedig, byddwn yn ystyried yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles ac yn gwneud y cofnod priodol yn y gofrestr.
4.1.1.1 Mae’r tir caeth yn gofrestredig
Lle bo’r hawddfraint yn cael ei rhoi dros dir yn nheitl y landlord o’r hyn y mae’r brydles yn cael ei rhoi, caiff rhybudd o’r hawddfreintiau ei chofnodi yn y gofrestr trwy gofnod safonol a wneir yn nheitl y landlord wrth gofrestru’r brydles:
“Mae’r rhannau o’r tir yr effeithir arnynt trwy hyn yn ddarostyngedig i’r prydlesi a nodir yn yr atodlen prydlesi at hyn. Mae’r prydlesi’n rhoi ac yn neilltuo hawddfreintiau fel y cyfeirir atynt ynddi.”
Os rhoddir yr hawddfraint dros dir a gynhwysir o fewn teitlau cofrestredig eraill, rhaid nodi rhifau’r teitl yng:
- nghymal LR2.2 yn achos prydles cymalau penodedig, neu
- panel 2 ffurflen AP1 yn achos pob prydles arall
Bydd y cofnod a wnawn wedyn yng nghofrestr y tir caeth yn gymwys i brydlesi cymalau penodedig a phrydlesi cymalau heb eu pennu, a bydd yn debyg i hyn:
“Mae’r tir yn ddarostyngedig i’r hawddfreintiau a roddwyd gan brydles… a ddyddiwyd… a wnaed rhwng… am gyfnod o…”
Sylwer: Oni bai y gwneir cais yn erbyn pob teitl cofrestredig sy’n cynnwys y tir caeth, ni fydd y cais yn ateb gofynion cofrestru adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu cynnwys budd yr hawddfraint yn y teitl cofrestredig prydlesol.
4.1.1.2 Mae’r tir caeth yn ddigofrestredig
Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr olynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.1.2 Hawddfreintiau wedi eu cadw
Mae’r cofnodion y cyfeirir atynt yn Hawddfreintiau a roddir, a fydd yn ymddangos ym mhob cofrestr brydlesol, yn cyfeirio hefyd at hawddfreintiau a gedwir. Felly cofnodir rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth o ran unrhyw hawddfreintiau a gedwir yn y brydles gofrestredig. Os nad yw’r brydles yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau llesiannol (neu os nad ydym yn eu cofnodi yn y gofrestr oherwydd bod cymal LR11.1 wedi ei lenwi’n anghywir) caiff cofnod ei wneud yn y gofrestr arwystlon o ran yr hawliau a gedwir gan y brydles.
Lle bo’r brydles yn brydles cymalau penodedig, dylid cyfeirio at unrhyw hawddfreintiau a gedwir (neu a roddir er budd tir a berchnogir gan drydydd parti) yn y brydles yng nghymal LR11.2. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cymalau penodedig.
Dim ond os cyfeirir atynt yng nghymal LR11.2 y mae’n rhaid i Gofrestrfa Tir EF ystyried hawddfreintiau wedi eu cadw (neu wedi eu rhoi er budd tir a berchnogir gan drydydd parti). Os nad yw’r cymal hwn yn cael ei gwblhau’n gywir, nid oes rhwymau ar Gofrestrfa Tir EF i wneud cofnod o ran y budd yng nghofrestr y teitl(au) buddiol. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles i’w chofrestru.
4.1.2.1 Mae’r tir trech yn gofrestredig
Os cedwir yr hawddfreintiau er budd tir arall yn y teitl cofrestredig y rhoddir y brydles ohono, cynhwysir yr hawddfraint yn nheitl cofrestredig y landlord trwy gyfrwng cofnod yn y gofrestr ar gyfer y teitl cofrestredig hwnnw y cyfeirir ato yn Mae’r tir caeth yn gofrestredig.
Os cedwir yr hawddfraint er budd tir mewn teitlau cofrestredig eraill, byddwn yn cofnodi budd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitlau hynny ar yr amod:
- yn achos prydles cymalau penodedig, eich bod yn cofnodi rhif teitl y teitlau buddiol yng nghymal LR2.2, neu
- lle na wneir cofnod pan nad yw’r brydles yn brydles cymalau penodedig, eich bod yn gwneud cais ar ffurflen AP1 yn nodi’r rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.
Os na wneir cofnod pan fo’r brydles yn gofrestredig, gellir gwneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint ar ddyddiad hwyrach ar ffurflen AP1 gan nodi’r rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.
4.1.2.1 Mae’r tir trech yn ddigofrestredig
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth. Ar gofrestriad cyntaf y tir trech, bydd yr ystad yn cael ei breinio yn y perchennog ynghyd â’r hawddfraint (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.2 Hawddfreintiau mewn prydlesi digofrestredig
Ystyr ‘prydlesi digofrestredig’ yw prydlesi:
- nad yw eu rhoi yn warediad cofrestradwy
- nad yw eu rhoi neu eu haseinio’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol
- nad ydynt yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol
4.2.1 Hawddfreintiau a roddir
4.2.1.1 Mae’r tir caeth yn gofrestredig
Rhaid gwneud cais i gofrestru rhoi’r hawddfraint ar ffurflen AP1 gan amgáu’r canlynol:
- copi ardystiedig o’r brydles
- ffurflen treth dir y dreth stamp, os yw’n briodol
- unrhyw gydsyniadau angenrheidiol gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfyngiadau lle mae cydsyniad yn ofynnol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau caeth ym mhanel 2. Nodwch ‘cofrestriad yr hawddfreintiau yn y brydles’ ym mhanel 4 ffurflen AP1, neu ‘cofrestru hawddfreintiau yn y brydles’ ym mhanel 8 ffurflen AN1.
Gan fod rhoi’r fath hawddfreintiau yn warediad cofrestradwy mae’r ceisydd yn rhwymedig i ddyletswydd a osodir gan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i ddadlennu buddion gor-redol penodol sy’n effeithio ar yr ystad sy’n gysylltiedig â’r cais. Lle bo’r brydles yn un y gellir ei nodi, megis prydles a roddwyd am fwy na thair blynedd, gallai hyn gynnwys y brydles sy’n cynnwys rhoi’r hawddfraint. O dan yr amgylchiadau hyn dylech hefyd gyflwyno ffurflen DI wedi’i llenwi gyda manylion y brydles. Byddwn fel arfer yn nodi’r brydles.
4.2.1.2 Mae’r tir caeth yn ddigofrestredig
Gan fod y tir trech a’r tir caeth hefyd yn ddigofrestredig, ni allwn wneud unrhyw beth. Gan fod yr hawddfraint yn gyfreithiol, bydd yn rhwymo unrhyw brynwr olynol y tir caeth a bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf y tir caeth (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.2.2 Hawddfreintiau a gedwir
4.2.2.1 Mae’r tir trech yn gofrestredig
Nid yw cadw’r hawddfraint yn warediad cofrestradwy, ond mae hawddfraint gyfreithiol pan roddir y brydles yn neilltuo’r hawddfreintiau o blaid tir cofrestredig arall.
Gallwch wneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar ffurflen AP1 (rheol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylech amgáu:
- copi ardystiedig o’r brydles wrthrannol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau cofrestredig ym mhanel 2. Nodwch ‘cofrestriad budd hawddfreintiau a gedwir yn [disgrifiwch lle y gellir gweld y ddarpariaeth er enghraifft, Rhan 2 Atodlen 2] y brydles’ ym mhanel 4.
4.3 Hawddfreintiau mewn prydlesi heblaw trwy weithred
Yn gyffredinol, mae’r cyfarwyddyd hwn yn cymryd yn ganiataol bod y brydles ar ffurf gweithred. Os yw’r brydles yn ysgrifenedig yn unig, gall yr hawddfraint fod yn ecwitïol yn unig. Ystyr hyn yw:
- lle bo’r tir caeth yn gofrestredig, nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy
- lle bo hawddfraint wedi’i rhoi a’r tir yn gofrestredig, ni allwn gofnodi’r budd yn y gofrestr ar gyfer yr ystad brydlesol oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
- lle bo hawddfraint wedi’i chadw a’r tir trech yn gofrestredig, ni allwn gofnodi’r budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
- lle bo hawddfraint wedi’i rhoi neu ei chadw a’r tir caeth yn ddigofrestredig, bydd yn rhaid gwarchod yr hawddfraint honno trwy bridiant tir Dosbarth D(iii)
5. Hawddfreintiau ar gofrestriad cyntaf y tir trech neu gaeth
Mae’r adran hon yn trafod beth sy’n digwydd ynghylch yr hawddfreintiau pan fydd perchennog y tir a gedwir neu’r trosglwyddai yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant sydd â theitl digofrestredig, wedyn yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf (neu pan fydd olynydd mewn teitl yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf) y teitl hwnnw.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
5.1 Hawddfreintiau llesiannol
Ar ôl cwblhau cofrestriad cyntaf, mae’r tir yn cael ei freinio yn y perchennog cofrestredig ynghyd â budd yr holl fuddion sy’n bodoli er budd yr ystad gofrestredig (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae hyn yn wir p’un ai a ddangosir hawddfraint yn y gofrestr ai peidio.
Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, byddwn yn cofnodi yn y gofrestr manylion llawn hawddfreintiau perthynol sy’n:
- grantiau penodol yn y trawsgludiad i’r ceisydd, neu
- sy’n grantiau penodol neu y cyfeirir atynt yn y weithred wreiddyn, neu sy’n grantiau penodol mewn gweithred olynol, ac ymddengys eu bod wedi’u trosglwyddo i’r ceisydd
Cyn inni allu cofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr rhaid inni fod yn siwr ei bod yn bodoli fel budd cyfreithiol. Rhaid ichi, felly, gyflwyno tystiolaeth y bu gan y grantwr bŵer i roi’r hawddfraint – gweler Profi pŵer y grantwr i roi’r grant. Os nad yw’r dystiolaeth a gyflwynir yn dangos yn derfynol bod hawddfraint gyfreithiol yn bodoli gallwn naill ai adael yr hawl allan neu ychwanegu nodyn amodol at y cofnod.
Os yw’r hawddfraint mewn termau penodol ac os y’i rhoddwyd dros dir digofrestredig sydd wedi cael ei gofrestru ers hynny, gall fod angen cofnodi rhybudd o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd ag a gofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech. Fodd bynnag, nid oes angen ichi wneud cais i gofnodi’r rhybudd hwn; byddwn yn trefnu hyn fel rhan o’r cofrestriad cyntaf. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i berchnogion cofrestredig y tir caeth i’w hysbysu bod y cofnod yn cael ei wneud yn eu teitl cofrestredig.
5.2 Hawddfreintiau darostyngedig
Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr o’r holl hawddfreintiau, p’un ai a ydynt yn gyfreithiol neu ecwitïol:
- a gynhwysir yn y gweithredoedd a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais
- a ddadlennir ar ffurflen DI
6. Hawddfreintiau ymhlyg a thrwy bresgripsiwn
Yn achos hawddfreintiau dros dir cofrestredig sydd o ganlyniad i grant ymhlyg neu bresgripsiwn, nid oes rhaid eu cwblhau trwy eu cofrestru er mwyn iddynt fod yn effeithiol yn y gyfraith. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr hawddfraint yn fudd gor-redol (paragraff 3 Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Gellir cofrestru hawddfraint ymhlyg neu trwy bresgripsiwn fel ei bod yn perthyn i’r ystad gofrestredig yn y tir trech (rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Rhaid gwneud cais o dan reol 73(A) o ran hawddfraint ymhlyg ar ffurflen AP1. Dylai panel 5 y ffurflen:
- ddangos yn glir bod y cais i gofrestru hawddfraint ymhlyg o dan reol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003, a
- nodi’r weithred yr honnir bod yr hawddfraint yn ymhlyg ynddi
Dylid cyflwyno gyda’r cais dystiolaeth bod hawddfraint ymhlyg wedi codi, megis gorchymyn llys neu ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, ac unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o bŵer y grantwr i wneud y grant – gweler Profi pŵer y grantwr i wneud y grant. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog caeth yn yr achosion hyn.
Os oes gan dir sy’n destun cais am gofrestriad cyntaf fudd hawddfraint ymhlyg, dylech gynnwys y dystiolaeth a grybwyllwyd uchod ac egluro’r amgylchiadau mewn llythyr gyda’r cais.
Lle y mae hawddfraint ymhlyg neu hawddfraint trwy bresgripsiwn yn cael ei gofrestru’n berthynol i ystad gofrestredig ac mae’r tir caeth yn gofrestredig, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd.
Lle y mae’r hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn – gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
7. Profi pŵer y grantwr i wneud y grant
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
7.1 Mae’r tir caeth yn gofrestredig
7.1.1 Arwystlon
Dylech gyflwyno cydsyniad unrhyw arwystlai’r tir caeth y mae gan ei arwystl flaenoriaeth dros roi’r hawddfraint ac nad yw wedi ymuno yn y weithred.
Os nad yw’r arwystlai wedi cydsynio i’r grant, mae’n debygol y caiff yr hawddfraint ei gor-redeg os yw’r arwystlai yn arfer eu pŵer gwerthu. Os na ellir cyflwyno cydsyniad arwystlai, os yw’r tir trech yn gofrestredig, a’n bod yn bwrw ymlaen â’r cofrestriad, byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg i’r canlynol at y gofrestr ar gyfer y tir trech:
‘NODYN: Ni chyflwynwyd cydsyniad perchennog yr arwystl dyddiedig… o blaid… sy’n effeithio ar deitl(-au)… ar gofrestriad a gellir gor-redeg yr hawliau… os arferir y pŵer gwerthu’.
Gellir dileu’r nodyn yn ddi-dâl os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amgáu’r cydsyniad.
7.1.2 Cyfyngiadau
Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad (gan gynnwys cyfyngiad o blaid arwystlai) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth. Os nad oedd rhoi’r hawddfraint yn warediad tir cofrestredig oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig ar adeg ei rhoi, yna ni fydd cyfyngiad yn erbyn cofrestru gwarediad, neu yn erbyn cofrestru neu nodi gwarediad, ynddo’i hun yn ein rhwystro rhag cofnodi’r budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth, neu gofnodi wedyn rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Fodd bynnag, gall cyfyngiad o’r fath olygu cyfyngiad ar bŵer y grantwr i roi’r hawddfraint sy’n weithredol ar adeg y grant, yn enwedig lle mai un person yw’r grantwr a’r perchennog cofrestredig. Gall fod yn bosibl inni barhau o hyd, efallai yn sgil cyflwyno rhybudd, lle bo’r cyfyngiad yn awgrymu’r cyfyngiad hwn ond rydym yn fodlon y bu’r pŵer i roi’r hawddfraint gan y grantwr.
7.1.3 Rhybuddiadau a rhybuddion adneuo (bwriadedig)
Os oes rhybuddiad neu rybudd adneuo (bwriadedig) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac am na chyflwynwyd cydsyniad y rhybuddiwr i gofrestriad yr hawddfraint gyda’r cais, gallwn gyflwyno rhybudd i’r rhybuddiwr neu’r adneuai.
7.2 Mae’r tir caeth yn ddigofrestredig
Rhaid cyflwyno gyda’r cais deitl llawn i’r tir caeth gan ddechrau gyda gwreiddyn da sy’n fwy na 15 mlynedd oed ar ddyddiad y cais ac yn cynnwys canlyniadau chwiliadau Pridiannau Tir.
7.2.1 Arwystlon
Dylid cyflwyno cydsyniad unrhyw forgeisiai cyfreithiol y tir caeth i roi’r hawddfraint oni bai eu bod wedi ymuno yn y grant. Os na chyflwynir y cydsyniad hwn, gallwn fynd ymlaen i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, ond byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg i’r un yn Arwystlon. Unwaith eto, gellir dileu’r nodyn yn ddi-dâl os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amgáu’r cydsyniad.
8. Hawddfreintiau ecwitïol
Os rhoddir hawddfraint heblaw am gyfnod sy’n gyfatebol i ffi syml absoliwt â meddiant neu dymor blynyddoedd absoliwt (er enghraifft os y’i rhoddwyd am oes), bydd yn ecwitïol. Enghraifft arall o hawddfraint ecwitïol yw hawddfraint a roddwyd dros dir cofrestredig lle nad yw’r grant, sy’n warediad cofrestradwy, yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
8.1 Budd hawddfreintiau ecwitïol
Os yw’n amlwg bod hawddfraint yn ecwitïol, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi ei budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ar gofrestriad cyntaf y tir trech na wedi hynny. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer cofrestru buddion cyfreithiol yn unig (adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly dim ond budd ystadau cyfreithiol perthynol y gellir ei gofnodi yn y gofrestr ar gofrestriad cyntaf (rheol 33(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003); a dim ond budd hawddfreintiau cyfreithiol y gellir ei gofrestru lle bo’r tir trech yn gofrestredig eisoes (paragraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, ar gofrestriad cyntaf ystad, bydd yr ystad honno yn breinio yn y perchennog cofrestredig ‘ynghyd â’r holl fuddion sy’n bodoli er budd yr ystad’, a allai gynnwys hawddfreintiau ecwitïol (adran 11(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Os oes unrhyw amheuaeth ar gofrestriad cyntaf y tir trech a yw hawddfraint yn gyfreithiol yn hytrach nag ecwitïol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir, gydag amod priodol (rheol 33(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn yr un modd, lle bo cais i gofnodi yng nghofrestr tir trech cofrestredig budd hawddfraint sy’n grant penodol neu sydd wedi ei chadw dros dir digofrestredig neu sydd wedi ei chael heblaw trwy grant penodol, a lle bo amheuaeth a yw’r hawddfraint yn gyfreithiol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir gydag amod priodol (rheol 73(A)(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Sylwer: Gan fod y ddeddfwriaeth yn caniatáu cynnwys budd hawddfreintiau cyfreithiol yn unig mewn teitl cofrestredig, ni fyddai budd unrhyw hawddfreintiau ecwitïol y digwyddodd bod cyfeiriad atynt yn y gofrestr ar gyfer y tir trech (efallai o ganlyniad o’u drysu gyda hawddfreintiau cyfreithiol) yn cael eu cynnwys yn y teitl cofrestredig.
8.2 Baich hawddfreintiau ecwitïol
Os yw’r tir caeth yn gofrestredig, dylid gwneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr hawddfraint ecwitïol. Am ragor o fanylion am sut i wneud cais i gofnodi rhybudd gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.
Lle rhoddir hawddfraint ecwitïol wrth drosglwyddo tir cofrestredig byddwn yn cofnodi rhybudd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn awtomatig, ar yr amod bod rhif y teitl yn cael ei nodi ym mhanel 2 ffurflen AP1. Nid oes angen cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1. Fel y nodwyd yn Budd hawddfreintiau ecwitïol ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwitïol yn y gofrestr.
Ar gofrestriad cyntaf y tir caeth, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr o ran hawddfreintiau ecwitïol – gweler Hawddfreintiau darostyngedig. Unwaith eto, ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwitïol ar gofrestriad cyntaf y tir trech.
9. Is-brydlesi ac aseiniadau o ran
Os yw tenant sydd â budd hawddfraint a roddwyd yn y brydles yn is-brydlesu rhan o’r tir gyda budd yr hawddfraint, ymddengys mai un hawddfraint sydd o hyd. Gall yr is-denant wneud cais i gofnodi rhybudd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitl sy’n uwch nag un y tenant, oni bai bod rhybudd o ran yr hawddfraint (heblaw rhybudd unochrog) yn bodoli eisoes. Os cofnodir rhybudd unochrog a datgenir mai’r is-denant yw’r buddiolwr, bydd yn gwarchod hawl yr is-denant i arfer yr hawddfraint yn unig a gellir ei ddileu ar gais yr is denant ar ffurflen UN2. Os cofnodir rhybudd a gytunwyd, mae’n annhebyg y caiff ei ddileu ar gais yr is-denant yn unig oherwydd bod rhaid bodloni’r cofrestrydd bod y budd o dan sylw wedi terfynu’n gyfan gwbl (rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Ymddengys bod y sefyllfa yn debyg lle bo’r tenant yn aseinio rhan o’r tir gyda budd hawddfraint a roddwyd mewn prydles ddigofrestredig.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
10. Darpariaethau sy’n atal creu neu basio hawddfreintiau
Ar drosglwyddiad neu brydles, gall y trosglwyddai neu’r tenant, heb grant datganedig, gaffael hawddfreintiau sy’n effeithio ar dir a gedwir gan y trosglwyddwr neu’r landlord. Gall hyn fod yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu’r rheol yn Wheeldon v Burrows. Ac ar drosglwyddiad neu brydles, gall budd hawddfreintiau sy’n bodoli basio’n awtomatig gyda’r tir. Fodd bynnag, gellir atal creu a phasio’r hawddfreintiau trwy ddarpariaeth addas yn y trosglwyddiad neu brydles.
Mae’r adrannau canlynol yn awgrymu ffurfiau o eiriad i’w defnyddio i eithrio gweithredu adran 62 neu’r rheol yn Wheeldon v Burrows, ac i atal budd hawddfreintiau sy’n bodoli rhag pasio. Nid yw defnyddio’r geiriad hwn yn orfodol, ond bydd yn sicrhau bod yr arfer a nodir isod yn cael ei dilyn.
10.1 Atal creu hawddfreintiau
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy’n dweud:
“Nid oes hawddfreintiau’n ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]”
neu eiriad tebyg, gwneir cofnod yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir a drosglwyddir sy’n nodi telerau’r cymal neu sy’n datgan bod y trosglwyddiad:
“yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chreu neu basio hawddfreintiau”
Ni wneir y cofnod hwn yn y gofrestr pan fo’r cymal mewn prydles.
10.2 Atal pasio budd hawddfreintiau
Ymddengys nad yw pasio budd hawddfreintiau sy’n bodoli yn awtomatig, yn absenoldeb geiriau sy’n atal hyn yn y trosglwyddiad neu’r brydles, yn dibynnu ar weithredu adran 62.
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy’n dweud:
“Mae’r eiddo’n cael ei drosglwyddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy’n bodoli”
neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas â hawddfreintiau sy’n bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai yn datgan bod y trosglwyddiad:
“yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chreu neu basio hawddfreintiau”
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy’n dweud:
“Trosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy’n bodoli heblaw’r rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn”
neu eiriad tebyg, y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yr unig rai i gael eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai sy’n datgan bod y trosglwyddiad:
“yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chreu neu basio hawddfreintiau”
Pan nad yw cofnodion yn cael eu cario ymlaen oherwydd cymal sy’n atal pasio budd hawddfreintiau, ni fyddwn yn dileu unrhyw rybudd mewn perthynas â baich yr hawddfreintiau yn y teitl i’r tir caeth yn awtomatig. Gellir gwneud cais i ddileu ar ffurflen CN1.
Os nad yw’r cymal yn y trosglwyddiad yn defnyddio un o’r ffurfiau o eiriad a nodir uchod ac:
- nad yw’n glir ai effaith y cymal yw atal pasio budd hawddfraint sy’n bodoli, a’i
- fod yn ymddangos y byddai teitl y trosglwyddai yn cael rhywfaint o fudd o’r hawddfraint
bydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen i deitl y trosglwyddai, ond bydd y nodyn canlynol, neu rywbeth tebyg, yn cael ei ychwanegu:
“NODYN: Mae’r hawddfreintiau cyfreithiol wedi eu cynnwys yn y cofrestriad hwn dim ond i’r graddau nad ydynt wedi eu heithrio gan effaith y trosglwyddiad dyddiedig… y cyfeirir ato…”
Lle ceir cymal mewn prydles (yn achos prydles cymalau penodedig, dylid cynnwys y cymal neu gyfeirio ato yn ddelfrydol ym mhanel LR4 ond gall fod yn lle hynny yn LR11) yn nodi bod yr eiddo’n cael ei osod neu ei brydlesu heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy’n bodoli, ni fydd unrhyw gofnodion mewn perthynas â budd hawddfreintiau sy’n bodoli yn nheitl y landlord yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Pan fo’r cymal yn nodi bod yr eiddo’n cael ei osod neu ei brydlesu gyda budd yr hawddfreintiau sy’n bodoli y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles yn unig, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Lle nad yw’n glir ai effaith y cymal yw atal budd sy’n bodoli rhag pasio, ni fydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen.
10.3 Atal creu a throsglwyddo hawddfreintiau
Yn aml, y bwriad yw atal (i) creu hawddfreintiau newydd a (ii) pasio budd hawddfreintiau sy’n bodoli neu o leiaf y rhai heblaw’r hawddfreintiau sy’n bodoli y cyfeirir atynt yn y trosglwyddiad. Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy’n dweud:
“Nid oes hawddfreintiau’n ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]”. Trosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy’n bodoli (heblaw’r rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn]”
neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas â hawddfreintiau sy’n bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo y tir a drosglwyddir, yn nodi telerau’r cymal neu’n datgan bod y trosglwyddiad:
“yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chreu neu basio hawddfreintiau”
Ni wneir y cofnod hwn os yw’r cymal mewn prydles (ym mhanel LR4 neu LR11 yn achos prydles cymalau penodedig).
Os cynhwysir y geiriad mewn cromfachau sgwâr (“heblaw’r rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn”), dim ond y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yn cael eu trosglwyddo i deitl y trosglwyddai. Os oes cymal tebyg mewn prydles, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant.
Mae’r pwyntiau a wnaed yn nau baragraff olaf Atal pasio hawddfreintiau, ynghylch cymalau mewn trosglwyddiadau a phrydlesi sydd ar ffurf arall ac o’r hon nid yw’n glir ai’r effaith yw atal budd hawddfraint sy’n bodoli rhag pasio, yr un mor gymwys â’i gilydd yma.
11. Tynnu cofnodion o’r gofrestr pan fo hawddfraint yn cael ei gor-redeg
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
11.1 Mae’r tir trech a’r tir caeth yn gofrestredig
Ar ôl cael cais i gofrestru trosglwyddiad wrth i arwystlai arfer pŵer gwerthu tir caeth lle bo rhybudd o hawddfraint a gofnodwyd ar ôl cofrestru’r arwystl, byddwn yn archwilio a gofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech gyda’r nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon. Os felly, byddwn fel arfer am gyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig y tir trech. Mae hyn er mwyn ystyried y posibilrwydd y rhoddwyd cydsyniad mewn gwirionedd gan yr arwystlai ond na chafodd ei gyflwyno. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag gallu dileu’r cofnodion o ran yr hawddfraint yn y cofrestri ar gyfer y tir trech a’r tir caeth.
11.2 Mae’r tir caeth yn ddigofrestredig
Lle cofnodwyd budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, mae morgeisai’r tir caeth yn arfer ei bŵer gwerthu ac mae’r hawddfraint yn cael ei gor-redeg, gellir gwneud cais yn ddi-dâl ar ffurflen AP1 i ddileu cofnod yr hawddfraint a’r nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon.
Mae’r nodyn a gofnodwn yn adlewyrchu’r ffaith na chyflwynwyd cydsyniad yr arwystlai ar gofrestriad. Mae’n bosibl, fodd bynnag, bod yr arwystlai wedi rhoi cydsyniad, ac felly ni chaiff yr hawddfraint ei gor-redeg. O ganlyniad, cyflwynir rhybudd o’r cais i berchennog cofrestredig y tir trech. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag dileu’r cofnod o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.
12. Tynnu cofnodion o’r gofrestr ar ddilead
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
12.1 Y cais
Pan fo hawddfraint wedi cael ei dileu a chyfeirir ati yn y gofrestr teitl, dylid gwneud cais i dynnu’r cofnod neu gofnodion ymaith.
- Os cofnodwyd rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth a chofnodwyd y budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, bydd yn rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i dynnu’r ddau gofnod ymaith, gan nodi’r rhifau teitl ym mhanel 2 a chyflwyno tystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os gwarchodwyd yr hawddfraint naill ai gan rybudd a gytunwyd neu rybudd cofrestrydd (megis rhybudd a gofnodwyd mewn ymateb i gais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 neu ffurflen AN1, neu ar gofrestriad cyntaf y tir caeth), gellir gwneud cais i’w dileu ar ffurflen CN1 gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os nad oes unrhyw rybudd (efallai oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig), ond os cofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, yna dylid gwneud cais i dynnu’r cofnod ymaith ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os gwarchodwyd yr hawddfraint gan rybudd unochrog, gall y buddiolwr wneud cais i’w tynnu ymaith ar ffurflen UN2. Fel arall, gall y perchennog cofrestredig, neu rywun â hawl i’w gofrestru fel y perchennog, wneud cais i’w dileu ar ffurflen UN4.
Sylwer, os yw rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn cyfeirio at hawliau eraill nad ydynt wedi cael eu dileu, ni fyddai’n briodol i dynnu’r cofnod o’r gofrestr. Yn y sefyllfa hon yn hytrach na’i dynnu ymaith, byddwn yn gwneud cofnod yn debyg i’r canlynol:
‘Trwy weithred ddyddiedig… a wnaed rhwng… mae’r [disgrifiad o’r hawl] y cyfeirir ato uchod wedi cael ei ddileu. NODYN: Copi yn y ffeil’
12.2 Y dystiolaeth gefnogol
Lle bo’r cais ar ffurflen AP1 neu ffurflen CN1, rhaid ystyried y pwyntiau canlynol:
12.2.1 Gweithred gollwng
Rhaid i’r holl bartïon sydd â budd fod yn bartïon i’r weithred neu gydsynio i ollwng. Rhaid profi’r teitl i’r tir trech. Bydd hyn yn cynnwys:
- perchennog cofrestredig y tir trech
- unrhyw arwystlai/morgeisai y tir trech
- unrhyw barti arall y nodwyd ei fudd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ac y byddai gollwng yn effeithio’n andwyol arno. Er enghraifft, os cofnodwyd contract i werthu yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, byddai rhaid i’r person â budd y contract fod yn barti neu gydsynio.
Lle bo’r tir trech yn cynnwys teitlau prydlesol a rhydd-ddaliol – er enghraifft, os rhoddir hawddfraint er budd teitl rhydd-ddaliol a bod prydles yn cael ei rhoi wedi hynny o’r teitl hwnnw gyda budd yr hawddfraint – bydd partïon sydd â budd yn cynnwys y rhai sydd â budd yn y teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
Os yw’r tir trech yn ddigofrestredig, dylai’r ceisydd gyflwyno tystiolaeth o deitl i’r tir yn yr un modd â phe bai’r tir yn cael ei drawsgludo.
Os nad yw’n glir bod yr hawddfraint wedi ei dileu’n briodol oherwydd, er enghraifft, nad oedd arwystlai teitl trech yn barti i’r weithred ac nid yw ei gydsyniad wedi ei gyflwyno, gallwn wneud cofnod yn debyg i’r canlynol:
‘Trwy weithred ddyddiedig… a wnaed rhwng… mynegwyd y [disgrifiad o’r hawl a’r weithred sy’n ei chynnwys] i’w ollwng ond ni phenderfynwyd ar ddilysrwydd ei ollwng.
NODYN Copi yn y ffeil’
Bydd yn rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig o’r weithred ollwng.
12.2.2 Terfynu prydles y mae’r hawddfraint yn perthyn iddi
Bydd hawddfreintiau a roddwyd mewn prydlesi fel arfer yn dod i ben gyda’r brydles. Lle bo prydles gofrestredig wedi terfynu a gwneir cais ar ffurflen AP1 i gau’r teitl, mae’n amlwg y bydd cwblhau’r cais yn golygu tynnu unrhyw gofnod o ran hawddfraint berthynol ymaith.
12.2.3 Gadael
Nid yn unig mae rhaid bod y person sydd â hawl i’r hawddfraint wedi peidio â’i harfer ond rhaid ei fod hefyd wedi ‘dangos bwriad penodol i beidio byth â mynnu’r hawl ei hun na’i throsglwyddo i rywun arall ar unrhyw amser wedi hynny’ (Tehidy Minerals v Norman [1971] 2 QB 528, per Buckley LJ). Rhaid gosod yr amgylchiadau yr honnir iddynt gyfrif fel gadael mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd.
Dim ond os bydd perchennog y tir trech yn gwneud rhyw weithred sy’n nodi’n glir fwriad pendant na fydd y perchennog na’i olynwyr yn gwneud defnydd o’r hawddfraint yn y dyfodol y gall hawliad am adawiad fod yn llwyddiannus felly (Williams v Usherwood (1983) 45) P&CR 235 a Gotobed v Pridmoore [1971] EG 759).
Rhaid edrych ar ddiffyg defnydd yng nghyd-destun yr holl amgylchiadau ac os gellir esbonio diffyg defnydd gan ffactor arall (a fyddai’n cynnwys nad oedd angen hawddfraint) ni fydd unrhyw gasgliad o adawiad.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.
12.2.4 Undod perchnogaeth a meddiant
Sylwch fod rhaid cael undod perchnogaeth a meddiant.
Statud
Lle’r honnir i hawddfraint gael ei dileu trwy statud, bydd angen copi ardystiedig o’r statud o dan sylw arnom, oni bai ei fod yn Ddeddf Gyhoeddus Gyffredinol.
13. Gwrthwynebiadau
Os cyflwynwn rybudd, gall y derbynnydd wrthwynebu’r cais. Os derbynnir gwrthwynebiad, ni allwn gwblhau’r cais a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth na chofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech nes y tynnir y gwrthwynebiad yn ôl neu ei ddatrys mewn rhyw ffordd arall (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
14. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.