Bwletin y Cyflogwr: Rhagfyr2024
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- newidiadau i’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr a Lwfans Cyflogaeth wedi’u cyhoeddi yng Nghyllideb yr Hydref 2024
- dyletswyddau o ran Cofrestru Awtomatig ar gyfer gweithwyr tymor yr ŵyl
- cadarnhau cynlluniau i fandadu’r broses o adrodd ar fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen
- y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2025 ymlaen
- arweiniad Rhyddhad rhag Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr Parth Buddsoddi
- helpu’ch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau y Wladwriaeth
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.