Canllawiau

Rhifyn mis Rhagfyr 2024 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 4 Rhagfyr 2024

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Newidiadau i’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr a Lwfans Cyflogaeth wedi’u cyhoeddi yng Nghyllideb yr Hydref 2024

Yng Nghyllideb yr Hydref 2024, cyhoeddodd y llywodraeth newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr (CYGau). Y newidiadau a fydd yn dod i rym o 6 Ebrill 2025 ymlaen yw:

  • gostyngiad yn y trothwy eilaidd CYG

  • cynnydd i gyfradd CYG Dosbarth 1 eilaidd

  • cynnydd yn y Lwfans Cyflogaeth

  • dileu’r trothwy cymhwystra Lwfans Cyflogaeth o £100,000

Y trothwy eilaidd yw’r pwynt lle mae cyflogwyr yn dechrau talu CYG ar enillion cyflogai. Bydd y trothwy eilaidd yn gostwng o £9,100 y flwyddyn i £5,000 y flwyddyn o 6 Ebrill 2025 tan 5 Ebrill 2028, ac yna’n cynyddu yn ôl chwyddiant prisiau defnyddwyr wedi hynny. Nid yw hyn yn effeithio ar y trothwyon eilaidd uchaf i gyflogwr amrywiol sy’n bodoli ar gyfer gwahanol ryddhadau CYG i gyflogwr.

Bydd cyfradd CYG y cyflogwr yn cynyddu 1.2 pwynt canran o 13.8% i 15%. Bydd y gyfradd hon hefyd yn berthnasol i Ddosbarth 1A a Dosbarth 1B sef treuliau a buddiannau y mae cyflogwyr yn eu rhoi i’w cyflogeion.

Ar yr un pryd, mae’r Llywodraeth yn gwneud y canlynol:

  • cynyddu’r Lwfans Cyflogaeth o £5,000 i £10,500

  • dileu’r trothwy o £100,000 i ehangu i gyflogwyr o bob maint

Mae hyn yn golygu y bydd pob busnes ac elusen gymwys yn gallu hawlio mwy o ostyngiad ar eu rhwymedigaeth CYG Dosbarth 1 eilaidd, ni waeth beth oedd eu rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth flaenorol.

Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o gyflogwyr gymryd camau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau i’r CYG gan y byddant yn cael eu hadlewyrchu’n awtomatig mewn diweddariadau i’r feddalwedd gyflogres. Rydym yn gweithio gyda datblygwyr meddalwedd ar y newidiadau yn y gyllideb.

Ni fydd rhai busnesau micro a bach yn gweld unrhyw newid mewn rhwymedigaeth CYG.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghyllideb yr Hydref 2024 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).

Mae dogfennau sy’n gysylltiedig â threth, sy’n cynnwys gwybodaeth am dreth a nodiadau effaith, i’w gweld yng Nghyllideb yr Hydref 2024 dogfennau cysylltiedig â threth (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ddarllen mwy am dalu CYG yn Rhedeg y gyflogres — didyniadau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael a bydd yn cael ei diweddaru i ddangos newidiadau’r gyllideb ar 6 Ebrill 2025.

Dyletswyddau o ran cofrestru awtomatig ar gyfer gweithwyr tymor yr ŵyl

Os ydych yn cyflogi staff tymor byr ar gyfer tymor yr ŵyl nad ydynt ar oriau nac incwm rheolaidd ac yn cael eu talu drwy system gyflogres, mae’n bosibl y bydd dyletswyddau cyfreithiol o ran cofrestru awtomatig yn berthnasol i chi. Mae hyn yn cynnwys staff sy’n gweithio am ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd.

Mae’n rhaid i chi weithio mas pwy i’w roi ar gynllun pensiwn drwy asesu staff yn unigol, bob tro y byddwch yn eu talu, gan ystyried beth yw eu hoedran a faint maen nhw’n ei ennill.

Mae’n rhaid i unrhyw staff sy’n 22 oed i oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac sy’n ennill dros £192 yr wythnos neu £833 y mis, gael eu rhoi mewn cynllun pensiwn y mae’n rhaid i chi gyfrannu tuag ato. Mae gwybodaeth bellach am gyflogi staff tymhorol neu dros dro (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar wefan y Rheolydd Pensiwn.

Angen tystiolaeth i hawlio treuliau cyflogaeth TWE

Ar 14 Hydref 2024, cyflwynodd CThEF ofynion tystiolaeth newydd ar gyfer cwsmeriaid sy’n hawlio treuliau cyflogaeth TWE (Talu Wrth Ennill) (P87). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Briff gwybodaeth CThEF — Angen tystiolaeth i hawlio treuliau cyflogaeth TWE (P87) (yn agor tudalen Saesneg).

Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y rhyddhad treth y mae ganddynt hawl iddo. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn nodi lle nad yw cwsmeriaid yn gymwys a’u hatal rhag cael taliadau nad oes ganddynt hawl iddynt.

Pan fydd cwsmeriaid yn anfon tystiolaeth i ni am hawliadau treuliau cyflogaeth TWE, bydd CThEF yn gwirio’r holl dystiolaeth a bydd yn cadarnhau gyda chwsmeriaid a oes ganddynt hawl i ryddhad treth.

Gall cyflogwyr helpu eu cyflogeion i ddeall yr hyn y gallant ac na allant hawlio amdano trwy rannu’r gysylltiad i’n tudalen ymgyrch: Peidiwch â chael eich dal wrthi — hawlio treuliau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae croeso i gyflogwyr hefyd ddefnyddio ein rhyddhad treth ar dreuliau gwaith — adnoddau cyfathrebu (yn agor tudalen Saesneg), sydd â deunydd wedi’i baratoi i helpu i hwyluso’r sgyrsiau hyn gyda chyflogeion.

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Rhagfyr 2024, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Rhagfyr 2024. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Rhagfyr 2024, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn talu TWE cyflogwr.

Canllaw ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda’r Ardoll Brentisiaethau a’r Lwfans Cyflogaeth — endidau cysylltiedig

Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd — Help gyda’r Ardoll Prentisiaethau a’r Lwfans Cyflogaeth — endidau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r canllawiau hyn yn egluro’r rheolau endidau cysylltiedig i helpu cyflogwyr i roi gwybod am yr Ardoll Brentisiaethau yn gywir a hawlio Lwfans Cyflogaeth. Mae’r term ‘endid’ yn cynnwys cwmnïau, elusennau a chyrff cyhoeddus (a’u sefydliadau cysylltiedig).

Mae’r canllawiau hyn yn gwneud y canlynol:

  • esbonio sut mae’r rheolau endidau cysylltiedig yn effeithio ar yr Ardoll Brentisiaethau a’r Lwfans Cyflogaeth

  • amlygu’r camgymeriadau cyffredin y mae cyflogwyr yn eu gwneud

  • rhoi cyngor ymarferol ar sut i adnabod endidau cysylltiedig

  • rhoi help ar y senarios unigryw ym mhoblogaeth y corff cyhoeddus

  • nodi sut y gall cyflogwyr gywiro unrhyw wallau a wneir

Mae’r canllawiau’n gynnyrch ymarferol i gwsmeriaid gyfeirio ato a dylid eu darllen ochr yn ochr â chanllawiau presennol CThEF. Byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen i gynnal eu perthnasedd a’u defnyddioldeb i gwsmeriaid.

Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Maent yn rhoi barn CThEF ar risgiau ar draws cyfundrefnau treth, ac sy’n gymhleth, yn anghyffredin , neu sy’n cael eu camddeall yn eang.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ein cyhoeddiadau eraill, ar gael ar Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).

Cymorth os yw’ch cyflogeion wedi talu gormod o dreth — hawlio ad-daliad treth

Mae CThEF wedi newid y ffordd y mae’n ad-dalu’r rhan fwyaf o gwsmeriaid TWE (Talu Wrth Ennill) sy’n gymwys i gael ad-daliadau Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) ac sy’n gallu hawlio eu had-daliad ar-lein.

Yn flaenorol, byddai unrhyw gyflogeion a gafodd lythyr cyfrifiad treth P800 ac nad oedd yn hawlio’r ad-daliad ar-lein yn cael siec yn awtomatig ar ôl 21 diwrnod. O 31 Mai 2024 ymlaen, nid oedd sieciau’n cael eu hanfon yn awtomatig mwyach. Bydd angen i gwsmeriaid gymryd camau i gael eu had-daliad.

Os ydych chi neu’ch cyflogeion wedi talu gormod o dreth, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am ad-daliad yw drwy ap CThEF. Byddwn yn talu’r ad-daliad yn syth i’ch cyfrif banc cyn pen 1 wythnos i’ch hawliad.

I hawlio’ch ad-daliad treth, dewiswch yr adran ‘Pay As You Earn (PAYE)’ yn yr ap CThEF. Os oes arnoch arian yn ôl gennym, fe welwch fotwm gwyrdd ar y dudalen i hawlio’ch ad-daliad a’r swm sy’n ddyledus i chi. Dewiswch y botwm hwn i ddechrau’ch hawliad.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein hyd yma, gallwch hawlio’ch ad-daliad ar-lein o hyd drwy chwilio am ‘P800 refund’. Bydd angen eich cyfeirnod P800 arnoch (gallwch gael hwn o’ch llythyr Cyfrifiad Treth P800) a’ch rhif Yswiriant Gwladol. Gall dod o hyd i ragor o wybodaeth yn gordaliadau a thandaliadau treth.

Ad-daliadau TWE y cyflogwyr a Chynllun y Diwydiant Adeiladu

Gwnaethom nodi bod CThEF yn cyflwyno gwelliannau i gefnogi hawliadau ar-lein am ad-daliad yn rhifyn Hydref 2024 o’r Bwletin Cyflogwyr.

Mae CThEF bellach wedi cyhoeddi fersiwn well o’r ffurflen hawlio ad-daliadau ar-lein yn hawlio ad-daliad o ddidyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu os ydych yn gwmni cyfyngedig neu’n asiant (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd y ffurflen hawlio ar-lein hon yn eich galluogi i uwchlwytho tystiolaeth, gan gynnwys datganiadau talu a didyniadau a datganiadau banc pan fydd CThEF yn gofyn amdano. Bydd y ffurflen hefyd yn cysylltu â chanllawiau i wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF.

Byddwn yn darparu diweddariad pellach ynghylch y ffurflen hawlio ar-lein newydd ar gyfer ad-daliadau TWE pan fydd hyn yn cael ei gyhoeddi.

Cadarnhau cynlluniau i fandadu’r broses o adrodd ar fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen

Yng Nghyllideb yr Hydref, cyhoeddodd y llywodraeth rai diweddariadau i gynigion Ionawr 2024 i fandadu’r broses o adrodd ar fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen. Y prif addasiadau rydym wedi’u gwneud yw:

  • bydd adrodd gorfodol am fuddiannau mewn amser real, trwy feddalwedd gyflogres, yn cael ei gyflwyno fesul cam o fis Ebrill 2026 ymlaen — bydd yn ofynnol i gyflogwyr talu’r rhan fwyaf o fuddiannau trwy’r gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen, ond ni fydd yn ofynnol iddynt dalu benthyciadau a llety trwy’r gyflogres pryd hynny

  • bydd cyflogwyr yn gallu adrodd ar fenthyciadau a llety sy’n gysylltiedig â chyflogaeth drwy feddalwedd gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen — bydd P11D a P11D(b) wedi’i addasu ar gael i adrodd ar fenthyciadau a llety yn unig os nad yw cyflogwyr yn dymuno talu’r rhain drwy’r gyflogres

  • ni wnaed unrhyw benderfyniad ynghylch pryd y byddwn yn mandadu adrodd ar fenthyciadau a llety drwy feddalwedd gyflogres — byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i sicrhau y rhoddir digon o rybudd o unrhyw newid

  • cyflwynir proses diwedd blwyddyn i ddiwygio gwerthoedd trethadwy unrhyw fuddiannau na ellir eu pennu yn ystod y flwyddyn dreth, fodd bynnag, rydym yn disgwyl i werthoedd trethadwy’r rhan fwyaf o fuddiannau gael eu hadrodd mor gywir â phosibl yn ystod y flwyddyn dreth

  • bydd y gofyniad i gyflwyno ffurflenni P46 (Car) yn cael ei ddileu gan y darperir ymarferoldeb i adrodd ar y data sy’n ofynnol trwy feddalwedd gyflogres mewn amser real

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod yr adroddiadau gorfodol am fuddiannau drwy feddalwedd gyflogres yn gweithio i CThEF a threthdalwyr. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft a manylebau technegol.

Trothwyon a chyfraddau benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer 2025 i 2026

Cyhoeddodd yr Adran Addysg y math newydd o gynllun benthyciadau myfyrwyr a throthwyon a chyfraddau benthyciadau ôl-raddedig o 6 Ebrill 2025 ymlaen:

  • cynllun 1: £26,065

  • cynllun 2: £28,470

  • cynllun 4: £32,745

  • benthyciad ôl-raddedig: £21,000

Mae’r didyniadau ar gyfer:

  • cynlluniau 1, 2 a 4 yn aros ar 9% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwyon perthnasol

  • mae benthyciadau ôl-raddedig yn aros ar 6% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwy perthnasol

Bydd arweiniad ar drothwyon benthyciadau myfyrwyr ac ôl-raddedig newydd (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu diweddaru ar 6 Ebrill 2025.

Ewch yn ddi-bapur gyda TWE Ar-lein

Gallwch ddewis cael cod treth a hysbysiadau benthyciad myfyrwyr ar gyfer eich cyflogeion yn ddigidol yn hytrach na thrwy bapur.

Mae hyn yn golygu y gallwch eu cael yn gyflymach ac yn rhyddhau mannau storio yn eich swyddfa oherwydd unwaith y byddwch wedi dewis di-bapur gallwch weld holl hysbysiadau eich cyflogeion ar-lein.

Os yw’ch busnes yn rhedeg eich cyflogres eich hun, trosglwyddwch y neges hon i’r person cywir yn y gyflogres neu Adnoddau Dynol.

I optio i mewn i ddi-bapur:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif TWE Ar-lein.
  2. Dewiswch ‘Negeseuon’.
  3. Dewiswch ‘Negeseuon TWE i gyflogwyr’.
  4. Dewiswch ‘Newid sut rydych yn cael hysbysiadau cod treth a benthyciad myfyriwr’.
  5. Dewiswch yr hysbysiadau yr hoffech eu cael yn ddigidol.

Ar ôl i chi gwblhau’r camau hyn, gallwch ddewis cael e-bost pan fydd hysbysiad newydd yn eich cyfrif. Ewch i ‘E-bost hysbysiadau’ a nodwch eich cyfeiriad e-bost.

Os yw’ch asiant treth yn rhedeg eich cyflogres, gofynnwch iddo ddewis cael hysbysiadau yn ddigidol yn TWE Ar-lein — bydd yn eu cael yn llawer cyflymach, ac ni fydd angen i chi anfon eich copïau papur ato.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Diwygio’r cyfnod sail – adrodd ar sail blwyddyn dreth

O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth.

Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, bydd angen i chi ddatgan eich elw o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn 2022 i 2023 hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw ychwanegol, ar ôl rhyddhad gorgyffwrdd yn elw trosiannol. Yn ddiofyn, mae’r elw trosiannol hwn yn cael ei ledaenu’n gyfartal dros y 5 mlynedd nesaf gan gynnwys 2023 i 2024. Bydd cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bellach yn cael eu trin fel rhai sy’n cyfateb i’r rhai sy’n dod i ben ar 5 Ebrill.

Er mwyn eich helpu i gyfrifo’ch rhyddhad gorgyffwrdd a’ch elw trosiannol, yn ddiweddar cyhoeddodd CThEF fideo YouTube ar ddiwygio’r cyfnod sail.

Cael help gyda diwygio’r cyfnod sail (symud i’r flwyddyn dreth newydd).

Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn ceisiadau i ddarparu ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd. Er mwyn ein helpu i ddelio â’r galw am y gwasanaeth hwn wrth i ni nesáu at y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2025, gofynnwn i chi wneud eich ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr 2024. Gallwch hefyd ffeilio’r ffurflen gan ddefnyddio ffigurau dros dro a’i diwygio pan dderbynnir y ffigur cywir. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn dim ond os oes angen, gan na fwriedir iddi gael ei defnyddio i ‘wirio’ ffigur sydd gennych eisoes, ac nid oes angen defnyddio’r gwasanaeth cyn cyflwyno Ffurflen Dreth.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Rydym hefyd wedi lansio pecyn llawn o arweiniad ar-lein i gyfrifo’ch elw trosiannol diwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg). Nid yw unrhyw ffigurau a gofnodir yn yr arweiniad rhyngweithiol yn rhan o’r ffurflen ei hun, mae yno i arwain cwblhau’r blychau ar y Ffurflen Dreth.

Gellir lleihau’r elw a dynnir yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024 gan unrhyw ryddhad gorgyffwrdd sy’n cael ei roi ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2023 i 2024. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.

Mae arweiniad pellach i gael help gyda diwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael. 

Helpu’ch cyflogeion i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo 

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, cynyddodd y swm y gallwch ei ennill cyn i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel i £60,000, gyda meinhau hyd at £80,000. Os oes gan eich cyflogeion, neu eu partneriaid, incwm rhwng £60,000 ac £80,000, mae’n bosibl y byddant nawr yn elwa’n ariannol o hawlio Budd-dal Plant.

Y tâl yw 1% o’u Budd-dal Plant am bob £200 o incwm sy’n fwy na £60,000. Os yw incwm cyflogai, neu incwm ei bartner, dros £80,000, mae’r tâl yr un fath â’r taliad Budd-dal Plant. Fodd bynnag, os yw eu hincwm yn £70,000, byddai’r tâl yn cyfateb i 50% o’u taliadau Budd-dal Plant.

Mae’n bosibl y bydd gan eich cyflogeion ddiddordeb nawr mewn hawlio Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) neu ailddechrau eu taliadau (yn agor tudalen Saesneg) os ydynt wedi optio allan yn y gorffennol. Y ffordd hawsaf i’ch cyflogeion gael Budd-dal Plant yw trwy ap CThEF neu ar-lein.

Paratoi ar gyfer dyddiad cau ar 31 Ionawr 2025 ar gyfer Hunanasesiad

Atgoffwch eich cyflogeion, os oedden nhw neu eu partner yn hawlio Budd-dal Plant cyn 6 Ebrill ac roedd gan yr enillydd uwch incwm unigol o dros £50,000, mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt dalu’r tâl treth ar gyfer 2023 i 2024. Gallant wirio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth. Os oes angen iddynt dalu’r tâl, mae’n rhaid iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2025 ymlaen

Defnyddir y gyfradd llog swyddogol (ORI) i gyfrifo’r tâl Treth Incwm ar fuddiant benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac ar fuddiant trethadwy rhai llety byw sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Cyhoeddodd y llywodraeth yn y gyllideb na fydd yr ymrwymiad cyhoeddus blaenorol a wnaed ym mis Ionawr 2000 i beidio â chynyddu’r gyfradd yn ystod y flwyddyn dreth bellach yn berthnasol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gall yr ORI gynyddu, gostwng neu gael ei gadw yr un fath trwy gydol y flwyddyn.

Bydd y gyfradd yn parhau i gael ei hadolygu bob chwarter. Bydd unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn digwydd yn dilyn adolygiad chwarterol, lle bo hynny’n briodol. Os oes unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn i’r gyfradd, bydd y rhain yn dod i rym ar 6 Gorffennaf, 6 Hydref a 6 Ionawr. Bydd unrhyw newidiadau i’r gyfradd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar drefniadau benthyciadau buddiannol — cyfraddau swyddogol CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd y newid hwn yn cynyddu tegwch ar draws y system dreth drwy alluogi’r ORI i gynyddu yn ystod y flwyddyn lle bo hynny’n briodol, gan sicrhau bod benthyciadau buddiannol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a llety byw yn cael eu prisio’n gywir.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghyllideb yr Hydref 2024 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).

Sut bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr

Os ydych yn darparu benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth neu lety byw i’ch cyflogeion, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn y dyfodol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gallai’r gyfradd gynyddu yn ystod y flwyddyn a fydd yn effeithio ar werth trethadwy’r buddiannau a roddwch.

Arweiniad Rhyddhad rhag Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr Parth Buddsoddi

Mae Parthau Buddsoddi wedi’u cynllunio fel ymyrraeth dan arweiniad lleol i yrru cenhadaeth twf y llywodraeth trwy hyrwyddo buddsoddiad newydd mewn sectorau sy’n hanfodol i’r Strategaeth Ddiwydiannol genedlaethol, gan greu swyddi medrus iawn mewn meysydd sydd wedi tanberfformio’n economaidd yn y gorffennol. Gall Parthau Buddsoddi ym Mhrydain Fawr elwa ar fynediad at ymyriadau o £160 miliwn dros 10 mlynedd y gellir eu defnyddio’n hyblyg rhwng gwariant a gostyngiadau treth. Mae’r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £150m ar gyfer Parth Buddsoddi Uwch yng Ngogledd Iwerddon.

Fel rhan o’r cynnig hwn, bydd rhai Parthau Buddsoddi yn cynnwys safleoedd treth arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r rhain yn ardaloedd diffiniedig lle gall busnesau fanteisio ar ystod o ryddhad treth. Ar gyfer Parthau Buddsoddi, gellir hawlio’r gostyngiadau treth hyn ar gael o’r dyddiad y dynodir y safle treth arbennig, hyd at 30 Medi 2034.

Gall cyflogwyr sydd â safle busnes mewn safle treth arbennig Parth Buddsoddi ddynodedig gymhwyso cyfradd sero o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd ar enillion cyflogeion newydd cymwys y disgwylir iddynt dreulio 60% neu fwy o’u hamser gwaith ar y safle treth arbennig. Gellir cymhwyso’r gyfradd hon ar enillion yr holl gyflogeion newydd cymwys hyd at drothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o £25,000 y flwyddyn. Mae’r rhyddhad ar gael am 36 mis fesul cyflogai cymwys.

O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd yn ofynnol i gyflogwr cymwys sy’n gweithredu mewn safle treth arbennig Parth Buddsoddi ddynodedig, ac sy’n dymuno hawlio’r rhyddhad, roi’r cod post yn y gweithle ar gyfer unrhyw gyflogeion cymwys o fewn Cyflwyniadau Talu Llawn RTI.

Rhagor o wybodaeth am:

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Helpu’ch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau y Wladwriaeth

Mae gan eich cyflogeion hyd at 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnodion Yswiriant Gwladol yn ôl i 6 Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth. Ar ôl 5 Ebrill 2025, dim ond am y chwe blynedd dreth flaenorol y byddant yn gallu llenwi bylchau.

Mae ap CThEF a’n gwasanaeth ar-lein yn galluogi’r rhan fwyaf o gwsmeriaid i wneud y canlynol yn gyflym ac yn hawdd:

Mae dewis yr opsiwn ‘talu trwy gyfrif banc’ yn golygu y bydd ond yn cymryd hyd at bum diwrnod gwaith i’w taliad ddangos yn eu cofnod Yswiriant Gwladol. 

Dylech roi gwybod i’ch cyflogeion a’u hannog i weithredu nawr.

Trefniadau rhoi gwybod am gymhorthdal y DU ar gyfer cyfranogwyr cynllun newid hinsawdd ar gyfer blwyddyn galendr 2023

Mae’n ofynnol i CThEF gasglu data gan gyfranogwyr cynllun y cytundeb newid hinsawdd (CCA) y mae eu dyfarniad cymhorthdal treth blynyddol yn uwch na throthwy diffiniedig.

Mae’r trothwy ar gyfer rhoi gwybod am gymorthdaliadau dros £100,000.

Bydd angen i fusnesau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon sy’n masnachu mewn nwyddau neu’r farchnad drydan gyfanwerthu roi gwybod am eu grant cymhorthdal CCA blynyddol os yw’n fwy na £86,994. Dysgwch ragor o wybodaeth am gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar reolaeth cymorthdaliadau (yn agor tudalen Saesneg)

Ym mis Hydref, lansiodd CThEF ymarfer casglu data ar gyfer y cyfnod adrodd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023. Bellach, mae’n ofynnol i fusnesau’r DU roi gwybod am gymorthdaliadau CCA i CThEF drwy ffurflen ar-lein.

Cyhoeddir y data hwn yn dangos yr holl ddyfarniadau cymhorthdal uwchlaw’r trothwyon adrodd i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder.  

Mae’n rhaid i fusnesau sy’n cael grant cymhorthdal treth blynyddol sy’n fwy na’r trothwyon adrodd ar gyfer blwyddyn galendr 2023, lenwi’r ffurflen ar-lein erbyn 31 Ionawr 2025.

Mae arweiniad pellach ar roi gwybod i CThEF am gymorthdaliadau Ardoll Newid Hinsawdd (yn agor tudalen Saesneg) ar gael, gan gynnwys cysylltiad i’r ffurflen ar-lein.

Spotlight 65 — Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth treth

Mae CThEF yn ymwybodol o asiantau treth sy’n targedu busnesau i hawlio ad-daliadau Treth Gorfforaeth (CT) trwy ddarpariaethau anghywir, sy’n gysylltiedig â dirwyon posibl y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) neu hawliadau sifil.

Mae darpariaeth GDPR a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth treth — Spotlight 65 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhybuddio am hawliadau sy’n cynnwys darpariaethau GDPR a ddefnyddir i leihau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn anghywir neu hawlio ad-daliadau treth a dalwyd eisoes, neu’r ddau.

Mae’r hawliadau hyn wedi’u cynllunio i leihau elw busnes trwy gydnabod darpariaeth a chost gyfatebol. Mae hyn yn arwain at fusnesau’n talu llai o Dreth Gorfforaeth nag y dylen nhw, neu’n hawlio ad-daliadau Treth Gorfforaeth nad oes ganddyn nhw hawl i’w cael. Dylid cydnabod darpariaethau a threuliau cysylltiedig yn unol ag arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (GAAP) perthnasol yn unig.

Barn CThEF yw nad yw’r hawliadau hyn a hawliadau tebyg yn unol â’r gyfraith. Bydd CThEF yn herio unrhyw un sy’n gwneud hawliadau o’r fath a/neu sy’n annog neu’n hwyluso busnesau i wneud hawliadau ffug sy’n lleihau rhwymedigaeth treth neu’n ceisio ad-daliad.

Dylai’ch busnes fod yn effro i’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn Spotlight 65 gan y gallai gwneud hawliadau yn y ffordd a amlinellir arwain at gamgymeriad ar ba dreth, llog a chosbau sy’n ddyledus, hyd yn oed os yw’r elfen Ymchwil a Datblygu yn gywir.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn poeni am wneud hawliad anghywir yna cyfeiriwch at arbed treth — cael allan o gynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) am fanylion cyswllt.

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, a’r person sy’n eu cynnig i CThEF.

Spotlight 66 — Trefniadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a ddefnyddir i guddio incwm o gyflogaeth

Mae Trefniadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a ddefnyddir i guddio incwm o gyflogaeth — Spotlight 66 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhybuddio am gynllun arbed treth o’r enw “Y Model Partneriaeth” yn cael ei farchnata i osgoi talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). Mae’r trefniadau wedi’u targedu at gwmnïau sydd â chyflogeion ac sydd wedi’u cynllunio i osgoi talu Treth Gorfforaeth a didyniad TWE Treth Incwm a CYG gan eu cyflogeion.

Honnir bod y cynllun hwn yn gweithio fel a ganlyn. Mae cyflogai cwmni yn ymrwymo i gytundeb. O ganlyniad i’r cytundeb hwn, gellid newid neu derfynu contract cyflogaeth y cyflogai fel cyfnewid am iawndaliad.

Ar ôl ymrwymo i’r cytundeb, crëir Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig LLP) i dalu cyflogai. Mae hyn yn caniatáu i’r cwmni, drwy ddefnyddio’r LLP, guddio incwm cyflogaeth, gyda’r nod o leihau treth a rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol y cwmni.

Dylai’ch busnes fod yn effro i’r manylion a gynhwysir yn Spotlight 66 gan mai barn CThEF yw nad yw’r cynllun hwn yn gweithio. Mae defnyddwyr y cynllun yn parhau i fod yn cyflogeion a dylid trin taliadau a wneir iddynt gan y cwmni fel incwm trethadwy o gyflogaeth.

Os ydych yn poeni am fod wedi defnyddio’r cynllun hwn, neu unrhyw gynllun arbed treth arall, dylech gyfeirio at arbed treth — cael allan o gynllun arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) am fanylion cyswllt.

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, a’r person sy’n eu cynnig i CThEF.

Sut i gwyno

Hoffai CThEF sicrhau bod pob cwsmer yn hapus gyda’r gwasanaeth y maent yn ei gael.

Os oes angen i chi gwyno am y gwasanaeth a gawsoch fel cyflogwr, rydym yn eich annog i wneud hynny ar-lein, gan ddilyn yr arweiniad yn cwyno am CThEF. Gallwch gwyno ar-lein os ydych yn fusnes neu os ydych yn asiant — lle mae gennych ganiatâd gan eich cleient i wneud hyn ar eu rhan. Bydd CThEF yn adolygu’ch cwyn yn llawn a chyn gynted â phosibl.

Bydd cwyno ar-lein, yn hytrach na dros y ffôn, yn helpu CThEF i ddefnyddio adnoddau’n well ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cymorth gydag ymholiadau cymhleth neu frys.

Mae CThEF yn recordio pob cwyn i ddeall y rhesymau dros wasanaeth gwael, felly bydd cwyno ar-lein hefyd yn eich galluogi i nodi’n glir beth ddigwyddodd, a fydd yn helpu CThEF i atal materion pellach a chyflawni gwelliannau.

Pecyn cymorth seiberddiogelwch yn rhad ac am ddim i fusnesau bach

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi datblygu gwasanaeth llywodraeth rhad ac am ddim newydd gyda’r nod o helpu busnesau bach i amddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddwyr.

Dyluniwyd My Cyber Toolkit (yn agor tudalen Saesneg) gyda mewnbwn gan fusnesau ac mae’n cynnig arweiniad cam wrth gam syml wedi’i deilwra i fusnesau bach i helpu i gynyddu eu diogelwch seiber.

Mae’r Pecyn Cymorth yn dal i fod yng nghamau cynnar y datblygiad a gallwch gael mynediad cynnar i’r gwasanaeth i roi cynnig arno a darparu adborth gwerthfawr a fydd yn helpu i lunio’r offeryn ar gyfer miliynau o fusnesau bach ledled y DU.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig

    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at sean.connolly@hmrc.gov.uk.