Bwletin y Cyflogwr: Chwefror 2025
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Chwefror o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- talu buddiannau a threuliau cyflogeion drwy’r gyflogres
- rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025
- diweddariad ar ofynion data ar oriau cyflogeion
- ceir cwmni — dosbarthiad o gerbydau cab dwbl
- Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda sicrwydd cadwyni cyflenwi llafur
- absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol Statudol
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.