Rhifyn mis Chwefror 2025 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2025
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
-
dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
-
rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
cyngor treth — peidiwch â chael eich dal wrthi gan arbed treth
-
mae’r dyddiad cau yn agosáu — helpu’ch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau y Wladwriaeth
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Hysbysu ar ddiwedd y flwyddyn
Mae’n amser paratoi i wneud eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) olaf neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) olaf ar gyfer y flwyddyn. Mae angen i’ch FPS neu’ch EPS olaf y flwyddyn, hyd at a chan gynnwys 5 Ebrill 2025, gynnwys dangosydd i nodi eich bod yn gwneud y cyflwyniad terfynol. Mae hyn yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi anfon popeth yr oeddech yn disgwyl ei anfon, ac y gallwn derfynu’n cofnodion ar eich cyfer chi a’ch cyflogeion. Ni fydd ambell feddalwedd fasnachol y gyflogres yn caniatáu i chi osod y dangosydd ar FPS. Os yw hynny’n wir, anfonwch eich FPS olaf ac yna anfonwch EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio. Gallwch hefyd anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio os gwnaethoch anghofio gosod y dangosydd ar eich cyflwyniad FPS olaf ar gyfer y flwyddyn dreth.
Hefyd, mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer rhoi P60 i’ch cyflogeion os ydynt yn eich cyflogaeth ar 5 Ebrill 2025. Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon gael ei darparu i’r cyflogwr erbyn 31 Mai 2025. Os nad ydych yn mynd i dalu unrhyw un eto yn ystod y flwyddyn dreth hon, cofiwch anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio i ddangos na wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod y cyfnod cyflog olaf ac i ddangos mai dyma’ch cyflwyniad terfynol. Mae gennych hyd at 19 Ebrill 2025 i wneud hyn. Os nad ydych wedi cyflwyno cais erbyn 11 Ebrill 2025, byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig.
Ad-daliadau TWE y cyflogwyr a Chynllun y Diwydiant Adeiladu
Yn dilyn diweddariadau ym Mwletin y Cyflogwr Hydref 2024 a Bwletin y Cyflogwr Rhagfyr 2024, mae CThEF wedi gwneud nifer o welliannau i gefnogi hawliadau ar-lein am ad-daliadau Cyflogwyr.
Gallwch ddod o hyd i’r fersiwn newydd o’r ffurflen hawlio ad-daliadau ar-lein ar gyfer didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar hawlio ad-daliad o ddidyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu os ydych yn gwmni cyfyngedig neu’n asiant (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r ffurflen hawlio ar-lein hon yn eich galluogi i uwchlwytho tystiolaeth ar gyfer eich hawliad pan fydd CThEF yn gofyn amdani.
Mae CThEF hefyd wedi cyflwyno ffurflen hawlio ar-lein ar gyfer ad-daliadau TWE Cyflogwyr. Dilynwch yr arweiniad yn rydych wedi talu’r swm anghywir i CThEF (yn agor tudalen Saesneg) a hawliwch ad-daliad os ydych wedi gordalu (yn agor tudalen Saesneg). Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrifo pam eich bod wedi gordalu cyn i chi hawlio. Gallwch hefyd ofyn am eich gordaliad i wrthbwyso trethi eraill sy’n ddyledus gennych, er enghraifft Treth Gorfforaeth.
Gallwch gael gwybod pryd y gallwch ddisgwyl derbyn ymateb gan CThEF ar y ffurflenni hawlio ar-lein newydd.
Offer TWE Sylfaenol ― ar eu newydd wedd
Bydd diweddariad i’r Offer TWE Sylfaenol (BPT) yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Mawrth 2025 i gefnogi blwyddyn dreth 2025 i 2026. Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru i fersiwn 25.0, a’i ddefnyddio o 6 Ebrill 2025 ymlaen.
Er mwyn diweddaru neu chwilio am ddiweddariadau, dylech ddewis ‘Gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau yng nghornel dde uchaf yr offeryn. Argymhellir hefyd eich bod yn ddewis ‘Iawn’ i’r diweddariadau awtomatig hefyd.
Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio BPT i redeg eich cyflogres, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd.
Mae rhagor o wybodaeth a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025 mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn disgyn ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror 2025 a dydd Sadwrn, 22 Mawrth 2025. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y misoedd hyn yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 21 Chwefror 2025 a 21 Mawrth 2025, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliadau’n hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth am dalu TWE cyflogwyr ar gael.
Talu buddiannau a threuliau cyflogeion drwy’r gyflogres
Gall cyflogwyr gofrestru i dalu buddiannau a threuliau ar gyfer eu cyflogeion trwy’r gyflogres fel y gellir eu trethu trwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2025 ymlaen. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r gwasanaeth talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres ar-lein unrhyw bryd rhwng nawr a 5 Ebrill 2025, fel bod cod treth eich cyflogai’n cael ei ddiweddaru mewn pryd.
Dim ond o ddechrau’r flwyddyn dreth newydd y gallwch ddechrau talu buddiannau a threuliau. Mae’n rhaid i chi dalu’r buddiannau a’r treuliau trwy’r gyflogres am y flwyddyn gyfan, oni bai eich bod yn rhoi’r gorau i’w rhoi.
Gallwch dalu’r holl fuddiannau a threuliau drwy’r gyflogres, heblaw am y canlynol:
-
llety a ddarperir gan y cyflogwr.
-
benthyciadau (buddiannol) sy’n ddi-log a llog isel
I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Bydd angen i chi hefyd gael eich ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein i Gyflogwyr.
Dylech hefyd nodi’r canlynol:
-
mae’n rhaid bod gennych feddalwedd gyflogres sy’n gallu cyfrifo’r dreth sydd arnoch ar fuddiannau ar gyfer pob cyfnod cyflog
-
yn lle rhoi ffurflen P11D i’ch cyflogeion, mae angen i chi roi llythyr iddynt yn egluro pa dreuliau a buddiannau yr ydych wedi’u talu drwy’r gyflogres
-
os ydych yn talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres, mae’n bosibl y bydd gennych rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A o hyd a bydd angen i chi gyflwyno P11D(b) ar-lein i roi gwybod i ni faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch
-
mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflenni P11D o hyd ar gyfer unrhyw fuddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u talu trwy’r gyflogres yn ystod blynyddoedd treth 2024 i 2025 a 2025 i 2026
-
er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o gamgymeriadau, gallwch baratoi ar gyfer talu drwy’r gyflogres trwy sicrhau bod data am gyflogeion, eu henillion a’u buddiannau’n gyfredol
Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am dreuliau a buddiannau rydych chi’n eu rhoi i gyflogeion neu gyfarwyddwyr ar gael.
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025
Dyddiadau cau P11D a P11D(b)
I’r cyflogwyr hynny nad ydynt eto’n talu drwy’r gyflogres, y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A P11D(b), costau P11D a buddiannau a ddarperir ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 yw 6 Gorffennaf 2025.
Mae’n rhaid i’ch P11Ds a P11D(b) gael eu cyflwyno ar-lein ac ar yr un pryd.
Gall cyflwyniad hwyr arwain at gosb. Mae CThEF yn codi cosbau’n fisol ac yn cyhoeddi hysbysiadau o gosb bob chwarter nes i chi gyflwyno’ch ffurflenni.
Os ydych yn gwneud camgymeriad ac mae angen i chi gyflwyno diwygiad i’ch P11D neu P11D(b), mae’n rhaid i chi wneud hyn ar-lein hefyd. Nid yw CThEF bellach yn derbyn datganiadau papur. Cyfeiriwch at arweiniad Treuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Benthyciadau buddiannol ar y cyd
Os ydych yn darparu benthyciadau buddiannol ar y cyd i’ch cyflogeion, cofiwch rannu’r cyfanswm arian parod cyfatebol â nifer y cyflogeion ar y benthyciad buddiannol ar y cyd. Defnyddiwch y ffigur terfynol hwn i gwblhau’r swm cyfwerth ag arian parod ar gyfer pob cyflogai ar eu P11D cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflenni Treth
Os yw’r arian parod cyfatebol terfynol yn ddim, cofnodwch hyn fel £0.00 ar y P11D cyn ei gyflwyno.
Paratoi ar gyfer newidiadau i Yswiriant Gwladol cyflogwyr
Bydd newidiadau i Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn dod i rym ar 6 Ebrill 2025.
Mae CThEF yn atgoffa cyflogwyr o’r manylion fel y gallwch baratoi. Bydd y newidiadau’n cael eu hymgorffori yn y feddalwedd gyflogres bresennol ar gyfer cyflogwyr sydd eisoes yn rhoi gwybod am TWE. Mae’r newidiadau trothwy yn golygu y gallai rhai cyflogwyr fod yn agored i dalu Yswiriant Gwladol i gyflogwyr a’u bod yn gorfod rhoi gwybod am eu cyflog a’u didyniadau i CThEF am y tro cyntaf.
Cyfradd cyfrannu yn cynyddu
Bydd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr yn cynyddu i 15% o 13.8%. Mae’r cyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ac 1B cysylltiedig ar dreuliau a buddiannau a roddir i gyflogeion hefyd yn cynyddu i 15%.
Trothwy Eilaidd ar gyfer rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol cyflogwr i ostwng
Y Trothwy Eilaidd yw’r pwynt lle mae cyflogwyr yn dechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyflog cyflogai. Mae’r Trothwy Eilaidd yn gostwng o £9,100 i £5,000 y flwyddyn.
Bydd angen i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr lle maent yn cyflogi staff sy’n ennill £5,000 neu fwy, a rhoi gwybod am y taliadau hyn i CThEF.
Bydd angen i’r rhai sy’n newydd i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr gofrestru gyda CThEF i ddefnyddio meddalwedd cyflogres trwy TWE.
Newidiadau i’r Lwfans Cyflogaeth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn gostwng rhwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr cymwys. Ar hyn o bryd, mae’r Lwfans Cyflogaeth wedi’i gyfyngu i gyflogwyr sydd â biliau cyfraniadau Yswiriant Gwladol o lai na £100,000 yn y flwyddyn dreth flaenorol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y trothwy o £100,000 yn cael ei ddileu, a bydd uchafswm y Lwfans Cyflogaeth yn cynyddu o £5,000 i £10,500 sy’n golygu y bydd mwy o fusnesau cymwys yn gallu hawlio, ac ar swm uwch. Mae diddymu’r trothwy Lwfans Cyflogaeth o £100,000 yn golygu na fydd angen i gyflogwyr, o 6 Ebrill 2025 ymlaen, ystyried cymorth gwladwriaethol mwyach pan oeddent wedi gwneud hynny oherwydd y cyfyngiad trothwy.
Gall y rhan fwyaf o fusnesau neu elusennau wneud cais am Lwfans Cyflogaeth. Fodd bynnag, ni allant wneud hynny os ydynt yn gorff cyhoeddus neu’n fusnes y mae ei weithgareddau’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn cynnwys cyflawni swyddogaethau sydd o natur gyhoeddus. Gall p’un a yw’r swyddogaethau hyn yn cael eu hariannu’n gyhoeddus nodi swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw cyllid yn ffactor sy’n penderfynu. Os mai dim ond un cyfarwyddwr sydd gan y cwmni a’r cyfarwyddwr hwnnw yw’r unig gyflogai sy’n gyfrifol am gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 uwchradd, nid ydynt hefyd yn gymwys.
Mae rhagor o wybodaeth am Newidiadau i Drothwy Eilaidd Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd, a’r Lwfans Cyflogaeth o 6 Ebrill 2025 ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Mae rhagor o wybodaeth am TWE a’r gyflogres i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Disgwylir i ni ddiweddaru manylion trothwy ariannol ar gyfer 6 Ebrill 2025 pan fyddant yn dod i rym. I gael arweiniad pellach, Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).
iForm ar-lein newydd ar gyfer treuliau cyflogaeth TWE
Yn dilyn ein diweddariad blaenorol ‘Bwletin y Cyflogwr’, mae CThEF bellach wedi ailweithredu’r gallu i unigolion hawlio gostyngiad treth ar dreuliau gwaith, er enghraifft ffioedd tanysgrifio proffesiynol neu lwfans milltiredd, trwy ffurflen ar-lein.
Bu’n rhaid i ni newid dros dro i’r llwybr papur a phostio, rhwng 14 Hydref 2024 a diwedd Rhagfyr 2024, er mwyn ymateb i risg dreth gynyddol a yrrir gan hawliadau anghymwys am dreuliau cyflogaeth.
Mae angen i ni sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y rhyddhad treth y mae ganddynt hawl iddo mewn ffordd mor syml â phosibl. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn nodi lle nad yw cwsmeriaid yn gymwys a’u hatal rhag cael taliadau nad oes ganddynt hawl iddynt.
O 23 Rhagfyr 2024 ymlaen, cafodd cwsmeriaid wybod am lwybr ar-lein oedd ar gael. Gall unigolion sy’n dymuno hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth gyflwyno eu cais a thystiolaeth ategol gan ddefnyddio iForm ar-lein.
Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i gyflogeion unigol a allai fod wedi cael eu hatal rhag hawlio treuliau cyflogaeth oherwydd nad oes llwybr ar-lein ar gael dros dro.
Mae rhagor o wybodaeth am dystiolaeth sydd ei hangen i hawlio treuliau cyflogaeth TWE (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Rydym yn rhannu’r diweddariad hwn â chyflogwyr rhag ofn y bydd angen iddynt ddiweddaru eu harweiniad mewnol, yn enwedig y rhai nad ydynt yn ad-dalu treuliau i’w gyflogeion.
Diweddariad ar ofynion data ar oriau cyflogeion
Ni fydd yn rhaid i gyflogwyr bellach ddarparu data manylach am oriau cyflogeion i CThEF o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae’r llywodraeth wedi gwrando ar fusnesau ac wedi gweithredu ar eu hadborth am y baich gweinyddol y byddai gofynion data TWE (Talu Wrth Ennill) yn ei achosi.
Yn flaenorol, cynigiodd y llywodraeth y gofyniad am ddata manylach ar oriau cyflogeion a ddarparwyd trwy ffurflenni TWE Gwybodaeth Amser Real (RTI), yn ogystal â gofynion ar gyfer dyddiadau dechrau a gorffen hunangyflogaeth ac incwm difidend a delir i reolwyr perchnogion cwmnïau yn eu busnesau eu hunain, y ddau a ddarparwyd trwy ffurflenni Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA). Mae’r gofynion data ITSA arfaethedig yn mynd yn ei flaen a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2025 fel y cynlluniwyd, ond ni fydd y gofynion TWE yn cael eu datblygu.
Mae’r llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i drawsnewid data a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar fentrau eraill sy’n darparu gwell data, gan gynnwys Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer ITSA, digideiddio ardrethi busnes, a buddsoddi yn ein seilwaith TG.
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Ceir cwmni — dosbarthiad o gerbydau cab dwbl
Yn dilyn cyhoeddiadau Cyllideb yr Hydref 2024 y Llywodraeth, mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad newydd ynghylch newid yn y dehongliad o sut y dylid dosbarthu cerbydau cab dwbl (DCPU) ar gyfer buddiannau ceir, lwfansau cyfalaf a rhai didyniadau o ddibenion elw busnes.
Mabwysiadwyd y driniaeth bresennol o gerbydau DCPU fel yr amlinellir yn o’r Llawlyfr Treth Incwm Cyflogaeth EIM23150 (yn agor tudalen Saesneg) o 2002 ymlaen ac mae’n seiliedig ar lwyth tâl. Mae’r prawf manwl gytbwys hwn yn anghyson â phenderfyniad y Llys Apêl yn Payne & Ors (Coca-Cola) v R & C Commrs (2020) (BTC19) a sefydlodd nad yw ymyl cul o addasrwydd yn ddigonol i benderfynu bod cerbyd yn addas at ddiben penodol yn bennaf. Penderfynodd hefyd, mewn achosion lle nad oes modd nodi cerbyd yn glir fel un sy’n addas ar gyfer cario nwyddau yn bennaf, mai’r diofyn ddylai fod y cerbydau yn geir.
Mae arweiniad newydd ar gyfer buddiannau ceir, sy’n rhan o’r Llawlyfr Treth Incwm Cyflogaeth EIM23151 (yn agor tudalen Saesneg), yn egluro na fydd CThEF yn defnyddio’r prawf llwyth tâl hwn o 6 Ebrill 2025 ymlaen i benderfynu a yw DCPU yn addas ar gyfer cludo nwyddau neu faich yn bennaf. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, mae’n rhaid asesu cerbyd yn ei gyfanrwydd pan fydd ar gael i benderfynu a oes gan adeiladu’r cerbyd addasrwydd sylfaenol. Mae’r arweiniad hefyd yn rhoi gwybodaeth am y trefniadau trosiannol ar gyfer DCPUs sydd wedi’u prydlesu, a brynwyd neu a archebwyd cyn 6 Ebrill 2025.
At ddibenion lwfans cyfalaf mae arweiniad newydd ar gael yn Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf (CA23511) (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn esbonio’r newid mewn triniaeth ar gyfer gwariant a dynnwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025 ar gyfer Treth Gorfforaeth a 6 Ebrill 2025 ar gyfer Treth Incwm. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau trosiannol, ar gyfer contractau yr ymrwymwyd iddynt cyn y dyddiadau hyn yn ymwneud â gwariant a dynnwyd cyn 1 Hydref 2025. Gellir dod o hyd i’r arweiniad diwygiedig ar gyfer didyniadau o elw busnes yn Llawlyfr Incwm Busnes (BIM47730) (yn agor tudalen Saesneg) a Llawlyfr Incwm Busnes (BIM70035) (yn agor tudalen Saesneg).
Ehangu’r sail arian parod
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd newidiadau i’r sail arian parod a fydd yn ei gwneud hi’n haws i lawer o fusnesau ei ddefnyddio. Mae’r terfyn trosiant uchaf blaenorol, a’r cyfyngiadau ar gyfer busnesau sy’n gwneud colled ac ar gyfer taliadau llog yn cael eu dileu o’r Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2024 i 2025, sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2026. Os yw busnesau am ddefnyddio cyfrifyddu croniadau traddodiadol, neu os ydynt wedi’u heithrio rhag defnyddio’r sail arian parod, bydd angen iddynt optio allan o’r arian parod wrth gyflwyno eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2024 i 2025, a blynyddoedd dilynol. Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i’r sail arian parod ar gyfer incwm masnachu yn unig, ac nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r sail arian parod ar gyfer busnesau eiddo.
Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2025 ymlaen
Defnyddir y Gyfradd Llog Swyddogol (ORI) i gyfrifo’r tâl Treth Incwm ar fuddiant benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac ar fuddiant trethadwy rhai llety byw sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.
Cyhoeddodd y llywodraeth yng Nghyllideb yr Hydref 2024 na fydd yr ymrwymiad cyhoeddus blaenorol a wnaed ym mis Ionawr 2000 i beidio â chynyddu’r gyfradd yn ystod y flwyddyn dreth bellach yn berthnasol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gall yr ORI cynyddu, gostwng neu gael ei gadw’r un fath trwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gyfradd yn parhau i gael ei hadolygu bob chwarter. Bydd unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn digwydd yn dilyn adolygiad chwarterol, lle bo hynny’n briodol. Os oes unrhyw newidiadau i’r gyfradd, bydd y rhain yn dod i rym ar 6 Ebrill, 6 Gorffennaf, 6 Hydref a 6 Ionawr. Bydd unrhyw newidiadau i’r gyfradd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar drefniadau benthyciadau buddiannol — cyfraddau swyddogol CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd y newid hwn yn cynyddu tegwch ar draws y system dreth drwy alluogi’r ORI i gynyddu yn ystod y flwyddyn lle bo hynny’n briodol, gan sicrhau bod benthyciadau buddiannol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a llety byw yn cael eu prisio’n gywir.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghyllideb yr Hydref 2024 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg).
Sut bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr
Os ydych yn darparu benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth neu lety byw i’ch cyflogeion, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn y dyfodol. O 6 Ebrill 2025 ymlaen, gallai’r gyfradd gynyddu yn ystod y flwyddyn a fydd yn effeithio ar werth trethadwy’r buddiannau a roddwch.
Arweiniad wedi’i ddiweddaru — gwiriwch eich cyflogres ar gyfer cyflogeion benywaidd sy’n talu llai o Yswiriant Gwladol
Mae CThEF wedi ychwanegu mwy o wybodaeth at arweiniad i helpu cyflogwyr i wirio cymhwystra cyflogeion sy’n talu cyfradd is Yswiriant Gwladol gwragedd priod a gweddwon, a elwir weithiau’n ‘stamp bach’.
Mae’n rhaid i chi wirio bod dyddiad geni a rhyw eich cyflogai’n gywir a’u bod yn gymwys i dalu’r gyfradd is o Yswiriant Gwladol cyn i chi gyflwyno trwy’r gyflogres. Os yw cyflogai benywaidd yn rhoi ffurflen ‘tystysgrif dewis’ i chi, mae’n bosibl y bydd yn gallu talu llai o Yswiriant Gwladol. Gwiriwch y manylion ar y dystysgrif yn erbyn yr arweiniad diwygiedig.
Mae’r arweiniad diwygiedig cyflogres ar gyfer cyflogeion benywaidd sy’n talu llai o Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) bellach yn nodi y gallai menywod priod a aned cyn 6 Ebrill 1961 ddewis talu llai o Yswiriant Gwladol tan 1977 pan ddaeth y cynllun i ben. Os bydd eich cyflogai’n optio i mewn cyn iddo ddod i ben, gall barhau i dalu cyfradd is.
Mae arweiniad ar ba lythrennau categori Yswiriant Gwladol y mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyniad cyflogres eich cyflogai ar y gyfradd ostyngedig hefyd yn cael eu diweddaru a’u hesbonio yn arweiniad gyflogres gyffredinol. Mae hyn yn dangos y gwahanol lythrennau categori y mae’n rhaid i chi eu defnyddio ar gyfer cyflogeion cymwys sy’n talu’r gyfradd is, yn ôl eu gweithle.
Mae’r gyfradd Yswiriant Gwladol a’r tabl llythrennau categorïau (yn agor tudalen Saesneg) hefyd yn cael eu diweddaru i nodi mai dim ond cyflogeion cymwys ddylai gael y llythyren gategori Yswiriant Gwladol ar gyfer talu cyfradd is y gwragedd priod a gweddwon, yn ôl ble maent yn gweithio.
Bydd y mwyafrif yn defnyddio categori B ar gyfer y gyfradd is. Y categorïau a’r llythrennau ychwanegol i’w defnyddio lle byddai’r gyfradd is hon yn berthnasol i’r rhai sy’n gymwys yw:
-
E — os ydych yn hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol Parthau Buddsoddi
-
I — os ydych yn hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol Porthladdoedd Rhydd
-
T — os ydych yn forwr ar long sy’n mynd dramor
Mae gwybodaeth ychwanegol hefyd wedi’i chynnwys yn yr arweiniad cysylltiedig ‘Os yw’ch cyflogai’n rhoi’r gorau i dalu llai o Yswiriant Gwladol’ ar y camau y mae angen i chi eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys newid llythyren gategori Yswiriant Gwladol eich cyflogai yn eich meddalwedd cyflogres, fel arfer i A, neu fel a ganlyn:
-
N — os ydych yn hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol Parthau Buddsoddi
-
F — os ydych yn hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol Porthladdoedd Rhydd
-
V — os ydych yn hawlio rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyn-filwyr
-
R — os ydych yn forwr ar long sy’n mynd dramor
Dylai cyflogwyr wirio dyddiad geni a rhyw cyflogai yn ogystal â’r ‘dystysgrif dewis’ wrth roi gwybod am y gyflogres ar gyfer cyfradd is y gwragedd priod a gweddwon. Os oes angen i chi gywiro llythyren gategori Yswiriant Gwladol cyflogai, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda rhedeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda sicrwydd cadwyni cyflenwi llafur
Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gyda sicrwydd cadwyni cyflenwi llafur — GfC12 (yn agor tudalen Saesneg) newydd. Mae’r canllawiau wedi’u cynllunio ar gyfer sefydliadau mwy yn haenau uchaf cadwyn gyflenwi llafur. Fodd bynnag, gellir cymhwyso’r egwyddorion i’r rhan fwyaf o fusnesau.
Mae CThEF yn parhau i fynd i’r afael â diffygdalwyr treth mewn cadwyni cyflenwi llafur yn uniongyrchol. Mae llawer o risgiau’n codi lle mae cyfleoedd i fanteisio ar gadwyni mwy o faint, gwerth uwch a mwy cymhleth. Mae gan CThEF pryderon am sut y gall y risgiau hyn effeithio ar faterion treth busnes ei hun.
Gall busnesau mwy cael eu heffeithio gan nifer o risgiau. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut y gall cwsmeriaid hunanasesu eu harferion sicrwydd eu hunain. Byddant yn helpu cwsmeriaid i nodi a chyfyngu ar effaith risgiau.
Y canllawiau:
-
esbonio beth yw cadwyni cyflenwi llafur a’r risgiau cysylltiedig
-
hyrwyddo pwysigrwydd sicrhau cadwyn gyflenwi llafur effeithiol
-
darparu cyngor ymarferol i’w ystyried wrth gynnal sicrwydd cadwyn gyflenwi llafur
Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Maent yn rhoi barn CThEF ar risgiau ar draws cyfundrefnau treth, ac sy’n gymhleth, yn anghyffredin , neu sy’n cael eu camddeall yn eang.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ein cyhoeddiadau eraill, ar gael ar Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).
Gwariant moduro perthnasol — cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Ym Mwletin y Cyflogwr mis Rhagfyr 2023, rhannodd CThEF yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y penderfyniad yn yr Uwch Dribiwnlys yn achos Wilmott Dixon a Laing O’Rourke. Canfu’r achos hwn fod taliadau lwfans car yn wariant moduro perthnasol.
Os bydd cyflogai’n gwneud milltiroedd busnes a bod taliadau milltiroedd o lai na’r gyfradd talu lwfans milltiroedd cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg) uchaf cymwys ar gyfer treth yn cael eu talu, ni fydd modd codi tâl ar bob un o’r lwfans car i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
Mae cyfrifiad swm cymwys yn pennu cyfanswm y gwariant moduro perthnasol y gellir ei dalu heb ddidyniadau. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn ddyledus ar daliadau Gwariant Moduro Perthnasol uwchlaw’r swm hwnnw.
Ad-daliadau — cyflogwyr
Dylid defnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI) i wneud cywiriadau. Mae arweiniad i gyflogwyr ar sut i ddatrys problemau gyda rhedeg y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys sut i wneud cywiriadau i ddidyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai ar gael.
Mae’r wybodaeth y dylid ei chadw yn cefnogi’r cywiriad, ar sail cyfnod cyflog yn cynnwys:
-
rhestr o’r cyflogeion, gyda’u rhifau Yswiriant Gwladol
-
tystiolaeth o nifer y milltiroedd busnes a gyflawnir gan bob cyflogai
-
swm y taliadau lwfans car a ddaeth i law’r cyflogeion hyn
-
manylion unrhyw daliadau gwariant moduro perthnasol eraill y mae’r cyflogeion wedi’u derbyn
-
y Prif Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd sy’n cael eu hadennill
Os na allwch wneud addasiad RTI, cysylltwch â WMBC.RMERepayments@hmrc.gov.uk i egluro pam nad yw hyn yn bosibl.
Byddwch wedyn yn cael dogfen i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol. Dylai cwsmeriaid ym mhoblogaeth Busnesau Mawr CThEF gysylltu â’u Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid.
Bydd y cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unig. Ni fyddwn yn gallu ymateb i ymholiadau eraill felly gwnewch yn siŵr bod y rhain yn cael eu hanfon i’r blwch post neu’r cyfeiriad priodol.
Ad-daliadau — cyflogeion
Dylai cyflogeion barhau i gysylltu â’u cyflogwr yn y lle cyntaf. Os nad yw’r cyflogwr yn gwneud cais am ad-daliad, bydd proses arferol CThEF ar gyfer hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol yn berthnasol. Mae rhagor o arweiniad ar hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol ar gael.
Bydd yr wybodaeth ategol sydd ei hangen yr un fath ag i gyflogwyr, mae hyn yn cynnwys:
-
tystiolaeth o nifer y milltiroedd busnes a gyflawnir gan y cyflogai
-
faint o daliadau lwfans car a gawsant
-
manylion unrhyw daliadau gwariant moduro perthnasol eraill y maent wedi’u cael
Dylai cyflogeion hefyd gadarnhau i CThEF nad yw eu cyflogwr yn gwneud cais am ad-daliad ar eu rhan.
Datganiadau Gwybodaeth Amser Real (RTI)
Os yw cyflogwyr yn talu milltiroedd ar lai na’r gyfradd talu lwfans milltiroedd cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer treth, mae angen newidiadau i sut mae eu ffurflenni RTI yn cael eu paratoi. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn cael eu didynnu pan fydd cyflogeion yn cael eu talu.
Mae hyn yn golygu y bydd swm y lwfans car y gellir ei godi i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn amrywio o fis i fis, yn dibynnu ar nifer y milltiroedd busnes a gyflawnir gan y cyflogai.
Mae hyn yn berthnasol p’un a yw cyflogwr wedi dewis hawlio ad-daliad am flynyddoedd blaenorol ai peidio.
Yn ddelfrydol, byddai milltiroedd cyflogai yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfrifiad gwariant moduro perthnasol yn y mis y cynhelir milltiroedd. Fodd bynnag, mae CThEF yn derbyn na all hyn ddigwydd bob amser oherwydd pryd cofnodir y milltiroedd. Felly, mae’n dderbyniol iddo gael ei adlewyrchu yn y cyfnod cyflog nesaf os yw’n ymarferol gwneud hynny.
Er enghraifft, byddai milltiroedd a wnaed ym mis Rhagfyr 2024 yn cael eu cofnodi ddiwedd mis Rhagfyr 2024 ac yna’u talu ym mis Ionawr 2025, ar ôl i ddyddiad cau’r gyflogres. Y cyfnod ymarferol cyntaf fyddai Chwefror 2025, felly byddai’r cyfrifiad o wariant moduro perthnasol ar gyfer mis Chwefror yn cynnwys y milltiroedd busnes o fis Rhagfyr ymlaen.
System Adrodd Dewisol Rhyddhad Lwfans Milltiroedd
Er mwyn cael rhyddhad treth, lle mae taliadau milltiroedd yn llai na’r gyfradd a gymeradwyir gan CThEF, mae angen i gyflogeion cyflwyno hawliadau i CThEF eu hunain.
Fodd bynnag, gall cyflogwyr optio i mewn i’r Cynllun Adrodd Dewisol Rhyddhad Lwfans Milltiroedd (MARORS) a rhoi gwybod i CThEF am daliadau milltiroedd a milltiroedd busnes eu cyflogai. Mae hyn yn fuddiol i gyflogeion gan nad oes angen iddynt anfon gwybodaeth ychwanegol i CThEF.
Byddai unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus i gyflogeion yn destun terfynau amser arferol.
Cysylltwch â CThEF i optio i mewn i MARORS (yn agor tudalen Saesneg).
Diwygio’r cyfnod sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth
O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth.
Er bod busnesau’n parhau i fod yn rhydd i ddewis eu dyddiad cyfrifyddu ac yn gallu paratoi cyfrifon i unrhyw ddyddiad yn y flwyddyn, os na fyddant yn gwneud hynny hyd at gyfnod rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill bydd angen iddynt ddosrannu elw o 2 gyfnod cyfrifyddu i’r flwyddyn dreth.
Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, bydd angen i chi ddatgan eich elw o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn 2022 i 2023 hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw ychwanegol, ar ôl rhyddhad gorgyffwrdd yn elw trosiannol. Yn ddiofyn, mae’r elw trosiannol hwn yn cael ei ledaenu’n gyfartal dros y 5 mlynedd nesaf gan gynnwys 2023 i 2024.
Os gwnaethoch gais i CThEF i ofyn am eich ffigwr rhyddhad gorgyffwrdd ar neu cyn y dyddiad cau cyflwyno o 31 Ionawr 2025 gan ddefnyddio ein hofferyn rhyddhad gorgyffwrdd, ond ni chawsom ymateb ac nid ydych wedi cyflwyno’ch ffurflen o hyd, mae gennych hyd at 28 Chwefror 2025 i’w cyflwyno gyda ffigur dros dro — neu ffigur terfynol os yw’n hysbys. Trwy wneud hynny, ni fyddwch yn wynebu cosb am gyflwyno’n hwyr, er y bydd llog yn dal i gronni o 1 Chwefror 2025 ymlaen ar symiau treth sy’n weddill. Yna, dylech ddiwygio’ch Ffurflen Dreth unwaith y bydd y ffigur terfynol yn hysbys. Gellir talu treth heb ei chyflwyno. Bydd y symiau a delir yn lleihau unrhyw log a godir.
Mae’n bosibl y bydd llawer o fusnesau yn ei chael hi’n haws paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth neu 5 Ebrill o 2024 ymlaen. Gall hyn wneud llenwi’r Ffurflen Dreth yn symlach gan na fydd angen defnyddio 2 set o gyfrifon i lenwi pob Ffurflen Dreth. Bydd cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar 31 Mawrth yn cael eu trin fel rhai sy’n cyfateb i’r rhai sy’n dod i ben ar 5 Ebrill ar gyfer pob busnes, gan gynnwys busnesau eiddo.
Mae arweiniad pellach ar sut i ddiwygio Ffurflenni Treth Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Mae arweiniad pellach i gael help gyda diwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Cyngor treth — peidiwch â chael eich dal wrthi gan arbed treth
Mae ein hymgyrch ‘peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg) yn helpu contractwyr i ddysgu sut i adnabod arwyddion arbed treth. Gan gynnwys sut i wirio eu cyflog i sicrhau eu bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Helpu i’w diogelu rhag arbed treth. Mae CThEF yn gofyn i chi rannu’r wybodaeth hon gyda’ch cyflogeion.
Mae’r fideo YouTube fer hon ar gyfer contractwyr sy’n defnyddio cwmnïau ambarél yn rhoi arweiniad ar-lein.
Mae’r offeryn rhyngweithiol hwn yn caniatáu i weithwyr wirio a allai eu contractau gynnwys arbed treth neu gyfrifo eu cyflog gan gwmni ambarél (yn agor tudalen Saesneg)
Mae straeon personol gan bobl sydd wedi cael eu dal mewn cynlluniau arbed treth, gan gynnwys fideo Youtube o stori Tanya hefyd ar gael
Gall contractwyr hefyd ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt i adael a rhoi gwybod am gynllun arbed treth. Ein nod yw eu cael yn ôl ar y trywydd cywir, heb farnu, i gynnig yr help sydd ei angen arnynt i ddod allan o’r cynllun a setlo eu materion treth.
Mae manylion cynlluniau arbed treth a’u hyrwyddwyr sydd angen eu hosgoi (yn agor tudalen Saesneg) hefyd yn cael eu cyhoeddi. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai fod rhai eraill nad ydym yn gallu cyhoeddi ar hyn o bryd. Cofiwch, nid yw CThEF ar unrhyw adeg yn cymeradwyo defnydd cynlluniau arbed treth.
Rydym yn eich annog i rannu ein hadnoddau cefnogol ein hymgyrch ar draws eich cylchlythyrau a’ch gwefannau. Gan gynnwys rhannu a hoffi ein negeseuon ar sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, LinkedIn a X (Twitter).
Taliadau i gyflogeion ar gyfer newidiadau cynllun pensiwn — y ddarpariaeth codi tâl cywir i wneud cais
Yn ddiweddar bu CThEF yn llwyddiannus yn achos y Llys Apêl HMRC v E.ON UK PLC [2023] EWCA Civ 1383.
Roedd yr achos yn ymwneud â chyflogwr yn gwneud newidiadau i’w gynllun pensiwn buddiannau diffiniedig a effeithiodd ar ddisgwyliadau pensiwn yn y dyfodol ond nid hawliau cronedig.
Yna, talodd y cyflogwr “Taliadau Hwyluso” i gyflogeion am gytuno i’r newidiadau.
Dyfarnodd y Llys Apêl fod y taliadau’n deillio o’r gyflogaeth ac felly maent yn cael eu hystyried yn drethadwy fel enillion.
Mae dyfarniad y Llys Apêl yn cadarnhau barn CThEF y dylid ystyried unrhyw daliad sy’n gysylltiedig â newid i delerau ac amodau cyflogai, gan gynnwys newidiadau pensiwn, fel taliad enillion a threth net sydd wedi’i dalu a didyniadau.
Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol Statudol
Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno hawl statudol newydd i Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol o 6 Ebrill 2025 ymlaen. Bydd hyn yn rhoi hawl cyflogaeth diwrnod cyntaf i rieni cyflogedig y mae eu babanod yn mynd i ofal newydd-anedig gymryd hyd at 12 wythnos i ffwrdd o’r gwaith, yn dibynnu ar faint o amser y mae eu babi mewn gofal newydd-enedigol. Bydd gan rieni cymwys hawl hefyd i hyd at 12 wythnos o dâl statudol.
Gosododd yr Adran Busnes a Masnach y rheoliadau i weithredu’r hawl hon ym mis Ionawr 2025. Yn amodol ar gytundeb Seneddol, bydd yr hawl newydd yn berthnasol i fabanod a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.
Ceir crynodeb o’r hawl yn yr adrannau canlynol. Bydd arweiniad llawn ar gael yn fuan.
Cymhwystra
Bydd hyn ar gael i ystod eang o ‘rieni’, gan gynnwys rhieni mabwysiadol, rhieni sy’n maethu i fabwysiadu a’r rhieni arfaethedig mewn trefniadau mam fenthyg.
Bydd gan rieni cyflogedig y mae eu babanod yn mynd i ofal newydd-enedigol hyd at 28 diwrnod, ac sydd ag arhosiad parhaus o saith diwrnod llawn neu fwy, hawl i adael fel hawl cyflogaeth diwrnod cyntaf. Bydd rhieni cymwys yn gallu cymryd o leiaf wythnos, ac uchafswm o 12 wythnos, yn dibynnu ar ba mor hir y mae eu babi mewn gofal newydd-anedig. Mae hyn ar ben eu hawliau rhieni eraill fel absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac ar y cyd i rieni.
Er mwyn i rieni cymwys hefyd fod yn gymwys i gael Tâl Statudol Gofal Newydd-enedigol Profedigaeth, mae’n rhaid iddynt hefyd fodloni parhad gwasanaeth a phrofion isafswm enillion. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r cyflogai cymwys fod wedi gweithio i’w gyflogwr am o leiaf 26 wythnos sy’n dod i ben â’r wythnos berthnasol ac ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd cyn treth o fis Ebrill 2025 ymlaen.
Gofynion rhybudd a gwybodaeth
Gellir cymryd absenoldeb a thâl mewn 2 haen, Haen 1 a Haen 2. Eglurir y gofynion rhybudd a thystiolaeth ar gyfer y canlynol:
Haen 1 — cyfnod pan fo’r plentyn yn dal i gael gofal newydd-enedigol, ac yn cynnwys wythnos ar ôl i’r gofal ddod i ben.
Haen 2 — cyfnod y tu allan i gyfnod Haen 1 a chyn diwedd 68 wythnos o ddyddiad geni’r plentyn.
Cyfnodau rhybudd Absenoldeb Gofal Newydd-anedig
Bydd angen i gyflogai roi rhybudd i gymryd Absenoldeb Gofal Newydd-enedigol (NCL). Bydd hyd a fformat yr hysbysiad am absenoldeb yn amrywio yn dibynnu a yw’r cyflogai’n bwriadu cymryd absenoldeb yn Haen 1 neu Haen 2.
Ar gyfer absenoldeb a gymerir yn Haen 1, bydd angen i’r cyflogai roi gwybod i’w gyflogwr cyn y byddent i fod i ddechrau gweithio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Nid oes rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig.
Ar gyfer absenoldeb a gymerir yn Haen 2, bydd angen i’r cyflogai roi rhybudd o leiaf 15 diwrnod cyn dechrau cyfnod o wythnos o absenoldeb. Am gyfnod o 2 wythnos neu fwy o absenoldeb, bydd angen i’r cyflogai roi rhybudd o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau’r absenoldeb. Mae’n rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig.
Cyfnodau rhybudd Tâl Gofal Newydd-anedig
Mae’n rhaid i gyflogai roi hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer Tâl Gofal Newydd-enedigol (NCP) Haen 1 cyn pen 28 diwrnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos y mae NCP yn cael ei hawlio.
Ar gyfer NCP Haen 2, mae’n rhaid i gyflogai roi hysbysiad o leiaf 15 diwrnod ymlaen llaw er mwyn hawlio tâl am wythnos o absenoldeb. Mae’n rhaid rhoi rhybudd o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw i hawlio tâl am 2 wythnos neu fwy o absenoldeb.
Gofynion gwybodaeth Absenoldeb Gofal Newydd-enedigol a Thâl Gofal Newydd-anedig
Ar yr un pryd, i gael absenoldeb a/neu dâl am absenoldeb a gymerir naill ai yn Haen 1 neu Haen 2, mae’n rhaid i gyflogai roi’r wybodaeth ganlynol i’r cyflogwr:
-
enw’r cyflogai
-
dyddiad geni’r plentyn
-
os yw’n berthnasol, dyddiad lleoliad y plentyn gyda’r mabwysiadwr neu’r darpar fabwysiadwr.
-
os yw’n berthnasol, dyddiad mynediad y plentyn i Brydain Fawr i fyw gyda’r mabwysiadwr tramor.
-
y dyddiad y dechreuodd y plentyn gael gofal newydd-anedig, neu bob dyddiad os oedd y plentyn yn derbyn gofal newydd-enedigol ar 2 achlysur neu fwy ar wahân
-
os nad yw’r plentyn bellach yn derbyn gofal newydd-enedigol, y dyddiad y daeth y gofal i ben.
-
os mai dyma’r tro cyntaf i hysbysiad gael ei roi, datganiad bod y cyflogai’n bodloni’r meini prawf perthynas rhieni
-
bod y cyflogai wedi gofalu am y plentyn neu’n bwriadu gofalu amdano yn ystod yr wythnos neu wythnosau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â nhw
Mae Deddf Gofal Newydd-enedigol (Absenoldeb a Thâl) 2023 (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol i Brydain Fawr yn unig. Ar hyn o bryd, ni chyflwynwyd unrhyw ddeddfwriaeth i gyflwyno Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-anedig yng Ngogledd Iwerddon, felly ni fydd y mesur yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r dyddiad cau yn agosáu — helpu’ch cyflogeion i ychwanegu at eu Pensiynau Gwladol
Mae gan eich cyflogeion hyd at 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnodion Yswiriant Gwladol yn ôl i 6 Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth. Ar ôl 5 Ebrill 2025, dim ond am y chwe blynedd dreth flaenorol y byddant yn gallu llenwi bylchau.
Mae ap CThEF a’n gwasanaeth ar-lein yn galluogi’r rhan fwyaf o gwsmeriaid i wneud y canlynol yn gyflym ac yn hawdd:
-
gwirio a oes bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol, dysgwch ragor am wirio eu cofnod am fylchau yn Yswiriant Gwladol gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
-
dysgu a fyddai gwneud taliad yn cynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth ac yna’n gwneud taliad os yw’n bosibl
Mae dewis yr opsiwn ‘talu trwy gyfrif banc’ yn golygu y bydd ond yn cymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i’w taliad ddangos yn eu cofnod Yswiriant Gwladol.
Dylech roi gwybod i’ch cyflogeion a’u hannog i weithredu nawr.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
- argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
- i gadw’r ddogfen fel PDF:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
- ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.