Bwletin y Cyflogwr: Mehefin 2023
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau — nodi ceir cwmni diesel yn gywir
- dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu
- dyddiadau cau Cytundeb Setliad TWE (PSA) a gwasanaethau digidol
- gwneud hawlio Budd-dal Plant yn haws ac yn gyflymach i rieni newydd
- sut mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn helpu busnesau i ddod i’r afael â risgiau o seibrdroseddu
- cadw Rhifau Yswiriant Gwladol i’r Waled Apple
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.