Canllawiau

Rhifyn Mehefin 2023 o Fwletin y Cyflogwyr

Cyhoeddwyd 14 June 2023

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Talu TWE y cyflogwr

I sicrhau fod taliad yn cael ei ddyrannu i’r mis neu’r rhwymedigaeth gywir yr oeddech yn bwriadu eu talu, cofiwch gynnwys eich cyfeirnod y swyddfa gyfrifon 13 cymeriad, fel y cyfeirnod talu.

Gallwch ddod o hyd i hyn:

  • yn eich cyfrif CThEF ar-lein
  • ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
  • ar flaen eich llyfryn talu, os oes gennych un

Bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr, bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif ychwanegol at ddiwedd eich cyfeirnod y swyddfa cyfrifon 13 cymeriad. Os ydych yn talu’n fisol, y 4 digid bydd angen i chi ychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod 13 cymeriad yw:

  • 2 rhif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis neu chwarter y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer

Er enghraifft, os ydych yn gwneud taliad am y mis o 6 Mai 2023 i 5 Mehefin 2023, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon yw 2402. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn gorffen yn 2024 = 24
  • y mis rydych yn gwneud taliad ar ei gyfer (6 Mai 2023 i 5 Mehefin 2023) yw’r ail fis ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024 = 02

Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy’n cwmpasu 6 Ebrill 2023 i 5 Gorffennaf 2023, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon yw 2403. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn gorffen yn 2024 = 24
  • mae’r chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Ebrill 2023 i 5 Gorffennaf 2023) yn dod i ben yn ystod y trydydd mis blwyddyn dreth 2023 i 2024 = 03

Os ydych yn talu’n flynyddol, y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod y swyddfa gyfrifon 13 digid yw:

  • 2 rhif olaf y flwyddyn dreth mae’ch taliad ar ei chyfer
  • mis y flwyddyn dreth y taloch eich cyflogeion

Os ydych yn talu drwy’r gwasanaeth treth ar-lein, bydd yn cyfrifo’r rhifau i chi.

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau — nodi ceir cwmni diesel yn gywir

O 2019 i 2020 mae’r Taflen Waith P11D 2 ar gyfer buddiant car a thanwydd car (yn Saesneg) yn egluro y dylid nodi ceir diesel sy’n bodloni’r safon Ewro 6d fel Car Math F ym mlwch priodol y ffurflen P11D.

Rhoddodd CThEF eglurhad ar hyn yn rhifyn Mehefin 2022 o Fwletin y Cyflogwyr. Fodd bynnag, mae rhai ceir nad ydynt yn cwrdd ag Allyriadau Gyrru Gwirioneddol (RDE) 2 ac, felly, safon Ewro 6d, yn parhau i gael eu nodi’n anghywir fel Math F.

I fod yn gymwys ar gyfer hepgor yr atodiad diesel 4%, mae’n rhaid i’r car fodloni safonau RDE 2.

Os defnyddir Math F yn lle D ar gyfer ceir nad ydynt yn cyrraedd y safon hon, yna ni fydd y tâl ychwanegol o 4% ar Fuddiant yn cael ei gymhwyso. Bydd hyn yn arwain at dandaliad treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Bydd angen i chi wirio’r RDE ar gyfer unrhyw geir rydych chi’n eu hadrodd fel Math F. Dylai’r rhain fod â RDE o 2 wedi’i nodi ar lyfr log y cerbyd (V5C) neu gallwch hefyd wirio drwy ymweld â thudalen gwybodaeth cerbydau y DVLA. Os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf, dylid eu nodi fel Math D.

Dylai pob car newydd a werthir o Ionawr 2021 ymlaen fodloni safonau RDE 2, felly nid oes angen gwirio unrhyw geir sydd wedi’u cofrestru ar ôl 1 Mawrth 2021.

Darllenwch ragor o wybodaeth am gyfrifiadau buddiant car yn y Llawlyfr Incwm Cyflogaeth (yn Saesneg).

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu

Yn rhifyn mis Ebrill 2023 o Fwletin y Cyflogwr, gwnaethom gynnwys gwybodaeth fanwl ar gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) i CThEF o 6 Ebrill 2023 ymlaen.

Mae CThEF wedi newid y ddeddfwriaeth i fandadu cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd wedi newid i fandadu cyflwyno unrhyw ffurflenni diwygiedig drwy ddefnyddio ffurflen electronig newydd y gellir cael ati drwy’r dudalen treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr.

Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni P11D a P11D(b) papur mwyach. Mae hyn yn cynnwys rhestrau. Caiff y ffurflen bapur ei gwrthod ar sail y ffaith na chafodd ei chyflwyno i CThEF yn y ffordd cywir. Bydd y cyflogwr neu’r asiant yn cael hysbysiad bod y ffurflen wedi’i gwrthod, a bydd yn cael ei gyfeirio at y broses gywir

Bydd angen i chi roi gwybod i ni erbyn 6 Gorffennaf 2023 fan bellaf am unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023. Bydd angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni P11D ear neu cyn 6 Gorffennaf 2023 hefyd. Gall methu gwneud hynny arwain at gosb. Mae’n rhaid i unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ein cyrraedd ar neu cyn 22 Gorffennaf 2023.

Gwyliwch y gweminar am gyflwyno’ch P11D a P11D (b) ar-lein (yn Saesneg).

Dysgwch ragor am sut i gwblhau P11D a P11D (b).

Defnyddio’r cyfeirnod talu cywir wrth dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.

Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2313. Ni ddylai’r cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.

Mae’n bwysig ychwanegu 2313 oherwydd mae ‘23’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar Dydd Mercher, 5 Ebrill 2023, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr ar gael.

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b)

Bydd angen i chi ddefnyddio un o’r dulliau ar-lein cyflym a hawdd canlynol:

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.

Darllenwch ragor o wybodaeth am dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr.

Yr hyn i’w gyflwyno

Os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio, neu os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt – neu bob un – drwy gyflogau’ch cyflogeion.

Defnyddir y P11D(b) i roi gwybod am rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A unrhyw gyflogwr.

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni ar-lein cyn 6 Ebrill 2022 i drethu’r rhain drwy’ch cyflogres.

Os na wnaethoch gofrestru ar-lein ond yna aethoch ymlaen i drethu rhai buddiannau – neu bob un – drwy’ch cyflogres, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar-lein ar gyfer yr holl fuddiannau na chawsant eu talu drwy’r gyflogres.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar-lein i dalu’ch buddiannau cwmni drwy’r gyflogres, efallai yr hoffech wneud hynny nawr, cyn blwyddyn dreth 2024 i 2025. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi gyflwyno ffurflenni P11D mwyach, os gallwch dalu’ch holl fuddiannau drwy’r gyflogres.

Ers 6 Ebrill 2023, nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol.

Yr hyn i’w wneud os na wnaethoch dalu unrhyw dreuliau na buddiannau

Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch ddatgan i CThEF nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) yn gywir

Dyma rai camgymeriadau cyffredin y dylid eu hosgoi:

  • peidiwch â rhoi ‘6 Ebrill 2022’ fel y dyddiad dechrau na ‘5 Ebrill 2023’ fel y dyddiad dod i ben ar gyfer eich ceir cwmni, oni bai mai dyna’n union beth oedd y dyddiadau pan wnaeth eich cyflogai gael neu ddychwelyd car cwmni
  • rhaid cyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd – ni allwch gyflwyno ar draws sawl diwrnod, a dylech gwblhau pob ffurflen P11D a P11D(b) cyn eu cyflwyno
  • wrth roi gwybod am gar sy’n gwbl drydanol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy
  • wrth roi gwybod am gar hybrid gyda ffigur allyriadau CO2 cymeradwy sydd rhwng 1 a 50, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy
  • anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig fesul cynllun, a dangoswch y cyfanswm sy’n ddyledus. Peidiwch ag anfon ffurflenni ar wahân ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr, gan ein bod yn trin pob ffurflen P11D(b) wahanol fel diwygiad i unrhyw ffurflen sydd eisoes wedi ein cyrraedd
  • gwiriwch y ffurflen P11D(b) i weld a oes angen i chi ddefnyddio’r adran ‘addasiadau’

Problemau gyda chyfrifiannell treth car cwmni Ebrill 2023

Cawsom broblem o ran sut roedd y gyfrifiannell yn cyfrifo buddiant tanwydd ar gyfer 2023 i 2024. Mae’r broblem hon wedi’i datrys ers 14 Ebrill 2023. Os gwnaethoch ddefnyddio’r gyfrifiannell i gyfrifo buddiant tanwydd rhwng 6 Ebrill 2023 a 14 Ebrill 2023, efallai y bydd angen i chi wirio bod eich cyfrifiadau’n gywir. Gellir dod o hyd i’r cyfrifiad tanwydd ar gyfer 2023 i 2024 ar y dudalen ynghylch cyfrifo treth ar geir cwmni cyflogeion (yn Saesneg).

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r gyfradd cyflog isaf sydd rhaid talu gweithiwr yr awr yn ôl y gyfraith. Does dim ots faint o weithwyr yr ydych yn eu cyflogi, mae’n rhaid i chi dalu’r isafswm cyflog cywir.

Mae’r cyfraddau presennol ar gyfer 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 i’w cael ar y dudalen Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Fodd bynnag, nid yw mor syml a gwneud yn siŵr bod y gyfradd isafswm cyflog cywir wedi’i thalu. Mae nifer o ffyrdd y gall tandaliadau ddigwydd pan wneir cyfrifiadau isafswm cyflog. Mae problemau cyffredin yn cynnwys amser gweithio heb ei dalu, amser teithio heb ei dalu a didyniadau o dâl am eitemau neu dreuliau sy’n gysylltiedig â’r swydd.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y problemau cyffredin a all ddod â gweithwyr o dan yr isafswm cyflog ar gael (yn Saesneg).

Cyflogi intern neu unrhyw un ar brofiad gwaith

Mae’n bwysig sefydlu natur y berthynas rhwng yr unigolyn a’r cyflogwr wrth benderfynu a yw’r unigolyn yn weithiwr ai peidio at ddibenion isafswm cyflog.

Nid yw hawl i’r isafswm cyflog yn dibynnu ar sut mae rôl rhywun yn cael ei diffinio gan eu cyflogwr.

Interniaid

Mae deall ar adegau, bod interniaethau yn swyddi sy’n gofyn am lefel uwch o gymhwyster na mathau eraill o brofiad gwaith ac maent yn gysylltiedig ag ennill profiad ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Er nad oes diffiniad o’r term intern yn neddfwriaeth isafswm cyflog, os oes unrhyw daliad yn cael ei wneud am waith a wneir, mae intern yn debygol o gael ei ystyried i fod yn weithiwr at ddibenion isafswm cyflog. Gall intern hefyd gael ei ystyried fel gweithiwr os bydd contract o waith neu dâl yn y dyfodol yn cael ei addo iddynt.

Profiad gwaith

Mae’r term profiad gwaith yn cyfeirio’n gyffredinol at gyfnod penodol y mae person yn ei dreulio gyda busnes, gan roi cyfle iddynt ddysgu’n uniongyrchol am fywyd gwaith a’r amgylchedd gwaith.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK:

Gwyliwch y gweminarau ar nifer o wahanol bynciau megis elfennau cyflog, amser gweithio a phrentisiaid (yn Saesneg).

Dyddiad cau Cytundeb Setliad TWE (PSA) a gwasanaethau digidol

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE (PSA) yw ar neu cyn 5 Gorffennaf 2023. Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein newydd – mae’n gyflym ac yn hawdd! Darllenwch ragor am sut i wneud cais ar-lein neu sut i roi gwybod i ni am werth yr eitemau sydd wedi’u cynnwys mewn PSA.

Yr hyn sydd angen i chi wybod ynglŷn â PSAs:

  • mae’r dyddiad cau, sef 5 Gorffennaf, yn dilyn y flwyddyn dreth gyntaf y mae’n berthnasol iddi – er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd gennych hyd at 5 Gorffennaf 2023 i wneud cais am eich PSA
  • os oes gennych gytundeb yn ei le, bydd yn rhaid i chi anfon cyfrifiad, hyd yn oed os yw’n ddatganiad ‘dim’
  • mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch erbyn 22 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth y mae’r PSA yn berthnasol iddi (erbyn 19 Hydref os ydych yn talu drwy’r post)
  • dylech ond rhoi gwybod am fuddiannau neu dreuliau sydd wedi’u cynnwys yn y PSA
  • mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyflogai a gafodd y buddiannau neu’r treuliau, gan gynnwys unrhyw gyflogai a enillodd lai na’r lwfans treth personol

Os ydych yn anfon ffurflen drwy’r post, gwiriwch eich bod yn defnyddio’r ffurflen gywir. Mae’n bosibl y bydd cyflogeion sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban, yn destun cyfraddau gwahanol o Dreth Incwm.

Y diweddar am Ddebydau uniongyrchol cyflogwyr

Hoffwn atgoffa cyflogwyr sy’n trefnu Debyd Uniongyrchol rheolaidd i dalu TWE y Cyflogwr bod angen iddynt wneud hyn o leiaf 6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus. I gyflogwyr sy’n talu’n fisol, mae hwn yn syrthio ar yr 22ain o bob mis.

Gallwch drefnu hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes.

Rydym wedi newid y system fel na fydd cyflogwyr bellach yn cael hysbysiad am dalu’n hwyr os ydynt yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Os byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif rhwng y 23ain a’r dyddiad y cymerir y taliad o’ch cyfrif, mae’n bosibl y gwelwch log yn cael ei godi am dalu’n hwyr. Ond bydd hwn yn cael ei wrthdroi unwaith i’r taliad gael ei brosesu.

Os oes gennych asiant treth, mae’n bwysig nodi na all drefnu Debyd Uniongyrchol ar eich rhan. Er mwyn gwneud hyn eich hun, bydd angen i chi ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein i Gyflogwyr.

Mae llawer o gyflogwyr sydd ag asiant sy’n anfon data gwybodaeth amser real ar eu rhan heb ymrestru. Hyd yn oed os oes gennych asiant sy’n gweithredu a chyflwyno’r gyflogres ar eich rhan, gallwch drefnu a defnyddio TWE Ar-lein i Gyflogwyr eich hun.

Mynediad haws at wasanaethau ar-lein i gyflogwyr

Mae CThEF wedi lansio gwasanaeth ar-lein a fydd yn helpu cyflogwyr i ateb eu hymholiadau’n gyflymach.

Os byddwch yn ffonio CThEF am ymholiad arferol y gellir ei ddatrys yn syml drwy ein gwasanaethau digidol, anfonir neges destun atoch yn eich cyfeirio ar-lein heb fod angen siarad ag ymgynghorydd.

Yn dilyn treial llwyddiannus diweddar gyda chwsmeriaid CThEF, rydym yn ehangu’r gwasanaeth hwn i gyflogwyr.

Os ydych chi, neu’ch cyflogeion, angen cyngor ar unrhyw un o’r pynciau canlynol, defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein i wneud y canlynol:

Bydd CThEF yn diweddaru GOV.UK gyda gwybodaeth am wasanaethau sy’n defnyddio cysylltiadau neges destun i helpu i dawelu meddwl ein cwsmeriaid bod negeseuon sy’n dod i law yn ddilys. Gallwch wirio a yw neges destun sydd wedi dod i law gan CThEF yn ddilys.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Cynnydd yn nhâl y bwrsari prentisiaethau i bobl sy’n gadael gofal

Mae’r Adran Addysg (DfE) wedi cyhoeddi y bydd y bwrsari sydd ar gael i’r rhai sy’n gadael gofal rhwng 16 a 24 oed, sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, yn cynyddu o’r gyfradd dalu bresennol o £1,000 i £3,000. Mae’r bwrsari ar gael i unigolion sydd wedi bod yng ngofal awdurdod lleol unrhyw le yn y DU, cyn belled â bod y brentisiaeth y maent yn ymgymryd â hi wedi’i lleoli yn Lloegr.

Bydd y gyfradd uwch ar gael i’r rheini sy’n dechrau prentisiaeth am y tro cyntaf o 1 Awst 2023 ymlaen. Bwriad y cynnydd hwn yw cadw â chostau byw sy’n codi ac annog pobl ifanc, sy’n gadael gofal ac sy’n gymwys ar gyfer y bwrsari ar hyn o bryd, i ddechrau prentisiaeth. Bydd y bwrsari’n cael ei dalu mewn rhandaliadau drwy gydol blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.

Mae’r Adran Addysg yn cydnabod bod y rhai sy’n gadael gofal yn wynebu costau byw uwch na’u cyfoedion gan eu bod yn byw’n annibynnol o oedran iau ac efallai nad oes ganddynt rwydwaith teulu ehangach i roi cymorth iddynt. Bydd y gyfradd uwch yn helpu’r rhai mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal i gael mynediad at brentisiaethau a’u cwblhau, gan roi llwybr gwych iddynt at gyflogaeth gynaliadwy. Ni fydd y taliad yn effeithio ar hawl y sawl sy’n gadael gofal i hawlio credydau treth.

Bydd cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn parhau i gael £1,000 ychwanegol o gyllid ar gyfer pob prentis rhwng 16 a 24 oed sy’n gadael gofal.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am arweiniad bwrsari prentisiaethau i bobl sy’n gadael gofal (yn Saesneg).

Mae’r bwrsari yn rhydd o dreth

Yn 2020, cyflwynodd CThEF eithriad i sicrhau na fydd y bwrsari, i’r rhai sy’n gadael gofal ac sy’n dilyn prentisiaeth, yn destun Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG).

Mae hyn oherwydd bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gallu profi rhwystrau ychwanegol i gael prentisiaeth, ac roedd y llywodraeth eisiau cefnogi’r unigolion hyn gymaint â phosibl. Felly, cyflwynwyd yr eithriad i sicrhau bod y rhai sy’n cael y taliad hwn yn cael budd llawn y bwrsari. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y ffordd o drethu bwrsari i’r rhai sy’n gadael gofal ac sy’n ymgymryd â phrentisiaeth yr un fath â thriniaeth dreth bwrsari i’r rhai sy’n gadael gofal ac sy’n dechrau addysg uwch.

Mae diwygiad wedi’i wneud i reoliadau i sicrhau bod y taliad uwch yn parhau i fod wedi’i eithrio rhag Treth Incwm a Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar Dreth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol: eithriad i daliadau bwrsari i’r rheini sy’n gadael gofal (yn Saesneg).

Arweiniad ar statws cyflogaeth i fferyllyddion locwm i’w dynnu’n ôl o 30 Mehefin 2023 ymlaen

O 30 Mehefin 2023 ymlaen, byddwn yn diweddaru ein Canllaw Statws Cyflogaeth (yn Saesneg) i gael gwared ar arweiniad galwedigaethol penodol ar gyfer fferyllyddion locwm, gweler adrannau:

Mae diweddariadau i’r Canllaw Statws Cyflogaeth, ac argaeledd yr offeryn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST), wedi cael gwared ar yr angen am lawer o’n harweiniad galwedigaethol penodol.

Fel y nodir yn adran ESM4270, ni all dogfen ysgrifenedig ar ei phen ei hun benderfynu statws cyflogaeth. Felly, os yw busnes fferyllol wedi pennu statws cyflogaeth ar sail contract ysgrifenedig yn unig, dylai ail-archwilio’r penderfyniad hwnnw ar unwaith ar sail ffeithiau’r hurio gan ddefnyddio’r offeryn Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth.

Llinell gymorth ar gyfer Ymholiadau Cyflogwyr

Os oes gennych gwestiynau o hyd ynghylch pennu statws cyflogaeth ar ôl darllen ein harweiniad, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Newid i drothwy Hunanasesiad

O flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen, bydd y trothwy Hunanasesiad ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael eu trethu drwy TWE yn unig yn newid o £100,000 i £150,000.

Nid oes angen i gwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio wneud dim ar hyn o bryd gan fod y trothwy Hunanasesiad ar gyfer Ffurflen Dreth 2022 i 2023 yn parhau i fod yn £100,000. Os byddant yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2022 i 2023 sy’n dangos incwm rhwng £100,000 a £150,000 wedi’i drethu drwy TWE, ac nad ydynt yn bodloni unrhyw faen prawf arall ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, byddant yn cael llythyr gadael Hunanasesiad.

Bydd rhaid i gwsmeriaid gyflwyno Ffurflen Dreth o hyd ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, a’r blynyddoedd treth wedi hynny, os bydd eu hincwm a drethwyd trwy TWE o dan £150,000, ond maent yn bodloni un o’r meini prawf eraill ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, er enghraifft:

  • maent yn cael unrhyw incwm sydd heb ei drethu
  • maent yn bartner mewn partneriaeth fusnes
  • mae ganddynt rwymedigaeth i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • maent yn hunangyflogedig gydag incwm gros dros £1,000

Gall cwsmeriaid wirio a oes angen iddo anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gwarantau ar sail cyflogaeth – dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion

Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymhellion i gyflogeion.

Os ydych yn gweithredu cynllun ERS, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn, gan gynnwys datganiadau ‘dim’ (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan). Mae’n rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob cynllun sydd wedi’i gofrestru ar wasanaeth ERS ar-lein yn erbyn eich cynllun TWE.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn (ar neu cyn) 6 Gorffennaf 2023.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd cosb am gyflwyno’n hwyr o £100 yn cael ei hanfon i gyfeiriad y cyfrif TWE cysylltiedig.

Bydd cosbau awtomatig ychwanegol o £300 yn cael eu codi os nad ydych wedi cyflwyno’r datganiad cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad cau gwreiddiol, sef 6 Gorffennaf 2023. Bydd cosb arall o £300 yn cael ei chodi os yw’n dal yn ddyledus chwe mis ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd disgrifiad o’r tâl ar gyfer cosbau sy’n ymwneud â chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion yn cyfeirio at warantau ar sail cyflogaeth.

Os byddwch yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno datganiad ERS yn hwyr, bydd rhaid cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn o hyd i osgoi cosbau pellach.

Gwybodaeth bellach

Er mwyn cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn, mae’n rhaid eich bod eisoes wedi cofrestru’ch cynllun ar wasanaeth ERS ar-lein (yn Saesneg). Os yw cynllun wedi’i gofrestru ar gam, neu os nad yw’n gweithredu mwyach, bydd rhaid dod â’r cynllun i ben ar-lein. Ni all asiant wneud hyn, dim ond y cyflogwr all ddod â’r cynllun i ben ar-lein.

Unwaith y daw cynllun i ben, bydd rhaid cyflwyno datganiad blynyddol o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad olaf yn syrthio ynddi.

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Gorffennaf 2023, bydd y dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig, sef yr 22ain, ar ddydd Sadwrn. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis hwnnw’n ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF ar neu cyn 21 Gorffennaf 2023, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os bydd eich taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfyniadau amser eich banc neu gymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.

Darllenwch ragor am dalu TWE drwy ddull electronig.

Paratoi ar gyfer y sail blwyddyn dreth newydd – Hunanasesiad Treth Incwm

Mae’r rheolau y mae CThEF yn eu defnyddio er mwyn cyfrifo elw unig fasnachwyr a phartneriaid ar gyfer Treth Incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn newid i lawer o fusnesau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 ac ymlaen. Gallai’r newid hwn effeithio ar y Ffurflenni Treth y mae’n rhaid i drethdalwyr eu cyflwyno ar neu cyn 31 Ionawr 2025 a Ffurflenni Treth wedi hynny. Mae’r Canllaw Incwm Busnes (yn Saesneg) yn rhoi gwybodaeth bellach.

Nid yw’r newid hwn wedi’i effeithio gan yr oedi i gyflwyno’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022.

Bydd y diwygiad hwn dim ond yn effeithio ar drethdalwyr â dyddiad cyfrifyddu sy’n wahanol i 31 Mawrth neu 5 Ebrill.

O dan y rheolau newydd, o fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd busnesau’n cael eu trethu ar elw ar gyfer y flwyddyn dreth ac nid ar yr elw ar gyfer y flwyddyn gyfrifyddu sy’n dod i ben yn y flwyddyn dreth, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Ar gyfer 2024 i 2025 a’r blynyddoedd yn y dyfodol, lle bydd blynyddoedd cyfrifyddu’n wahanol i ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd yr elw trethadwy yn cael ei gyfrifo drwy ddosrannu’r elw i’r 2 gyfnod cyfrifyddu sy’n rhychwantu’r flwyddyn dreth.

Mae blwyddyn dreth 2023 i 2024 yn ‘flwyddyn drosiannol’, pan fydd busnesau hunangyflogedig yn symud i’r ffordd newydd o gyfrifo elw trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth.

Bydd yn rhaid i fusnesau ddatgan cyfanswm yr elw o ddiwedd y dyddiad cyfrifyddu diwethaf ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023, hyd at a chan gynnwys 5 Ebrill 2024. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw elw a gynhyrchir dros gyfnod hirach yn drethadwy yn ystod y flwyddyn drosiannol.

Ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024, gall busnesau ddefnyddio unrhyw ryddhad gorgyffwrdd sy’n deillio o elw gorgyffwrdd pan ddechreuodd y busnes. Mae modd lledaenu unrhyw elw ychwanegol sy’n weddill dros 5 mlynedd a hynny fel mater o drefn.

Er enghraifft, os mai 31 Rhagfyr 2023 yw dyddiad cyfrifyddu’r busnes, bydd hefyd yn rhaid iddo ddatgan elw o 1 Ionawr 2023 hyd at 5 Ebrill 2024 (15 mis yn hytrach na 12) yn ei Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, a bydd yn rhaid cyflwyno’r Ffurflen Dreth honno ar neu cyn 31 Ionawr 2025.

Bydd blwyddyn drosiannol 2023 i 2024 yn rhoi cyfle i bob busnes sy’n masnachu ar hyn o bryd i ddefnyddio unrhyw ryddhad gorgyffwrdd, ni waeth beth yw’r dyddiad cyfrifyddu.

O flwyddyn dreth 2023 i 2024 ac ymlaen, efallai y bydd yn rhaid i rai busnesau ddefnyddio ffigurau dros dro ar eu Ffurflenni Treth. Os yw busnesau wedi cyflwyno ffigurau dros dro fel rhan o’u Ffurflenni Treth, bydd y llywodraeth yn llacio’i harweiniad i roi’r terfynau amser diwygio arferol i fusnesau fel y gallant gyflwyno eu Ffurflenni Treth terfynol.

Os bydd dyddiad cyfrifyddu’r busnes yn newid yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd y rheolau presennol o ran newid dyddiad cyfrifyddu’n berthnasol. Os bydd busnes yn penderfynu newid ei ddyddiad cyfrifyddu o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen, ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol, ac mi fydd yn bosibl gwneud newid, ni waeth beth fo’r newidiadau yn y gorffennol.

Os bydd y ffigurau hynny wedi’u cofnodi ar systemau CThEF, bydd CThEF yn gallu rhoi manylion ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd neu ffigurau elw hanesyddol ar gais i’r busnesau hynny sy’n newid dyddiad cyfrifyddu ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022. Dylai trethdalwyr ac asiantau ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os bydd angen yr wybodaeth hon arnynt er mwyn llenwi Ffurflen Dreth ar gyfer 2021 i 2022.

Ar hyn o bryd, mae CThEF yn datblygu ffurflen fel bod modd cyflwyno ceisiadau am ryddhad gorgyffwrdd ar-lein. Bydd hyn yn ffordd haws i gyflwyno ceisiadau ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin ar wahân i’r post cyffredinol. Ynghyd â’r ffurflen ar-lein hon, mae CThEF yn hyfforddi mwy o swyddogion i ddelio ag ymholiadau’n ymwneud â rhyddhad gorgyffwrdd, ac yn datblygu offeryn mewnol i symleiddio’r ffordd y cesglir gwybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd. Bydd yr offeryn hwn yn helpu ein swyddogion i ddarparu cymorth parhaus wrth ymdrin â cheisiadau a wnaed drwy’r post, dros y ffôn, a’r rheiny sy’n dod drwy’r ffurflen ar-lein newydd.

Bwriad CThEF yw lansio’r ffurflen ar-lein a chymorth ychwanegol yr haf hwn.

Gellir ond darparu gwybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd os yw’r ffigurau hyn wedi’u cofnodi ar systemau CThEF. Mae cofnodion CThEF yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan drethdalwyr fel rhan o Ffurflenni Treth blaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chyflwyno ar Ffurflenni Treth, ni fydd CThEF yn gallu’i darparu.

Mae angen manylion y busnes ar CThEF wrth edrych ar gais am wybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd, er mwyn rhoi gwybod i’r trethdalwr beth yw’r ffigurau cywir. Pan fyddwch yn cyflwyno cais, bydd CThEF yn gofyn i chi ddarparu cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:

  • enw’r trethdalwr
  • rhif Yswiriant Gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
  • enw a disgrifiad o’r busnes
  • a yw’r busnes yn hunangyflogaeth neu’n rhan o bartneriaeth
  • os yw’r busnes yn rhan o bartneriaeth, Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr y bartneriaeth
  • dyddiad dechrau’r busnes hunangyflogedig, neu’r dyddiad dechrau fel partner yn y bartneriaeth
  • y cyfnod cyfrifyddu neu gyfnod sail diweddaraf a ddefnyddiwyd gan y busnes

Dylai trethdalwyr sy’n gobeithio newid dyddiadau cyfrifyddu a defnyddio rhyddhad gorgyffwrdd yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu 2023 i 2024 aros hyd nes y bydd rhagor o wybodaeth am ddarparu ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer y blynyddoedd treth hyn yn cael ei chyhoeddi.

Cyn y bydd rhagor o arweiniad yn cael ei gyhoeddi, gallwch ddod o hyd i wybodaeth gefndirol yn y ‘papur polisi ar ddiwygio’r cyfnod sail’ (yn Saesneg)

Darllenwch yr erthygl ynghylch y newidiadau i sut mae CThEF yn asesu elw rhai unig fasnachwyr a phartneriaid (yn Saesneg).

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Gwneud hawlio Budd-dal Plant yn haws ac yn gyflymach i rieni newydd

Os oes gennych chi gyflogeion sydd ar fin dod yn rhieni, efallai y bydd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwybod bod ffordd newydd a haws o hawlio Budd-dal Plant ar-lein neu drwy ddefnyddio ap CThEF.

Gall rhieni hawlio hyd at £1,248 y flwyddyn ar gyfer un plentyn, a allai godi hyd at bron i £20,000 erbyn iddynt droi’n 16 oed. Gallent hefyd gael bron i £827 y flwyddyn ar gyfer unrhyw blant eraill sydd ganddynt.

Bydd dweud wrth eich cyflogeion am Fudd-dal Plant yn eu helpu i wneud y gorau o’r cymorth ariannol sydd ar gael i helpu gyda chostau magu eu plant.

Mae mwy i Fudd-dal Plant na’r taliadau eu hunain, trwy hawlio byddant hefyd yn:

  • cael credydau Yswiriant Gwladol a fydd yn cyfrif tuag at eu Pensiwn y Wladwriaeth
  • sicrhau y bydd eu plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn 16 oed.

Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £50,000 y flwyddyn bydd yn rhaid iddynt dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar rywfaint neu’r cyfan o’r arian y maent yn ei gael, ond mae’n werth ei hawlio o hyd, a gallant hyd yn oed optio allan o gael taliadau.

Mae’r gwasanaeth ar-lein newydd, gwell yn golygu y gall llawer o rieni nawr hawlio Budd-dal Plant neu ychwanegu plentyn ychwanegol ar adeg sy’n addas iddynt. Bydd hawliad syml, er enghraifft (lle mae plentyn o dan 6 mis oed) a gyflwynir ar-lein yn cael ei brosesu’n llawer cyflymach a gallai taliadau cyntaf gyrraedd cyfrifon banc cwsmeriaid mewn cyn lleied â thri diwrnod gwaith.

Mae dau gam syml i ddefnyddio ap CThEF am y tro cyntaf:

  1. Lawrlwythwch ap CThEF, sy’n rhad ac am ddim, o’r App Store ar gyfer iOS, neu o’r Google Play Store ar gyfer Android.

  2. Mewngofnodwch gan ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes ganddynt ID a chyfrinair eisoes, gellir creu hyn ar yr un dudalen mewngofnodi.

Unwaith y bydd hyn i gyd wedi’i sefydlu, gall mewngofnodi i’r ap fod hyd yn oed yn gyflymach drwy ddefnyddio PIN, drwy ddull adnabod ôl bys neu drwy ddull adnabod wyneb. Mae hyn yn rhoi popeth y bydd ei angen ar gwsmeriaid am eu cais am Fudd-dal Plant ar flaenau eu bysedd.

Anogwch eich staff i lawrlwytho Ap CThEF neu ymweld â GOV.UK i wneud cais am fudd-dal plant, a helpu teuluoedd i gael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl i’w gael.

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn helpu busnesau i ddod i’r afael â risgiau o seibrdroseddu

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi lansio cynllun gweithredu seiber ar gyfer busnesau bach ynghyd ag offeryn sy’n eu helpu i sganio eu systemau TG am wendidau.

Yn 2022, gwnaeth tua phedwar ym mhob deg busnes yn y DU roi gwybod am ymosodiad seiber, yn ôl Arolwg Tanseilio Seiber yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (yn Saesneg). Mae Cynllun Gweithredu Seiber (yn Saesneg) yr NCSC yn rhoi rhestr o gamau gweithredu wedi’u teilwra i fusnesau a sefydliadau bach i’w helpu i ddiogelu eu hunain ar-lein.

Mae’r Gwasanaeth Gwirio’ch Seiberddiogelwch (yn Saesneg):

  • yn gallu gwirio cyfrifiaduron a systemau am wendidau i feddalwedd wystlo (ransomware)
  • yn rhoi cyngor ar sut i helpu i liniaru unrhyw risgiau seiber
  • yn rhoi gwybodaeth ynghylch a yw porwr gwe yn gyfredol

Mae’r offeryn yn rhad ac am ddim, yn gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio ac yn darparu adborth wedi’i deilwra sy’n tynnu sylw at wendidau penodol, y risgiau y maent yn eu peri a sut i’w trwsio.

Darllenwch ragor o wybodaeth ar gyfer sefydliadau bach a chanolig (yn Saesneg) a’r canllaw busnesau bach i seiberddiogelwch (yn Saesneg).

I helpu CThEF i frwydro yn erbyn seiberdroseddu:

Gall Rhifau Yswiriant Gwladol bellach gael eu cadw ar y Waled Apple

Gall cwsmeriaid sydd ag Apple iPhone bellach storio eu Rhif Yswiriant Gwladol yn eu Waled Apple naill ai ar-lein neu drwy Ap CThEF.

Mae’n bosibl y bydd eich cyflogeion yn rhoi eu tystiolaeth o Rif Yswiriant Gwladol trwy ddefnyddio eu Waled Apple yn hytrach na thrwy lythyr cadarnhau Rhif Yswiriant Gwladol CThEF. Rydym am roi sicrwydd i chi fod hyn yn ddilys a dylid ei dderbyn yn yr un modd ag y byddech yn derbyn llythyr.

Gall cyhoeddi llythyrau cadarnhau Rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post gymryd hyd at 15 diwrnod, ond nawr gellir gweld rhifau Yswiriant Gwladol eich cyflogeion, eu rhannu a’u hargraffu yn ap CThEF o fewn munudau, a’u cadw i’w defnyddio yn y dyfodol.

Gwnewch yn siŵr bod enw’r cyflogai yn cyd-fynd â’r hyn a ddangosir yn y Waled Apple, a gofynnwch i’ch cyflogai am sgrinlun os oes angen cofnod ohono.

Rydym yn gweithio i roi’r gallu i ddefnyddwyr ffonau Android gadw eu Rhif Yswiriant Gwladol i’w Waled Google a byddwn yn rhoi diweddariad pellach pan fydd hyn yn cael ei ryddhau.

Adolygiad o Fframwaith Gweinyddu Trethi — cyhoeddi gwybodaeth a data yn galw am dystiolaeth a chreu newid arloesol drwy ddogfennau trafod peilotiaid deddfwriaethol newydd

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi dwy ddogfen fel rhan o’r Adolygiad o Fframwaith Gweinyddu Trethi ehangach. Mae’r cyhoeddiadau ar agor am 12 wythnos a byddant yn cau ar 20 Gorffennaf 2023. Y ddau gyhoeddiad newydd yw:

Yn ogystal â symleiddio a moderneiddio gwasanaethau Treth Incwm CThEF drwy’r ddogfen trafod fframwaith gweinyddu treth (yn Saesneg), a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2023, mae’r dogfennau hyn yn cwblhau triawd o gyhoeddiadau byw sy’n bwrw ymlaen â chamau nesaf yr Adolygiad o Fframwaith Gweinyddu Trethi.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg
  • anawsterau echddygol
  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • cadw’r ddogfen fel PDF:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein e-byst hysbysu (yn Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @HMRCgovuk.

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio mary.croghan@hmrc.gov.uk.