Canllawiau

Bwletin y Cyflogwr: Hydref 2024

Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.

Dogfennau

Manylion

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.

Mae rhifyn mis Hydref o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:

  • cyflwyno lwfans statudol newydd o fis Ebrill 2025 ymlaen — Tâl ac Absenoldeb Gofal Newydd-enedigol Statudol

  • arweiniad i gyflogwyr ar rwymedigaethau adrodd RTI ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig

  • ymholiadau ynghylch taliadau TWE

  • hysbysiad o newid i ddyddiad dod i rym gofynion data newydd ar oriau cyflogeion

  • Adroddiad Dweud wrth ABAB 2024 — y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol

  • helpu’ch cyflogeion i baratoi ar gyfer ymddeoliad

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.

Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 October 2024

Sign up for emails or print this page