Research and analysis

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu: Ffioedd Sylfaenol Enghreifftiol

Published 15 August 2024

Cyflwyniad

Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu (pEPR) yn gonglfaen ar gyfer mynd i’r afael â gwastraff yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer blwyddyn 1 pEPR. Mae’n ymwneud â ffioedd a fyddai’n cael eu codi ar gynhyrchwyr deunydd pecynnu dan rwymedigaeth gan Weinyddwr y Cynllun (SA). Nid yw’n cwmpasu:

  • taliadau rheoleiddwyr, a osodir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon, a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • costau sy’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pecynnu ee drwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunydd Pecynnu (PRNs).

Mae’r ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar ran Llywodraeth y DU, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth Cymru. Mae’r term ‘Llywodraeth’ yma yn cyfeirio at bob un o’r pedair gweinyddiaeth.

Cefndir

Codir ffioedd o 1 Ebrill bob blwyddyn, yn seiliedig ar ddeunydd pecynnu a ddarparwyd gan gynhyrchwyr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddata ar RPD yw 1 Ebrill. O ganlyniad, ni fydd cyfraddau ffioedd ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26) yn hysbys tan ar ôl 1 Ebrill 2025. Gan ganiatáu i wiriadau perthnasol gael eu cynnal a chael cymeradwyaeth bilio, disgwylir y bydd yr SA yn cyhoeddi anfonebau yn gynnar yn yr haf bob blwyddyn. Gall anfonebu ym mlwyddyn gyntaf pEPR weithredu i amserlen wahanol oherwydd efallai bydd yr SA yn dal i gael ei sefydlu’n ffurfiol.

Bydd ffioedd pob cynhyrchydd dan rwymedigaeth yn cael eu cyfrifo gan yr SA gan ddefnyddio’r fformiwla ffioedd sydd wedi’i chynnwys yn y Gyfrifiannell Ffioedd a Thaliadau (FPC). Mae’r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer y fformiwla ffioedd wedi’u nodi yn y Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr drafft (Deunydd Pecynnu a Gwastraff Deunydd Pecynnu).

Cyn i ddata deunydd pecynnu 2024 gael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr, ac mewn ymateb i alwadau gan y diwydiant am fwy o eglurder ynghylch y costau y maent yn debygol o’u hysgwyddo, mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26 wedi’u cyfrifo ar gyfer pob un o’r wyth categori deunydd pecynnu. Mae’r ffioedd enghreifftiol wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio setiau data gwahanol i’r rhai y bydd yr SA yn eu defnyddio i gyfrifo’r ffioedd gwirioneddol. Maent yn cael eu rhannu i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl cyn gynted â phosibl, er mwyn cefnogi cynhyrchwyr yn y ffordd orau.

Mae’r ffi sylfaenol enghreifftiol wedi’i chyfrifo gan ddefnyddio pwysau’r deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022, a gymerwyd o adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’.[footnote 1] Mae’r data hyn yn cynrychioli amcangyfrifon o ddeunydd pecynnu yn y gorffennol, gan gynrychioli dirprwy ar gyfer deunydd pecynnu yn y dyfodol. Gwnaethpwyd gwaith i ddosbarthu’r deunydd pecynnu mor agos â phosibl i’r rhwymedigaethau adrodd pEPR newydd, fodd bynnag ni fydd y rhain yn cyfateb yn union.  Nid yw’r data a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr yn y porth ar-lein Adrodd am Ddeunydd Pecynnu (RPD) wedi’u defnyddio oherwydd nodwyd anghysondebau y mae angen eu cywiro. Mae’r ffioedd yn Nhabl 1 yn cynnwys amcangyfrifon o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu Awdurdodau Lleol (ALl) fesul WRAP. Mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cael eu darparu ar wahân ar gyfer gwydr (Tabl 2) oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wahân i ganfod costau ALl  sy’n cael ei datblygu gan Defra, a fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo ffioedd sylfaenol pEPR terfynol. Ar hyn o bryd, mae’r fethodoleg hon yn dal i gael ei datblygu ac felly nid yw wedi’i chymhwyso ar draws yr holl ddeunyddiau, ond fe’i defnyddiwyd ar gyfer gwydr oherwydd ystyrir ei bod yn fwy cadarn ar gyfer y deunydd penodol hwn. Mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u cynnwys er mwyn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i gynhyrchwyr, ac i fod yn sail ar gyfer ymgysylltu parhaus â’r diwydiant ar y rhagdybiaethau methodolegol sylfaenol cyn rhyddhau’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol nesaf.

Cafeatau pwysig

Y ffioedd enghreifftiol hyn yw ein hamcangyfrif cyntaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael hyd yma. Nid y rhain yw’r ffioedd terfynol. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gallai cynhyrchwyr dan rwymedigaeth ddymuno defnyddio’r amcangyfrifon uwch neu is i asesu’r senarios gwaethaf a gorau. Nid yw hyn yn cael ei argymell. Er y gall y ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn helpu’r diwydiant gyda pharodrwydd cynnar, mae’r ffigurau hyn yn dal i fod yn destun ansicrwydd sylweddol a byddant yn newid yn y dyfodol.[footnote 2](#_ftn1) O ystyried y cyfyngiadau data sylweddol, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ffigurau wedi’u mireinio ar gyfer y ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024, unwaith y bydd y data a dderbyniwyd drwy borth ar-lein RPD y Llywodraeth wedi’u hadolygu a’u gwerthuso ymhellach. Mae’r ffioedd enghreifftiol hefyd yn rhan o adolygiad gwariant 2024.   

Ffioedd wedi’u modiwleiddio i’w cyflwyno o 2026

O flwyddyn 2 yr EPR, bydd ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau mai deunyddiau pecynnu sy’n cael effaith amgylcheddol is fydd y rhai lleiaf costus i gynhyrchwyr eu defnyddio. Trwy gyflwyno strwythur ffioedd wedi’i fodiwleiddio i’r farchnad, bydd y defnydd o ddeunyddiau pecynnu anghynaliadwy yn lleihau, gan leihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau allyriadau CO2.

Bydd y mathau o ddeunydd pecynnu a fydd yn destun ffioedd uwch neu is (“wedi’u modiwleiddio”) o Flwyddyn 2, a’r is-gategorïau o ddeunydd pecynnu canlyniadol y byddai angen adrodd arnynt yn 2025 yn cael eu rhyddhau yn hydref 2024.

Ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26

Tabl 1. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynnu ac eithrio deunydd pecynnu Gwydr

Deunydd Is (mewn £/tunnell) Canolradd (mewn £/tunnell) Uwch
(mewn £/tunnell)
Alwminiwm £245 £495 £655
Cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr £410 £525 £655
Papur neu fwrdd £185 £260 £350
Plastig £355 £515 £610
Dur £170 £295 £420
Pren £225 £265 £330
Arall £225 £265 £330

Tabl 2. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer deunydd pecynnu Gwydr.

Deunydd Is (mewn £/tunnell) Canolradd (mewn £/tunnell) Uwch (mewn £/tunnell)
Gwydr £130 £260 £330

Darperir ffioedd gwydr ar wahân oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wahân i ganfod costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl sy’n cael ei ddatblygu gan Defra, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ffioedd pEPR terfynol. 

Eglurhad o’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau ffioedd deunyddiau

Mae tri phrif reswm dros wahaniaethau mewn ffioedd sylfaenol enghreifftiol rhwng deunyddiau, a fydd yn parhau yn y ffioedd gwirioneddol ar gyfer 2025/26:

1.    Mae gwahaniaethau yng ngwerthoedd ailwerthu’r gwahanol gategorïau o ddeunydd pecynnu. Tynnir y gwerth hwn (“wedi’i netio i ffwrdd”) o’r costau gwaredu. Er enghraifft, mae gan ddeunyddiau cyfansawdd ffibr ffi uwch oherwydd gwerth ailwerthu cymharol isel y deunydd hwn.

2.    Mae gwahaniaethau yng nghyfran pob categori deunydd pecynnu sy’n cael ei ailgylchu a’i waredu fel gwastraff gweddilliol. Mae costau gwahanol yn gysylltiedig â’r gwahanol ffyrdd hyn o reoli gwastraff deunydd pecynnu, gan arwain at ffioedd gwahanol. Er enghraifft, mae ffioedd gwydr yn seiliedig yn bennaf ar gostau ailgylchu oherwydd y lefelau uchel o ailgylchu gwydr, tra bydd ffioedd alwminiwm yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar gostau gwaredu gwastraff gweddilliol oherwydd cyfraddau ailgylchu isel ar gyfer ffoil alwminiwm a chynwysyddion heblaw am rai diodydd.

3.    O dan y setiau data cyfredol, mae anghysondebau rhwng amcangyfrifon o faint o bob categori deunydd pecynnu sy’n digwydd fel gwastraff a’r swm yr amcangyfrifir ei fod wedi’i roi ar y farchnad gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth, er enghraifft ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig ac alwminiwm. Gall hyn adlewyrchu newidiadau mwy diweddar yn y deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad nas cyfrifwyd amdano yn amcangyfrifon cyfansoddiad gwastraff 2017 a ddefnyddiwyd yng nghyfrifiadau costau ALl WRAP. Yn fwyaf arwyddocaol, mae’n debygol ei fod yn adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng deunydd pecynnu gwag sydd wedi’i gofrestru fel ‘wedi’i roi ar y farchnad’ a’r deunydd pecynnu sydd wedi’i lenwi’n rhannol a’i halogi y mae’n rhaid i ALlau gael gwared arno. Mae’r effaith olaf hon i’w gweld yn fwyaf amlwg ar gyfer deunyddiau ysgafnach.

Oherwydd diffyg data cadarn, mae’r ffioedd ar gyfer pren a deunydd pecynnu ‘arall’ wedi cael yr un gyfradd ffi yn seiliedig ar y dybiaeth y cânt eu gwaredu fel gwastraff gweddilliol.

Y camau nesaf

Roedd gan gynhyrchwyr rwymedigaeth i adrodd ar eu set lawn o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2023 erbyn 1 Ebrill 2024 a gallent wynebu camau gorfodi os oeddent yn methu â gwneud hynny erbyn 31 Mai 2024. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhyddhau’r set nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024 unwaith y bydd mwy o ddata wedi’u  hadrodd a’u gwirio wedyn gan reoleiddwyr. Bydd cadernid y data hyn a maint yr ystod yn dibynnu ar gyflwyno data cynhyrchwyr digonol o ansawdd uchel ar amser. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer adrodd 6 mis o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2024 yw 1 Hydref 2024.

Dull cyfrifo

Crynodeb

Amcangyfrifir y ffi ganolradd enghreifftiol ar draws y ddau dabl drwy rannu’r costau amcangyfrifedig canolradd ar gyfer y deunydd hwnnw â phwysau amcangyfrifedig canolradd y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, wedi’i dalgrynnu i’r £5 agosaf. Amcangyfrifir y ffi is enghreifftiol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar draws y ddau dabl drwy rannu’r costau amcangyfrifedig is ar gyfer y deunydd hwnnw â phwysau amcangyfrifedig uwch y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, ac amcangyfrifir y ffi uwch enghreifftiol drwy rannu’r costau amcangyfrifedig uwch ar gyfer y deunydd hwnnw â phwysau amcangyfrifedig is y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad. Mae amcangyfrifon ffioedd uwch, canolradd ac is yn ganlyniad ansicrwydd mewn costau gwaredu, prisiau refeniw deunyddiau a phwysau amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad o fewn categorïau deunydd pecynnu unigol.  Bydd yr ansicrwydd hwn yn lleihau yn yr iteriadau nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol pEPR wrth i’r Llywodraeth drosglwyddo i ddefnyddio data deunydd pecynnu a adroddir RPD a model  costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl Defra, sy’n defnyddio mewnbynnau mwy diweddar.

Eglurhad manwl

Cyfrifir ffioedd sylfaenol enghreifftiol trwy rannu costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu yr ALl (ar gyfer gwastraff deunydd pecynnu cartrefi) â chyfanswm amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd a fynegir fel ffi fesul tunnell o ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar wahân:

Rhifiadur (1) Costau yr eir iddynt gan ALlau sy’n rheoli gwastraff y categori deunydd pecynnu hwnnw (gwastraff deunydd pecynnu cartrefi yn unig) llai refeniw o werthiannau deunydd plws (2) Cyfran y categori o gostau eraill megis costau SA a chostau darparu dyledion (gweler isod)

Enwadur Cyfanswm pwysau’r categori deunydd pecynnu hwnnw a roddwyd ar y farchnad (deunydd pecynnu cartrefi yn unig)

Er bod y wybodaeth orau sydd ar gael wedi’i defnyddio, mae ystod eang o ansicrwydd yn gysylltiedig â’r amcangyfrifon a nodir isod, ochr yn ochr â’r fethodoleg ar gyfer eu cyfrifo.

Noder, ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26), na fydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli gwastraff biniau cyhoeddus a sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Fodd bynnag, bydd yr enwadur yn cynnwys deunydd pecynnu cartrefi a deunydd pecynnu a adroddir fel ‘eitemau sy’n cael eu binio’n gyffredin neu sy’n cael eu taflu fel sbwriel.’

Y rhifiadur: costau

Costau ALl

Yn Nhabl 1, mae’r cyfrifiad ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cymryd amcangyfrif o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi’r ALl, yn net o’r refeniw o werthu deunyddiau (yn seiliedig ar gyfartaleddau prisiau ar draws adroddiadau Prisio Deunyddiau WRAP),[footnote 3] ac yn ychwanegu costau amcangyfrifedig sy’n gysylltiedig â gwasanaeth gwybodaeth yr SA a ffi weinyddu’r SA; dyma’r rhifiadur (brig y ffracsiwn).  Ar gyfer Tabl 1, mae’r amcangyfrif diweddaraf (2019) o’r costau yr eir iddynt ar gyfer rheoli gwastraff deunydd pecynnu a gesglir o ymyl y ffordd wedi’i amcangyfrif gan WRAP yn seiliedig ar amlder casglu gwastraff gweddilliol ALl, systemau casglu ailgylchu a lefelau gwledigrwydd ac amddifadedd (heb ei gyhoeddi). Mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu gan ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Manwerthu o Ragolygon Economaidd a Chyllidol Tachwedd 2024 y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol[footnote 4] i adlewyrchu’r prisiau a ragwelwyd yn 2025/26 a’u haddasu ar gyfer data cyfansoddiad (gweler isod). Mae cost rheoli gwastraff deunydd pecynnu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRCs) wedi’i chymryd o Asesiad Effaith pEPR 2022,[footnote 5] a amcangyfrifwyd yn wreiddiol gan WRAP yn 2019 ac a chwyddwyd i brisiau 2025/26.

Yn Nhabl 1, mae pwysau sgil-gynhyrchion gwastraff deunydd pecynnu a ddefnyddir i gyfrifo costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar ddata cyfansoddiad gwastraff cyn y pandemig yn seiliedig ar astudiaethau maes ar lefel ALl wedi’u cyfosod i gynhyrchu amcangyfrifon cenedlaethol o gyfansoddiad gwastraff.[footnote 6] Gan ei bod yn bosibl nad yw’r data hwn yn adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf mewn deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad, mae addasiadau wedi’u gwneud i alinio’r data. Noder, i gyfrifo arffin isaf y sgil-gynhyrchion gwastraff, defnyddiwyd yr isaf o:

  • y cyfwng hyder is o 99% ar gyfer data cyfansoddiad gwastraff rhagamcanol 2017 ac
  • amcangyfrif o bwysau’r deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad gan gynhyrchwyr yn 2022 o adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’

 ar gyfer tunelledd deunydd pecynnu. Mae hyn oherwydd bod yr ansicrwydd yn yr amcanestyniad o ddata cyn y pandemig a’r posibilrwydd y bydd data cyfansoddiad gwastraff yn systematig uwch na’r hyn a roddwyd ar y farchnad oherwydd halogiad, ee gweddillion bwyd, yn golygu y gallai’r naill neu’r llall gynrychioli’r tunelledd isaf posibl.

Yn Nhabl 2, mae costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar amcangyfrifon cychwynnol o’r model ‘Cost a Pherfformiad Deunydd Pecynnu Awdurdodau Lleol’ (LAPCAP) sy’n dal i gael ei ddatblygu ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr SA i gyfrifo costau ALl ar gyfer 2025/26. Mae hwn yn defnyddio prisiau deunyddiau wedi’u diweddaru, amcangyfrifon costau awdurdodau lleol a thunelleddau sy’n deillio o wastraff. Mae’r model hwn yn dal i gael ei ddatblygu ac felly nid yw wedi’i ddefnyddio ar gyfer pob amcangyfrif.

Costau eraill

Mae’r amcangyfrif presennol o gostau tebygol gwasanaethau gweinyddol a gwybodaeth SA wedi’i gynnwys, gyda ffioedd gweinyddu SA wedi’u dosrannu yn gymesur â chyfran deunydd o gostau gwaredu’r ALl a ffioedd gwasanaeth gwybodaeth yr SA yn gymesur â chyfran deunydd o bwysau deunydd pecynnu. Ychwanegwyd 6% enghreifftiol fel ‘darpariaeth drwgddyledion’. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion yn unol â’r gofynion ar holl gyrff y Llywodraeth (ac fel rhan o reolaeth ariannol dda) i wneud darpariaeth ar gyfer anfonebau efallai na all yr SA eu casglu, er gwaethaf pob ymdrech resymol[footnote 7] (ee, os yw cynhyrchwyr yn mynd yn fethdalwyr).

Yr enwadur: pwysau’r deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad

Cymerwyd pwysau deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022 o adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’.[footnote 8] 

Defnyddiwyd y diffiniad newydd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn Rheoliad 7 o’r offeryn statudol diwygio ‘Rheoliadau Gwastraff Deunydd Pecynnu (Adroddiadau Data) (Lloegr) (Diwygio) 2024’[footnote 9] cyn belled ag yr oedd yn ymarferol ar y pryd. Bydd iteriadau’r dyfodol o’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn llwyr ymgorffori’r diffiniad wedi’i ddiweddaru o ddeunydd pecynnu cartrefi.

Cyfrifwyd amcangyfrifon uwch ac is i gyfrif am amrywiadau yn y modd y gellir dosbarthu deunydd pecynnu fel deunydd pecynnu ‘cartrefi’. Roedd yr amcangyfrif canolradd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn seiliedig ar adio pwysau deunydd pecynnu ‘defnyddwyr’ a phwysau deunydd pecynnu ‘cludfwyd’ y sector lletygarwch a adroddwyd yn PackFlow. Cynhyrchwyd amcangyfrif uwch trwy gymryd amcangyfrif PackFlow o gyfanswm pwysau deunydd pecynnu’r sector defnyddwyr a lletygarwch i efelychu gwallau posibl yn deillio o ddosbarthu holl ddeunydd pecynnu’r sector lletygarwch fel deunydd pecynnu ‘cartrefi’. Cyfrifwyd amcangyfrif is trwy dynnu’r gwall canrannol dangosol sy’n gysylltiedig â phwysau deunydd pecynnu defnyddwyr a amcangyfrifwyd ar gyfer pob categori.

Er mwyn cefnogi buddsoddiad yn Sefydliad(au) Rheoli Ernes y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS), mae cynwysyddion alwminiwm, dur a diodydd plastig PET o fewn cwmpas DRS wedi’u heithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Bydd cynwysyddion diodydd gwydr yn cael eu cwmpasu gan pEPR. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yng nghwmpas y DRS ac yn y pen draw bydd yn cael ei eithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Os na fydd DRS wedi’i sefydlu erbyn 1 Ionawr 2028, bydd cynhyrchwyr cynwysyddion diodydd sy’n bodloni’r diffiniad o ddeunydd pecynnu DRS yn ddarostyngedig i’r ystod lawn o rwymedigaethau pEPR, hyd nes y bydd DRS yn weithredol.

Troednodiadau

  1. Valpak and WRAP (2024) PackFlow Refresh 2023 Reports 

  2. Ni fwriedir i’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gynhwysir yn y ddogfen hon fod yn gyfystyr â chyngor neu wybodaeth y dylai Cynhyrchwyr ddibynnu arni (gan gynnwys at ddibenion cynllunio busnes). Ni fydd y Llywodraeth yn atebol am unrhyw golled ariannol os bydd cynhyrchwyr yn defnyddio’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn yn y ddogfen hon at ddibenion cynllunio neu at ddibenion eraill. 

  3. WRAP (2017) Materials Pricing Report  

  4. Office for Budget Responsibility (2024) Economic and fiscal outlook   

  5. Extended Producer Responsibility Impact Assessment (2022)  

  6. WRAP (2017) Quantifying the Composition of Municipal Waste   

  7.  HM Treasury (2023) Managing Public Money   

  8. Valpak and WRAP (2024) PackFlow Refresh 2023 Reports 

  9. The Packaging Waste (Data Reporting) (England) (Amendment) Regulations 2024