Research and analysis

Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu (pEPR)

Updated 30 September 2024

1. Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer blwyddyn 1 pEPR. Mae’n ymwneud â ffioedd a fyddai’n cael eu codi ar gynhyrchwyr deunydd pecynnu dan rwymedigaeth gan Weinyddwr y Cynllun. Nid yw’n cwmpasu’r canlynol: 

  • ffioedd a thaliadau rheoleiddio a delir i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
  • costau sy’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pecynnu e.e. drwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunydd Pacio. 

Caiff y ddogfen hon ei chyhoeddi ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon, a Llywodraeth yr Alban. Mae’r term ‘Llywodraeth’ yn y ddogfen hon yn cyfeirio at bob un o’r pedair gweinyddiaeth. 

2. Yr ail set o ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26

Tabl 1. Yr ail set o ffioedd sylfaenol enghreifftiol pEPR 2025/26 ar gyfer pob deunydd pecynnu

Deunydd Is (£/tunnell) Canolradd (£/tunnell) Uwch (£/tunnell)
Alwminiwm 320 405 605
Cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr 355 450 565
Gwydr 110 175 215
Papur a cherdyn 135 190 250
Plastig 360 425 520
Dur 220 265 330
Pren 145 240 340
Arall 180 205 240

Mae’r Llywodraeth yn y broses o gyfrifo costau awdurdodau lleol i reoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi. O ganlyniad, mae’r ystod o ffioedd yn adlewyrchu’r ystod bresennol o senarios sy’n cael eu hystyried ar gyfer y costau hyn. Mae’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol canolradd yn cyfateb i ffioedd sy’n seiliedig ar y senario achos canolog o gostau gwaredu awdurdodau lleol. Mae’r ffioedd yn cael eu talgrynnu i’r £5 agosaf.

3. Esboniad manwl 

Cyfrifir ffioedd sylfaenol enghreifftiol drwy rannu costau awdurdodau lleol i reoli gwastraff deunydd pecynnu (ar gyfer gwastraff deunydd pecynnu mewn cartrefi) â chyfanswm y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd a fynegir fel ffi am bob tunnell o ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori o ddeunydd pecynnu ar wahân:  

Rhifiadur (1) Costau a ysgwyddir gan awdurdodau lleol i reoli gwastraff o’r categori deunydd pecynnu hwnnw (gwastraff deunydd pecynnu mewn cartref yn unig) gan dynnu refeniw o werthiannau deunyddiau ynghyd â (2) Cyfran y categori o gostau eraill, gan gynnwys costau gweinyddu a chyfathrebu Gweinyddwr y Cynllun, a chostau darparu dyledion.

Enwadur Cyfanswm pwysau’r categori deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad (deunydd pecynnu mewn cartrefi yn unig)

Sylwch na fydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli sbwriel a gwastraff biniau cyhoeddus yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26). Fodd bynnag, bydd yr enwadur yn cynnwys deunydd pecynnu cartrefi a deunydd pecynnu a adroddir fel eitemau ‘a roddir yn y bin ac a deflir fel sbwriel yn aml.’  

Cyfeiriwch at y set gyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol1 (mis Awst 2024) i gael rhagor o fanylion am yr egwyddorion ar gyfer cyfrifo ffioedd sylfaenol enghreifftiol.

4. Sut mae’r set hon yn wahanol i’r set flaenorol

Tunelledd y deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad

Yn y set gyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol, roedd yr holl ddeunyddiau wedi defnyddio amcangyfrifon o dunelledd deunyddiau pecynnu a roddwyd ar y farchnad gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth o’r adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’2. Mae’r set hwn yn defnyddio’r data mwyaf diweddar a gyflwynwyd gan sefydliadau mawr i system porthol ar-lein yr Adrodd am Ddeunydd Pecynnu ar gyfer blwyddyn galendr 2023 (echdynnwyd ar 9 Medi 2024).

Mae tunelledd cartrefi dan sylw3 ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob categori o ddeunydd wedi cael ei gyfrifo drwy adio’r tunelleddau yr oedd cynhyrchwyr wedi’u hadrodd fel deunydd pecynnu cartrefi a deunydd pecynnu a oedd yn cael ei roi yn y bin fel arfer, ac yna tynnu’r tunelledd yr oedd cynhyrchwyr yn ei adrodd fel gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig4. Pan fo cynhyrchwyr wedi cyflwyno ffigyrau ar gyfer rhan o flwyddyn, rydym wedi cymryd y data’n gyfrannol hyd at yr hyn sy’n cyfateb i 12 mis.

Roedd y gofynion i roi gwybod am gynwysyddion diodydd ar gyfer blwyddyn galendr 2023 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Bydd y gofynion hyn yn ymestyn i’r Alban ar gyfer data o 2024 ymlaen. O ganlyniad, mae risg y bydd Adrodd am Ddeunydd Pecynnu 2023 yn tanamcangyfrif faint o ddeunydd pecynnu gwydr o gartrefi a roddwyd ar y farchnad. I gyfrif am hyn, mae amcangyfrif o’r tunelledd a roddir ar y farchnad o Adroddiadau ‘PackFlow Refresh 2023’ (yr un fath â’r rhai a ddefnyddiwyd wrth i’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol gael eu rhyddhau am y tro cyntaf) wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwydr yn lle’r data yn y porth Adrodd am Ddeunydd Pecynnu ar-lein.

Gallai ffigyrau tunelledd Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu fod yn danamcangyfrif gan nad ydynt yn cynnwys:

  • Data gan gynhyrchwyr mawr sy’n gorfod adrodd eu data ond sydd heb adrodd;
  • Data gan gynhyrchwyr mawr a gyflwynodd eu data ar ôl 9 Medi 2024.

Mae gan y rheoleiddwyr ddyletswydd i fonitro cywirdeb data pEPR a gyflwynir i’r porth Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu ar-lein; mae’r gwiriadau hyn yn mynd rhagddynt.  Mae rheoleiddwyr hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr i ganfod a chywiro gwallau posibl yn y data. O ganlyniad, gall y data a ddefnyddir yn y cyfrifiadau gynnwys materion adrodd nad ydynt wedi cael sylw eto.

Costau awdurdodau lleol

Roedd y set gyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn seiliedig ar gost gwaredu awdurdodau lleol a amcangyfrifwyd gan fodel costau gwaredu awdurdodau lleol WRAP (Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau), ac eithrio gwydr.  Mae model ‘Cost a Pherfformiad Deunydd Pecynnu Awdurdodau Lleol’ Defra (y cyfeirir ato fel ‘model Defra’ yn y ddogfen hon) wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ddeunyddiau yn yr ail set hon o ffioedd sylfaenol enghreifftiol. Mae’r model hwn yn dal i gael ei gwblhau ond dyma’r fethodoleg a fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo ffioedd a fydd yn sail ar gyfer anfonebu cynhyrchwyr deunydd pecynnu dan rwymedigaeth o 2025 ymlaen.

Mae model Defra yn amcangyfrif costau awdurdodau lleol ar gyfer casglu a gwaredu pob deunydd pecynnu o fewn y cwmpas yn ôl math o gyfleuster gwaredu a ffrwd gasglu. Mae’n defnyddio amcangyfrifon costau awdurdodau lleol wedi’u samplu, data Waste Data Flow5 wedi’i brosesu gan ddefnyddio WRAP Cymru, WRAP, a dadansoddiadau cyfansoddiadol Zero Waste yr Alban6 (gydag addasiadau pellach ar gyfer ‘coed’, ‘arall’, ‘cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr’ a ‘cerdyn a phapur’)7, arolwg ffioedd porth WRAP8 a gwerthoedd ailwerthu deunyddiau wedi’u hailgylchu o adroddiad prisio deunyddiau WRAP9, sydd wedi’i ddiweddaru i amcangyfrif costau. Mae’r costau hyn yn cynnwys costau rheoli canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi a safleoedd dod â gwastraff. Mae pob deunydd wedyn yn cael ei gyfuno ar draws pob awdurdod lleol i amcangyfrif cyfanswm y gost ar gyfer pob deunydd pecynnu dan sylw.

Mae’r fersiwn o fodel Defra a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd yn defnyddio meintiau pecynnau amcangyfrifedig fel sail ar gyfer dosrannu costau casglu ailgylchu sych a phwysau pecynnu amcangyfrifedig i ddosrannu costau gwaredu ailgylchu sych a chostau rheoli gwastraff gweddilliol. Y dull hwn yw’r ffordd orau o adlewyrchu’r cyfyngiadau rheoli gwastraff a’r costau cysylltiedig.

Newidiadau mewn ffioedd sylfaenol enghreifftiol o’i gymharu â ffioedd blaenorol

O ganlyniad i ddefnyddio ffynonellau data newydd, mae’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol newydd yn wahanol i’r rhai cyntaf, ond amcangyfrifon yw’r rhain, a ddaw ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael hyd yma. Mae iteriadau’n cael eu rhyddhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r diwydiant wrth i ni symud tuag at gyfrifiadau terfynol, ond nid yw’r rhain yn ffioedd terfynol.  Bydd y ffioedd terfynol ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR yn cael eu rhyddhau ar ôl 1 Ebrill 2025 (y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddeunydd pecynnu a gyflenwir gan gynhyrchwyr cofrestredig yn 2024).

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gallai cynhyrchwyr dan rwymedigaeth ddymuno defnyddio’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol uwch neu is i asesu’r senarios gwaethaf a gorau. Nid yw hyn yn cael ei argymell.  Er y gall ffioedd sylfaenol enghreifftiol helpu’r diwydiant gyda pharodrwydd cynnar, mae’r ffigurau hyn yn dal i fod yn destun ansicrwydd sylweddol, a byddant yn newid ym Mlwyddyn 1 pEPR ac yn y dyfodol.10 Bydd y Llywodraeth yn parhau i gyhoeddi iteriadau pellach o ffioedd sylfaenol enghreifftiol, unwaith y bydd data newydd ar gael ar y porth Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu ar-lein, a bod model costau awdurdodau lleol Defra wedi cael ei fireinio ymhellach.    

5. Y camau nesaf

Mae gan gynhyrchwyr rwymedigaeth i adrodd ar eu data deunydd pecynnu ar y porth Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu ar-lein. Os ydych chi’n sefydliad mawr, ar gyfer 2024, dylech adrodd mewn 2 swp:

  • Adrodd ar eich data ar gyfer 1 Ionawr – 30 Mehefin o 9 Awst 2024 ymlaen (dyddiad cau – 1 Hydref 2024)
  • Adrodd ar eich data ar gyfer 1 Gorffennaf – 31 Rhagfyr o fis Ionawr 2025 ymlaen (dyddiad cau – 1 Ebrill 2025)

Byddwn yn ceisio defnyddio’r data hwn, ac unrhyw amcangyfrifon diwygiedig o gostau awdurdodau lleol, i ddiweddaru ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn y flwyddyn newydd.

6. Troednodiadau

  1. Gov.uk (2024) Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu: Ffioedd Sylfaenol Enghreifftiol
  2. Valpak ac WRAP (2024) Adroddiadau PackFlow Refresh 2023
  3. Mae hyn yn cynnwys eithrio cynwysyddion diodydd dur, alwminiwm a PET untro (150ml – 3l o ran maint) o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae cynwysyddion gwydr wedi’u cynnwys yn y cyfrifiad hwn oherwydd nad ydynt o fewn cwmpas Cynlluniau Dychwelyd Ernes yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn y dyfodol. Mae cynwysyddion gwydr o fewn cwmpas y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru yn y dyfodol.
  4. Mewn achosion lle’r oedd cynhyrchwr yn adrodd am fwy o wastraff hunan-reoledig na gwastraff cartref a gwastraff sy’n cael ei roi yn y bin ar gyfer deunydd penodol, roedd tunelledd dan rwymedigaeth y deunydd hwnnw yn cael ei osod i sero.
  5. Waste Data Flow (2021-2022) WasteDataFlow Waste Management
  6. WRAP Cymru (2023) Dadansoddiad cyfansoddiadol cenedlaethol o wastraff trefol a sbwriel yng Nghymru WRAP (wrapcymru.org.uk) Zero Waste Scotland (2023) Household Waste Composition Analysis Zero Waste Scotland; WRAP (2017) Quantifying the Composition of Municipal Waste ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  7. Oherwydd diffyg tystiolaeth ynghylch cyfran y deunyddiau ‘pren’ a deunyddiau ‘eraill’ a fyddai’n cael eu hystyried yn ddeunydd pecynnu yn y ffrwd wastraff, cafodd tybiaethau ynghylch y cyfrannau hyn eu haddasu i gyd-fynd â thunelledd y deunyddiau a adroddwyd yn y porth Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu ar-lein fel rhai a roddir ar y farchnad.  Cafodd tybiaethau ynghylch tunelledd deunyddiau ‘cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr’ a deunyddiau ‘papur a cherdyn’ yn y ffrwd wastraff eu haddasu i adlewyrchu’n well tunelledd y deunyddiau a adroddwyd yn y porth Adrodd am Ddeunyddiau Pecynnu ar-lein fel rhai a roddir ar y farchnad (gan gadw cyfanswm y tunelledd yn y ffrwd wastraff yn gyson).
  8. WRAP Gate Fees Report (2024) UK Gate Fees report 2023-24 WRAP
  9. WRAP (2023) Materials Pricing Report
  10. Ni fwriedir i’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gynhwysir yn y ddogfen hon fod yn gyfystyr â chyngor neu wybodaeth y dylai Cynhyrchwyr ddibynnu arni (gan gynnwys at ddibenion cynllunio busnes). Ni fydd y Llywodraeth yn atebol am unrhyw golled ariannol os bydd cynhyrchwyr yn defnyddio’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn yn y ddogfen hon at ddibenion cynllunio neu at ddibenion eraill.