Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol Siarter CThEF: 2023 i 2024

Adroddiad blynyddol CThEF yn ymdrin â’n darpariaeth a chynnydd yn erbyn Siarter CThEF.

Dogfennau

Manylion

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn delio â materion treth a thaliadau bron pob busnes ac unigolyn yn y DU. 

Mae Siarter CThEF yn nodi’r berthynas rhwng CThEF a’n cwsmeriaid, yr hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym, a’r ymddygiadau yr ydym yn eu disgwyl ganddynt. 

Mae adroddiad blynyddol y Siarter yn adolygu perfformiad CThEF yn erbyn y Siarter. Fe’i darperir gan Bwyllgor Profiad y Cwsmer CThEF a’i chyhoeddi gan Gomisiynwyr CThEF

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024, ac yn gwneud y canlynol: 

  • yn darparu asesiad o berfformiad CThEF yn erbyn safonau’r Siarter, sy’n cynnwys cyfraniadau gan y Dyfarnwr a rhanddeiliaid allanol 

  • yn disgrifio gwaith Pwyllgor Profiad y Cwsmer drwy gydol y cyfnod hwn 

  • adolygu’r cynnydd yn erbyn yr argymhellion a nodir yn adroddiad 2022 i 2023 a’r meysydd i’w canolbwyntio arnynt ar gyfer y flwyddyn i ddod 

Adroddiad blynyddol CThEF yn ymdrin â’n darpariaeth a chynnydd yn erbyn Siarter CThEF.[CG1]

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2024

Print this page