Welsh: Canolfan Byd Gwaith – cydweithio gyda chyflogwyr
Updated 3 July 2020
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ystod eang o wasanaethau i’ch helpu dyfu a datblygu eich busnes
Gwasanaeth wedi’i deilwra
Gall ein rhwydwaith o Ymgynghorwyr Cyfogwyr lleol gynnig gwasanaeth wedi’i deilwra i ddod o hyd i’r bobl gywir i’ch swyddi a chefnogi eich cymuned leol. Bydd eich Ymgynghorydd Cyfogwyr yn gweithio gyda chi i ddylunio pecyn pwrpasol i ddiwallu eich anghenion recriwtio, gan gynnwys:
-
darparu mynediad at hyfforddiant cyn cyfogaeth i roi gweithlu medrus i chi ar gyfer eich busnes
-
darparu cyfeoedd profad gwaith i helpu pobl adeiladu sgiliau swydd y gellir eu marchnata
-
cynnig treial gwaith ar gyfer darpar weithwyr, felly maent yn addas am y rôl honno a’ch cwmni
Yn ogystal, gallwn gynnig mwy o gymorth i gyfogwyr sydd wedi ymrwymo i greu cyfeoedd i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i lwyddo yn y farchnad lafur.
Gwasanaeth cyngor
Gallwn eich cyfeirio at ffynonellau cyngor a chymorth i fodloni anghenion busnes, sef:
-
pa mor hyblyg y gall gweithio mewn Credyd Cynhwysol fod o fudd i’ch busnes a helpu’ch gweithwyr symud ymlaen a datblygu yn eich cwmni
-
prentisiaethau a hyfforddeiaethau i helpu gynnal a thyfu eich busnes
-
eich helpu i ddeall eich pensiynau gweithle
-
sut y gall y cynllun Hyderus o ran Anabledd helpu eich busnes
-
addasiadau yn y gweithle a chyllid Mynediad at Waith i’ch helpu gefnogi a chadw gweithwyr sy’n anabl neu sydd â chyfwr iechyd hirdymor
-
cyngor a chymorth i chi a’ch gweithwyr os oes angen gwneud diswyddiadau
-
sut y gall cyfogi gweithlu amrywiol fod o fudd i’ch busnes
-
eich cysylltu â chyllid posibl i dyfu eich busnes trwy ein rhwydwaith partneriaeth
Gwasanaeth recriwtio
Hysbysebu’ch swyddi trwy ein gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir gan fliynau o bobl bob wythnos:
-
cofrestru ar gov.uk/hysbysebu-swydd i bostio a rheoli swyddi ar-lein 24/7, 365 diwrnod
-
hyrwyddo eich swydd wag drwy gwasanaeth Twitter lleol y Ganolfan Byd Gwaith
Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
Am gyngor ar wasanaethau Ganolfan Byd Gwaith neu gysylltu â’ch Ymgynghorydd Cyfogwyr lleol:
-
ffonio’r Llinell Gwasanaethau Cyfogwyr ar 0800 169 0278
-
cysylltu â ni trwy anfon neges uniongyrchol trwy’ch cyfrif Twitter Canolfan Byd Gwaith leol
-
cael gwybodaeth recriwtio ar wasanaethau Canolfan Byd Gwaith yn GOV.UK